
2002 Rhif 757 (Cy.80)
LLYWODRAETH LEOL, CYMRU
Gorchymyn Llywodraeth Leol (Dangosyddion Perfformiad Gwerth Gorau) (Cymru) 2002
Wedi'u gwneud 19 Mawrth 2002
Yn dod i rym 1 Ebrill 2002
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pŵer a roddwyd iddo gan adrannau 4(1)(a) a (2) a 29(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1999 a hynny ar ôl yr ymgynghori y mae adran 4(3) o'r Ddeddf honno yn gofyn amdano.
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Llywodraeth Leol (Dangosyddion Perfformiad Gwerth Gorau) (Cymru) 2002 a daw i rym ar 1 Ebrill 2002.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru yn unig.
Diddymu
2 
Diddymir Gorchymyn Llywodraeth Leol (Dangosyddion Perfformiad Gwerth Gorau) (Cymru) 2001.
Dehongli
3 
Yn y Gorchymyn hwn—
 ystyr “awdurdod gwerth gorau” (“best value authority”) yw'r canlynol:
— mewn perthynas â Rhan 1 o'r Tabl yn Erthygl 4, cynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol, gan gynnwys, lle bo'n briodol, y cynghorau hynny yn gweithredu fel awdurdodau gwaredu gwastraff
— mewn perthynas â Rhan 2 o'r Tabl hwnnw, awdurdodau'r Parciau Cenedlaethol.
Dangosyddion Perfformiad
4 
Rhaid i berfformiad awdurdod gwerth gorau wrth arfer ei swyddogaethau gael ei fesur drwy gyfeirio at y dangosyddion perfformiad a bennir yn y Tabl isod mewn perthynas â'r swyddogaethau a nodir yn y Tabl.

TABLSwyddogaethau'r Awdurdodau Gwerth Gorau a'r Dangosyddion Perfformiad y Mesurir Perfformiad y Swyddogaethau hynny drwyddynt
Rhan 1
Llywodraeth Gorfforaethol
Pob dangosydd yn Atodlen 1
Addysg
Pob dangosydd yn Atodlen 2
Gwasanaethau Cymdeithasol
Pob dangosydd yn Atodlen 3
Tai
Pob dangosydd yn Atodlen 4
Gwasanaethau'r Amgylchedd
Pob dangosydd yn Atodlen 5
Trafnidiaeth
Pob dangosydd yn Atodlen 6
Cynllunio
Pob dangosydd yn Atodlen 7
Iechyd Amgylcheddol a Safonau Masnach
Pob dangosydd yn Atodlen 8
Gwasanaethau Diwylliannol a Pherthynol
Pob dangosydd yn Atodlen 9
Budd-dâl Tai a Budd-dâl Treth Gyngor
Pob dangosydd yn Atodlen 11
Diogelwch Cymunedol Trawsbynciol
Pob dangosydd yn Atodlen 12
Rhan 2
Llywodraeth Gorfforaethol Awdurdod Parciau Cenedlaethol
Pob dangosydd yn Atodlenni 7 a 10
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
John Marek
Dirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol
19 Mawrth 2002
ATODLEN 1
DAGOSYDDION LLYWODRAETH GORFFORAETHOL
Erthygl 4


Rhif y Dangosydd Disgrifiad y dangosydd
NAWPI 1.1 Lefelau cydymffurfio â chynllun Iaith Gymraeg yr awdurdod gwerth gorau a gadarnhawyd gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg.
NAWPI 1.2 Lefel safon y Comisiwn Cydraddoldeb Hiliol ar gyfer llywodraeth leol y mae'r awdurdod gwerth gorau yn cydymffurfio â hi.
NAWPI 1.3 Nifer y cwynion i Ombudsmon a ddosbarthwyd fel camweinyddu.
NAWPI 1.4 Y gyfran o'r gofrestr etholiadol a bleidleisiodd mewn etholiadau lleol (fel canran).
NAWPI 1.5 Y ganran o gydadweithiau â'r cyhoedd, yn ôl y math o weithrediad, y gellir eu cyflwyno drwy wasanaeth electronig sy'n cael eu cyflwyno wrth ddefnyddio rhyngrwyd a dulliau dibapur eraill.
