
2002 Rhif 763 (Cy.82)
TAI, CYMRU
Gorchymyn Tai (Hawl i Brynu) (Blaenoriaeth Arwystlon) (Cymru) 2002
Wedi'u gwneud 19 Mawrth 2002
Yn dod i rym 8 Ebrill 2002
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 156(4) o Ddeddf Tai 1985 sydd wedi'u breinio bellach yng Nghynalliad Cenedlaethol Cymru i'r graddau y maent yn arferadwy yng Nghymru:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Gorchymym hwn yw Gorchymyn Tai (Hawl i Brynu) (Blaenoriaeth Arwystlon) (Cymru) 2002 a daw i rym ar 8 Ebrill 2002.
(2) Mae'r Gorchymym hwn yn gymwys i Gymru'n unig.
Cyrff a bennir
2 
Pennir y cyrff canlynol yn sefydliadau benthyg cymeradwy i ddibenion adran 156 o Ddeddf Tai 1985 (blaenoriaeth arwystlon)—
(a) igroup uk loans limited — Rhif y Cwmni 3749420
(b) igroup2 limited — Rhif y Cwmni 3610605
(c) igroup3 limited — Rhif y Cwmni 3730890
(ch) igroup4 limited — Rhif y Cwmni 3797432
(d) igroup5 limited — Rhif y Cwmni 3770763
(dd) igroup mortgages limited — Rhif y Cwmni 3770776
(e) E-Mex Home Funding Limited — Rhif y Cwmni 2124900
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
John Marek
Dirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol
19 Mawrth 2002