
2002 Rhif 758 (Cy.81) (C.18)
ARBED YNNI, CYMRU
Gorchymyn Deddf Cartrefi Cynnes ac Arbed Ynni 2000 (Cychwyn) (Cymru) 2002
Wedi'i wneud 19 Mawrth 2002
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn hwn drwy arfer y pŵer a roddwyd iddo gan adran 4(3) o Ddeddf Cartrefi Cynnes ac Arbed Ynni 2000:
Enw a chymhwyso
1 
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Cartrefi Cynnes ac Arbed Ynni 2000 (Cychwyn) (Cymru) 2002 ac mae'n gymwys i Gymru yn unig.
Dod i rym
2 
Mae adran 2 o Ddeddf Cartrefi Cynnes ac Arbed Ynni 2000 yn dod i rym yng Nghymru ar 1 Ebrill 2002.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
John Marek
Dirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol
19 Mawrth 2002