NAWPI 1.6 Y ganran o anfonebau diddadl a dalwyd gan yr awdurdod gwerth gorau o fewn 30 diwrnod iddynt ddod i law.
NAWPI 1.7 Swm y dreth gyngor a gafwyd yn y flwyddyn ariannol fel canran o gyfanswm y debyd ar gyfer y flwyddyn ariannol.
NAWPI 1.8 Swm yr ardrethi annomestig a gafwyd, yn glir o ad-daliadau yn y flwyddyn adrodd fel canran o'r ardrethi gros sy'n daladwy yn y flwyddyn ariannol, wedi'i addasu ar gyfer rhyddhad trosiannol, yn llai rhyddhad ar eiddo bach a phob rhyddhad gorddewisol a gorfodol.
NAWPI 1.9 Y ganran o swyddi rheoli uwch a ddelir gan fenywod. Dylid eithrio'r holl staff mewn ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod gwerth gorau o'r cyfrif hwn.
NAWPI 1.10 Y nifer o'r dyddiau gwaith neu sifftiau am bob cyflogai cyfwerth amser llawn a gollwyd trwy absenoldeb oherwydd salwch gan weithwyr parhaol yr awdurdod gwerth gorau.
NAWPI 1.12 Ymddeoliadau ar sail afiechyd fel canran o weithlu'r awdurdod gwerth gorau.
NAWPI 1.13 Nifer y staff sy'n datgan eu bod yn ateb y diffiniad o anabledd yn Neddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd 1995 (p.50) fel canran o weithlu'r awdurdod gwerth gorau.
NAWPI 1.14 Y nifer o weithwyr o gymunedau ethnig lleiafrifol o fewn gweithlu'r awdurdod gwerth gorau fel canran o gyfanswm gweithlu'r awdurdod.
NAWPI 1.15 Y ganran o adeiladau'r awdurdod gwerth gorau sy'n agored i'r cyhoedd ac sy'n addas ac yn hygyrch i bobl anabl.
NAWPI 1.16 Digwyddiadau hiliol
(a) nifer y digwyddiadau hiliol a gofnodir gan yr awdurdod gwerth gorau am bob 100,000 o'i boblogaeth
(b) y ganran o'r digwyddiadau hiliol a arweiniodd at weithredu pellach.
NAWPI 1.17 Y nifer o leoedd mewn lloches rhag trais domestig am bob 10,000 o'r boblogaeth a ddarperir neu a gefnogir gan yr awdurdod gwerth gorau.
ATODLEN 2
DANGOSYDDION ADDYSG
Erthygl 4


Rhif y Dangosydd Disgrifiad y dangosydd
NAWPI 2.1 Cyfartaledd sgôr pwyntiau TGAU/GNVQ plant 15/16 oed mewn ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod gwerth gorau.
NAWPI 2.2 Canran y disgyblion mewn ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod gwerth gorau yn yr haf blaenorol a enillodd 5 TGAU neu ragor gyda graddau A* i C neu gymhwyster galwedigaethol cyfatebol.
NAWPI 2.3 Canran y disgyblion mewn ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod gwerth gorau yn yr haf blaenorol a enillodd un TGAU neu ragor gyda gradd G neu uwch neu gymhwyster galwedigaethol cyfatebol.
NAWPI 2.4 Canran y plant 11 oed mewn ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod gwerth gorau yn yr haf flaenorol a enillodd:
(a) Lefel 4 neu'n uwch na hynny ym mhrawf Mathemateg Cyfnod Allweddol 2 y Cwricwlwm Cenedlaethol.
(b) Lefel 4 neu'n uwch na hynny ym mhrawf Saesneg Cyfnod Allweddol 2 y Cwricwlwm Cenedlaethol.
(c) Lefel 4 neu'n uwch na hynny ym mhrawf Cymraeg (iaith gyntaf) Cyfnod Allweddol 2 y Cwricwlwm Cenedlaethol.
(ch) Lefel 4 neu'n uwch na hynny ym mhrawf Gwyddoniaeth Cyfnod Allweddol 2 y Cwricwlwm Cenedlaethol.
NAWPI 2.5 Canran y plant 14 oed mewn ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod gwerth gorau yn yr haf flaenorol a enillodd:
(a) Lefel 5 neu'n uwch na hynny ym mhrawf Mathemateg Cyfnod Allweddol 3 y Cwricwlwm Cenedlaethol.
(b) Lefel 5 neu'n uwch na hynny ym mhrawf Saesneg Cyfnod Allweddol 3 y Cwricwlwm Cenedlaethol.
(c) Lefel 5 neu'n uwch na hynny ym mhrawf Cymraeg (iaith gyntaf) Cyfnod Allweddol 3 y Cwricwlwm Cenedlaethol.
(ch) Lefel 5 neu'n uwch na hynny ym mhrawf Gwyddoniaeth Cyfnod Allweddol 3 y Cwricwlwm Cenedlaethol.
NAWPI 2.6 Canran y plant 15/16 oed sy'n ennill y “dangosydd pwnc craidd” — y disgyblion hynny sy'n ennill gradd C o leiaf mewn TGAU, Saesneg neu Gymraeg, Mathemateg a Gwyddoniaeth mewn cyfuniad.
NAWPI 2.7 Canran y plant 15/16 oed sy'n ymadael ag addysg amser-llawn heb gymhwyster cydnabyddedig.
NAWPI 2.8 Nifer y disgyblion a waharddwyd yn barhaol yn ystod y flwyddyn o ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod gwerth gorau am bob 1000 o ddisgyblion ar gofrestri ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod gwerth gorau:
(a) mewn ysgolion cynradd.
(b) mewn ysgolion uwchradd.
(c) mewn ysgolion arbennig.
NAWPI 2.11 Y ganran o'r disgyblion a waharddwyd yn barhaol sy'n dilyn:
(a) llai na 10 awr yr wythnos o addysgu arall
(b) rhwng 10 a 25 awr yr wythnos o addysgu arall
(c) rhagor na 25 awr yr wythnos o addysgu arall.
NAWPI 2.12 Y ganran o'r dosbarthiadau ysgol gynradd gyda mwy na 30 disgybl yn y blynyddoedd:
(a) derbyn i ddau yn gynwysedig
(b) tri i chwech.
NAWPI 2.13
(a)  Nifer y datganiadau a gyhoeddwyd yn ystod y flwyddyn
(b)  Y ganran o'r datganiadau anghenion addysgol arbennig, gan eithrio y rhai a gyfrifir yn “eithriadau i'r rheol” yn unol â'r Cod Ymarfer AAA (Anghgenion Addysg Arbennig):
(i) a baratowyd o fewn 18 wythnos,
(ii) a orffenwyd o fewn 26 wythnos.
NAWPI 2.14 Y ganran o bresenoldeb y rhai sy'n mynychu ysgolion uwchradd neu sydd yno yn cymryd rhan mewn gweithgareddau addysgiadol sydd wedi'u cymeradwyo.
ATODLEN 3
DANGOSYDDION Y GWASANAETHAU CYMDEITHASOL
Erthygl 4


Rhif y Dangosydd Disgrifiad y dangosydd
NAWPI 3.1 Sefydlogrwydd lleoliadau'r plant yn derbyn gofal gan yr awdurdod gwerth gorau drwy gyfeirio at ganran y plant sy'n derbyn gofal ar 31 Mawrth a gafodd dri lleoliad neu ragor yn ystod y flwyddyn ariannol.
NAWPI 3.2 Cymwysterau addysgol plant sy'n derbyn gofal gan yr awdurdod gwerth gorau drwy gyfeirio at y ganran o'r bobl ifanc 16 oed a throsodd a ymadawodd â gofal gyda'r nifer isod o TGAU gradd A* i G neu Gymhwyster Galwedigaethol Cenedlaethol Cyffredinol (GNVQ):
(a) un neu ragor
(b) dau neu ragor.
NAWPI 3.3 Y gyfran o bobl ifanc mewn gofal ar eu pen-blwydd yn 16 oed y mae ganddynt gynllun gofal a/neu gynllun llwybr fel sy'n addas ar gyfer eu gofal parhaol.
NAWPI 3.4 Canran y lleoliadau cyntaf (i blant sy'n derbyn gofal) sy'n dechrau gyda chynllun gofal wedi'i sefydlu.
NAWPI 3.5 Costau gwasanaethau i blant sy'n derbyn gofal gan awdurdod gwerth gorau drwy gyfeirio at wariant wythnosol gros am bob plentyn y gofelir amdano, mewn gofal maeth neu gartref i blant.
NAWPI 3.6 Y gost o ddarparu gwasanaethau cymdeithasol i oedolion drwy gyfeirio at gost gros bob wythnos am:
(a) gofal cartrefi preswyl a nyrsio
(b) gofal cartref.
NAWPI 3.7 Y gyfradd o'r bobl hyn (65 oed neu drosodd) y rhoddwyd cymorth iddynt fyw gartref am bob 1,000 o boblogaeth yr awdurdod gwerth gorau sy'n 65 oed neu drosodd.
NAWPI3.8 Y gyfradd o drosglwyddiadau gofal a ohirir am resymau gofal cymdeithasol am bob 1000 o'r boblogaeth 75 oed neu drosodd yn yr awdurdod gwerth gorau.
NAWPI 3.9 Y ganran o oedolion o gleientau sy'n cael datganiad o'u hanghenion a sut y byddant yn cael eu diwallu.
NAWPI 3.10 Y gyfradd o asesiadau o bobl 65 oed a throsodd am bob 1000 o'r boblogaeth 65 oed neu drosodd yn yr awdurdod gwerth gorau.
NAWPI 3.11 Nifer y nosweithiau o ofal seibiant a ddarperir neu a gyllidir gan yr awdurdod gwerth gorau am bob 1,000 o'r boblogaeth 18 oed neu drosodd yn yr awdurdod.
NAWPI 3.12 Y ganran o'r plant ar y gofrestr amddiffyn plant y dylid wedi adolygu eu hachosion, ac y cafodd eu hachosion eu hadolygu.
NAWPI 3.13 Y nifer o bobl 65 neu drosodd sy'n derbyn cymorth gan yr awdurdod gwerth gorau mewn cartrefi gofal preswyl neu gartrefi nyrsio am bob 1,000 o boblogaeth yr awdurdod sy'n 65 oed neu drosodd.
NAWPI 3.14 Y nifer o oedolion o dan 65 oed y mae'r awdurdod gwerth gorau yn eu helpu i fyw gartref am bob 1,000 o oedolion o dan 65 oed yn yr awdurdod, ym mhob un o'r grwpiau isod, o'u hystyried ar wahân:
(a) y rhai ag anabledd corfforol neu anabledd i'r synhwyrau,
(b) y rhai ag anabledd dysgu,
(c) y rhai â phroblemau iechyd meddwl.
NAWPI 3.15 Y ganran o achosion lle mae plant yn derbyn gwasanaeth gan weithiwr cymdeithasol neilltuedig sy'n addas i anghenion y plentyn, ym mhob un o'r grwpiau canlynol, o'u hystyried ar wahân:
(a) plant ar y gofrestr amddiffyn plant,
(b) plant sy'n derbyn gofal (peidiwch â chynnwys y plant sydd yng ngrwp (a) uchod),
(c) plant mewn angen (peidiwch â chynnwys y plant sydd yng ngrwpiau (a) a (b) uchod).
ATODLEN 4
DANGOSYDDION TAI
Erthygl 4


Rhif y Dangosydd Disgrifiad y dangosydd
NAWPI 4.1 Y gyfran o anheddau sector preifat lle mae gweithredu uniongyrchol gan yr awdurdod gwerth gorau wedi golygu:
(a) anheddau an-ffit wedi'u gwneud yn ffit neu wedi'u dymchwel
(b) anheddau yn dychwelyd i feddiannaeth yn ystod blwyddyn ariannol pan fuont yn sefyll yn wag am fwy na chwe mis ar ddechrau'r flwyddyn ariannol.
NAWPI 4.2 Effeithlonrwydd Ynni — dosbarthiad cyfartalog y Weithdrefn Asesu Safonol ar gyfer anheddau ym mherchenogaeth yr awdurdod gwerth gorau.
NAWPI 4.5 Casglu rhent ac ôl-ddyledion gan awdurdod gwerth gorau:
(a) ôl-ddyledion rhent y tenantiaid cyfredol fel cyfran o gyfanswm rhestr rhenti'r awdurdod gwerth gorau
(b) ôl-ddyledion rhent cyn-denantiaid fel cyfran o restr rhent yr awdurdod gwerth gorau
(c) rhent cyn-denantiaid a thenantiaid cyfredol a ddilëwyd gan na ellir ei gasglu, fel cyfran o gyfanswm rhestr rhenti'r awdurdod gwerth gorau.
NAWPI 4.6 Y gyfran o geisiadau digartrefedd y mae'r awdurdod gwerth gorau yn gwneud penderfyniad arnynt ac yn rhoi hysbysiad ysgrifenedig i'r ceisydd o fewn 33 diwrnod gwaith.
NAWPI 4.7 Cyfartaledd amserau ailosod ar gyfer anheddau'r awdurdod gwerth gorau a osodwyd yn ystod y flwyddyn ariannol.
NAWPI 4.10 Y ganran o atgyweiriadau a gwblhawyd o fewn yr amser targed
(a) wedi'u dosbarthu fel argyfwng
(b) wedi'u ddosbarthu fel rhai brys.
NAWPI 4.11 Yr amser cyfartalog a gymerwyd i gwblhau atgyweiriadau ymatebol nad oeddent yn rhai brys.
NAWPI 4.12 A yw'r awdurdod gwerth gorau yn dilyn cod ymarfer y Comisiwn Cydraddoldeb Hiliol ynglyn â thai ar rent?
NAWPI 4.13 Cyfranogiad tenantiaid:
(a) A oes yna Gompactau Cyfranogiad Tenantiaid (CCT) sy'n cynnwys pob landlord?
(b) Pryd oedd yr adolygiad mwyaf diweddar o CCT yn cynnwys pob landlord mewn partneriaeth gyda thenantiaid?
(c) Pa gyfran o denantiaid yr awdurdod gwerth gorau sy'n dod o dan adain CCT lleol neu grwp-benodol?
NAWPI 4.14 Effeithiolrwydd y dull cydgysylltiedig o ddelio â digatrefedd a thai cymdeithasol: Y nifer o aelwydydd digartref sy'n cael eu gosod mewn tai dros dro gan yr awdurdod gwerth gorau am fwy na chwe mis.
NAWPI 4.15 Cyfartaledd y rhent am bob tenant sy'n cael ei golli am fod anheddau wedi cael eu gadael yn wag yn ystod y flwyddyn ariannol.
Sylwer: At ddibenion dangosyddion perfformiad tai gwerth gorau, diffinnir annedd fel adeilad, neu ran o adeilad sy'n ffurfio safle ar wahân, neu sy'n lled ar wahân ac yn hunan-gynwysiedig, ac a ddyluniwyd i'w meddiannu gan aelwyd unigol.
ATODLEN 5
DANGOSYDDION AMGYLCHEDDOL
Erthygl 4


Rhif y dangosydd Disgrifiad y dangosydd
NAWPI 5.1 Cyfanswm y gwastraff trefol sy'n codi mewn tunelli—
(a) 
(i) y ganran sydd wedi'i ailgylchu neu ei ailddefnyddio
(ii) y ganran o weddillion llosgydd gwastraff, gwastraffoedd glanhau gadawedig sydd wedi'u hailgylchu
(b) y ganran sydd wedi'i gompostio
(c) y ganran sydd wedi'i ddefnyddio i adfer gwres, pŵer a ffynonellau ynni eraill
(ch) y ganran sydd wedi'i dirlenwi.
NAWPI 5.5 Y ganran o briffyrdd a thir perthnasol (fel y diffinir 'relevant land' yn adran 86 o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 (p.43)) a archwiliwyd ac y mae safon eu glanweithdra yn uchel neu'n dderbyniol.
NAWPI 5.6 Nifer y casgliadau a gollwyd am bob 100,000 o gasgliadau gwastraff cartref.
NAWPI 5.7 Y ganran o boblogaeth yr awdurdod gwerth gorau a wasanaethwyd gan gasgliad wrth ymyl y ffordd o ddeunyddiau y gellir eu hailgylchu.
ATODLEN 6
DANGOSYDDION TRAFNIDIAETH
Erthygl 4


Rhif y dangosydd Disgrifiad y dangosydd
NAWPI 6.1 Cost cynnal priffyrdd am bob km ar y prif ffyrdd.
NAWPI 6.2 Cost gwasanaethau bysiau â chymhorthdal am bob siwrnai a wneir gan deithiwr.
NAWPI 6.3 Cyflwr y ffyrdd
(a) cyflwr y prif ffyrdd
(b)  cyflwr ffyrdd heblaw'r prif ffyrdd.
NAWPI 6.4 Y ganran o lampau stryd nad ydynt yn gweithio.
NAWPI 6.5 Nifer yr anafusion mewn damweiniau ffyrdd am bob 100,000 o boblogaeth, wedi'i ddadansoddi yn ôl
(a) natur yr anafusion a
(b) y math o ddefnyddiwr ffordd.
NAWPI 6.6 Nifer y dyddiau o reolaeth traffig dros dro neu o gau ffyrdd a hynny ar ffyrdd sy'n sensitif i draffig wedi'i achosi gan waith ar ffyrdd yr awdurdod gwerth gorau am bob km o ffordd sy'n sensitif i draffig.
NAWPI 6.8 Cyfanswm y digwyddiadau a hysbyswyd o ddifrod peryglus i ffyrdd a phafinau ac a drwsiwyd neu a wnaed yn ddiogel o fewn 24 awr o'r adeg y daeth yr awdurdod gwerth gorau i wybod am y difrod gyntaf, fel canran o'r digwyddiadau hyn.
NAWPI 6.9 Y ganran o'r croesfannau cerddwyr gyda chyfleusterau i bobl anabl.
NAWPI 6.10 Y ganran o gyfanswm hyd y llwybrau troed a hawliau tramwy eraill sy'n hawdd eu defnyddio gan aelodau o'r cyhoedd.
ATODLEN 7
DANGOSYDDION CYNLLUNIO
Erthygl 4


Rhif y dangosydd Disgrifiad y dangosydd
NAWPI 7.1 Cynlluniau datblygu:
(a) a oes gan yr awdurdod gwerth gorau gynllun datblygu unedol sydd wedi'i sefydlu?Os nad oes, ewch i (b) a (c)
(b) a oes gan yr awdurdod gwerth gorau gynllun datblygu unedol wedi'i adneuo?
(c) pa ganran o boblogaeth yr awdurdod gwerth gorau sy'n cael ei gwmpasu gan gynlluniau lleol a fabwysiadwyd yn y pum mlynedd ddiwethaf?
NAWPI 7.3 Nifer y gwyriadau a hysbysebwyd o'r cynllun datblygu statudol sydd wedi'i fabwysiadu a gymeradwywyd gan yr awdurdod gwerth gorau fel canran o gyfanswm y caniatadau a roddwyd.
NAWPI 7.4 Y ganran o gyfanswm y ceisiadau a benderfynwyd o fewn 8 wythnos.
NAWPI 7.6 Ansawdd mewn gwasanaeth defnyddwyr (Rhestr gyfeirio Cymdeithas Swyddogion Cynllunio Cymru):— nifer y dangosyddion ansawdd a gyrhaeddir wedi'i fynegi fel cyfran o'u gyfanswm.
NAWPI 7.7 Y ganran o chwiliadau safonol tir statudol a gwblhawyd mewn 10 diwrnod gwaith.
NAWPI 7.8 Oes yna Gynllun Gweithredu Bioamrywiaeth Biolegol Lleol ar gyfer ardal yr awdurdod gwerth gorau?Os nac oes,fydd cynllun o'r fath yn cael ei sefydlu o fewn y 12 mis nesaf?
ATODLEN 8
DANGOSYDDION IECHYD AMGYLCHEDDOL A SAFONAU MASNACH
Erthygl 4


Rhif y dangosydd Disgrifiad y dangosydd
NAWPI 8.1 Y ganran o'r archwiliadau safleoedd bwyd y dylid bod wedi'u cynnal ac a gynhaliwyd mewn gwirionedd ar gyfer:
(a) safleoedd risg-uchel
(b) safleoedd eraill.
NAWPI 8.2/ BV 166 Sgôr yr awdurdod gwerth gorau yn erbyn y rhestr gyfeirio o arferion gorau gorfodi ar gyfer iechyd amgylcheddol/safonau masnach.
ATODLEN 9
DANGOSYDDION DIWYLLIANT
Erthygl 4


Rhif y dangosydd Disgrifiad y dangosydd
NAWPI 9.1 Nifer y disgyblion ysgol yn ymweld ag amgueddfeydd ac orielau mewn grwpiau wedi'u trefnu gan ysgolion.
NAWPI 9.2 Nifer yr ymweliadau corfforol â llyfrgelloedd cyhoeddus am bob 1,000 o boblogaeth yr awdurdod gwerth gorau yn ystod y flwyddyn ariannol.
NAWPI 9.3 Pyllau nofio a chanolfannau chwaraeon:nifer y nofiadau ac ymweliadau eraill am bob 1,000 o boblogaeth yr awdurdod gwerth gorau yn ystod y flwyddyn ariannol.
NAWPI 9.4 Meysydd chwarae:
(a) nifer y meysydd chwarae a llecynnau chwarae a ddarperir gan yr awdurdod gwerth gorau, am bob 1,000 o blant dan 12 oed yn ardal yr awdurdod gwerth gorau, a
(b) y ganran o'r rhain sydd:
(i) yn cydymffurfio â'r safonau cenedlaethol ar gyfer llecynnau chwarae digyfarpar lleol;
(ii) yn cydymffurfio â'r safonau cenedlaethol ar gyfer llecynnau chwarae lleol gyda chyfarpar;
(iii)  yn cydymffurfio â'r safonau cenedlaethol ar gyfer llecynnau chwarae bro mwy eu maint a chyda chyfarpar.
ATODLEN 10
DANGOSYDDION LLYWODRAETH GORFFORAETHOL AWDURDODAU PARCIAU CENEDLAETHOL
Erthygl 4


Rhif y dangosydd Disgrifiad y dangosydd
NAWPI 10.1 Lefelau cydymffurfio â chynllun iaith Gymraeg cymeradwy yr awdurdod gwerth gorau, fel a gadarnhawyd gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg.
NAWPI 10.2 Lefel safon y Comisiwn dros Gydraddoldeb Hiliol ar gyfer llywodraeth leol y mae'r awdurdod gwerth gorau yn cydymffurfio â hi.
NAWPI 10.3 Nifer y cwynion i Ombudsmon a ddosbarthwyd fel camweinyddu.
NAWPI 10.4 Y ganran o'r anfonebau di-ddadl a dalwyd gan yr awdurdod gwerth gorau o fewn 30 diwrnod iddynt ddod i law.
NAWPI 10.5 Y nifer o'r dyddiau gwaith neu sifftiau am bob cyflogai cyfwerth amser llawn yr awdurdod gwerth gorau a gollwyd drwy absenoldeb oherwydd salwch.
NAWPI 10.7 Ymddeoliadau ar sail afiechyd fel canran o weithlu'r awdurdod gwerth gorau.
NAWPI 10.8 Nifer y staff sy'n datgan eu bod yn ateb y diffiniad o anabledd yn Neddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd 1995 (p.50) fel canran o weithlu'r awdurdod gwerth gorau.
NAWPI 10.9 Y nifer o staff o gymunedau ethnig lleiafrifol yn ngweithlu'r awdurdod gwerth gorau fel canran o gyfanswm gweithlu'r awdurdod.
NAWPI 10.10 Y ganran o gydadweithiau â'r cyhoedd, yn ôl y math o weithrediad, y gellir eu cyflwyno drwy wasanaeth electronig sydd yn cael eu cyflwyno wrth ddefnyddio protocolau rhyngrwyd a dulliau dibapur eraill.
NAWPI 10.11 Y ganran o adeiladau'r awdurdod gwerth gorau sy'n agored i'r cyhoedd a'r ganran sy'n addas ac yn hygyrch i bobl anabl.
NAWPI 10.12 Ydy'r awdurdod gwerth gorau wedi ffurfio polisi gorfforaethol a gyfer lleihau trosedd ac anrhefn yn eu hardal?
ATODLEN 11
DANGOSYDDION BUDD-DÅL TAI A BUDD-DÅL TRETH GYNGOR
Erthygl 4


Rhif y dangosydd Disgrifiad y dangosydd
NAWPI 11.1 / BV76 Diogelwch: A oes gan yr awdurdod gwerth gorau strategaeth ysgrifenedig a blaenweithgar i fynd i'r afael â thwyll a chamgymeriadau sy'n ymgorffori mentrau penodedig gan gynnwys y rhai a noddir gan yr Adran Gwaith a Phensiynau (AGP) sy'n cael ei mynegi i'r holl staff yn rheolaidd?Oes/nac oes
NAWPI 11.3 (a)/ BV78a Cyflymder prosesu:
(a) Amser cyfartalog prosesu ceisiadau newydd.
NAWPI 11.3 (b)/ BV78b
(b)  Amser cyfartalog prosesu hysbysiadau newid amgylchiadau.
NAWPI 11.3 (c) BV78c
(c) Canran y ceisiadau adnewyddu a brosesir yn brydlon.
NAWPI 11.4 (a)/ BV79a Cywirdeb prosesu:
(a) Canran yr achosion yr oedd cyfrifiad swm y budd-dâl sy'n ddyledus yn gywir ar eu cyfer ar sail yr wybodaeth a oedd ar gael ar gyfer penderfynu, a hynny ar gyfer sampl o achosion sy'n cael ei gwirio ar ôl y penderfyniad arnynt.
NAWPI 11.4 (b)/ BV79b
(b) Canran y gor-daliadau adenilladwy (heb gynnwys Budd-dâl Treth Gyngor) a adenillwyd yn y flwyddyn ariannol.
Nodyn: Nodir diffiniadau o dermau a chanllawiau ar fesur perfformiad yn erbyn y dangosyddion hyn yn “The Housing Benefit and Council Tax Benefit Management Information System Guide” a gynhyrchwyd gan yr AGP.
ATODLEN 12
DANGOSYDDION DIOGELWCH CYMUNEDOL TRAWSBYNCIOL
Erthygl 4


Rhif y dangosydd Disgrifiad y dangosydd
NAWPI 12.1 / BV126 Byrgleriaethau domestig am bob 1,000 o aelwydydd yn ardal yr awdurdod gwerth gorau.
NAWPI 12.2 / BV127 Troseddau treisgar am bob 1,000 o boblogaeth yr awdurdod gwerth gorau:
(a) tramgwyddau treisgar a gyflawnwyd gan berson dieithr
(b) tramgwyddau treisgar a gyflawnwyd mewn man cyhoeddus
(c) tramgwyddau treisgar a gyflawnwyd mewn cysylltiad â safleoedd trwyddedig
(ch) tramgwyddau treisgar a gyflawnwyd o dan ddylanwad.
NAWPI 12.3 / BV128 Troseddau cerbydau am bob 1,000 o boblogaeth yr awdurdod gwerth gorau.
NAWPI 12.4 / BV173 A yw'r awdurdod gwerth gorau wedi sefydlu strategaeth gorfforaethol i leihau troseddau ac anhrefn yn eu hardal? Os nad ydyw, a yw'r awdurdod gwerth gorau wedi sefydlu amserlen ar gyfer gwneud hynny?