
2002 Rhif 677 (Cy.74)
PYSGODFEYDD MÔR, CYMRU
Rheoliadau Diwygio Gorchymyn Pysgota Môr (Gorfodi Mesurau Cymunedol ar gyfer Monitro â Lloeren) (Cymru) 2000 2002
Wedi'u gwneud 12 Mawrth 2002
Yn dod i rym 1 Ebrill 2002
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ei fod wedi'i ddynodi at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Cynulliad Cenedlaethol gan yr adran 2(2) uchod a phob pŵ er arall sy'n ei alluogi yn y cyswllt hwnnw, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Teitl, cychwyn ac eithrio
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diwygio Gorchymyn Pysgota Môr (Gorfodi Mesurau Cymunedol ar gyfer Monitro â Lloeren) (Cymru) 2000 2002 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2002.
(2) Ni fydd y ffaith bod rheoliad 5 o'r Rheoliadau hyn yn diddymu erthygl 4(2) o'r Gorchymyn yn effeithio ar ei chymhwyso mewn achos (pa bryd bynnag y mae'n digwydd) am dramgwydd yr honnir ei fod wedi'i gyflawni cyn i'r Rheoliadau hyn ddod i rym.
Dehongli
2 

(1) Yn y Rheoliadau hyn ystyr “y Gorchymyn” yw Gorchymyn Pysgota Môr (Gorfodi Mesurau Cymunedol ar gyfer Monitro â Lloeren) (Cymru) 2000.
(2) Dehongler ymadroddion a ddefnyddir mewn darpariaethau sy'n cael eu mewnosod gan y Rheoliadau hyn i mewn i'r Gorchymyn yn yr un modd â phetaent wedi'u mewnosod felly gan orchymyn a wnaed o dan adran 30(2) o Ddeddf Pysgodfeydd 1981.
Diwygio'r Gorchymyn
3 
Yn erthygl 2(1) (dehongli) o'r Gorchymyn mewnosoder yr is-baragraff canlynol yn union ar ôl y diffiniad o “cwch pysgota Prydeinig perthnasol”—“
 ystyr “dydd o'r wythnos” yw diwrnod heblaw dydd Sadwrn, dydd Sul neu wyl gyhoeddus;”.
4 

(1) Diwygir erthygl 3 (olrhain cychod pysgota â lloeren) o'r Gorchymyn fel a ganlyn.
(2) Ym mharagraff (3), dilëir is-baragraff (b) gan fewnosod yn union ar ôl is-baragraff (a)—“a
(b) yn ddarostyngedig i baragraffau (4) a (6), gael ei chadw yn hollol weithredol,”.
(3) Dilëir paragraff (4) gan roi'r paragraffau canlynol yn ei le—“
(4) Heb gyfyngu ar baragraff (3)(b) yn gyffredinol, rhaid peidio â barnu bod dyfais olrhain loerennol yn hollol weithredol at ddibenion yr is-baragraff hwnnw yn ystod unrhyw gyfnod y mae'n methu â gweithredu yn unol â pharagraff (5).
(5) Rhaid i ddyfais olrhain loerennol sydd wedi'i gosod ar gwch pysgota y mae'r erthygl hon yn gymwys iddi drosglwyddo'r wybodaeth a fynnwyd, yn y fformat a ragnodir gan Atodiad II i Reoliad 1489/97, i Ganolfan Monitro Pysgodfeydd—
(a) pan yw'r ddyfais olrhain loerennol yn gallu cael ei pholio—
(i) o leiaf bob dwy awr; neu
(ii) mewn achos y pennir cyfnod hwyaf uwch ar ei gyfer yn Atodiad I i Reoliad 1489/97, yn ôl cyfnodau nad ydynt yn uwch na'r cyfnod hwyaf hwnnw; neu
(b) pan nad yw'r ddyfais olrhain loerennol yn gallu cael ei pholio, o leiaf bob awr.
(6) Rhaid peidio â thrin y naill na'r llall o'r amgylchiadau canlynol fel rhai sy'n arwain at dorri'r gofyniad ym mharagraff (3)(b)—
(a) pan yw'r ddyfais wedi'i throi i ffwrdd o dan yr amodau a ganiateir gan Atodiad I i Reoliad 1489/97 (aros yn y porthladd am fwy na 48 awr, ar yr amod bod yr adroddiad nesaf yn dod o'r un lleoliad â'r un blaenorol);
(b) pan yw'r ddyfais yn methu yn dechnegol neu'n cau gweithredu o fewn ystyr “technical failure or non-function” yn Erthygl 6.2 o Reoliad 1489/97 tra bod y cwch pysgota naill ai yn y porthladd neu ar ganol taith bysgota a awdurdodir gan yr Erthygl honno.
(7) Drwy gydol unrhyw gyfnod—
(a) pan nad yw cwch pysgota Prydeinig perthnasol neu gwch pysgota o'r Alban y mae'r erthygl hon yn gymwys iddo yn y porthladd, a
(b) pan yw'r ddyfais olrhain loerennol sydd wedi'i gosod ar y cwch yn methu â gweithredu am unrhyw reswm yn unol â pharagraff (5),
heb ragfarnu Erthygl 6.1 o Reoliad 1489/97 (y gofyniad i drosglwyddo gwybodaeth i ganolfannau monitro gwladwriaethau'r faner ac, os yw'n briodol, gwladwriaethau'r arfordir drwy ddulliau eraill o leiaf bob 24 awr), rhaid trosglwyddo'r wybodaeth a fynnwyd i Ganolfan Monitro Pysgodfeydd y Deyrnas Unedig drwy un o'r dulliau a bennir yn yr Erthygl honno o leiaf bob dwy awr.”.
5 
Mae Erthygl 4(2) (tramgwyddau) o'r Gorchymyn yn cael ei diddymu.
6 
Yn erthygl 5(1) (cosbau) o'r Gorchymyn yn lle “neu (4)” mewnosodir “neu (7)”.
7 
Yn erthygl 6(3), dilëir y geiriau “adran 90 o Ddeddf Llysoedd Ynadon 1980,”.
8 

(1) Mae Erthygl 7 (pwerau swyddogion pysgodfeydd môr Prydeining mewn perthynas â chychod pysgota) o'r Gorchymyn yn cael ei diwygio fel a ganlyn.
(2) Ym mharagraff (1), yn lle “i (4)” rhoddir “i (8)”.
(3) Ar ôl paragraff (4) mewnosodir—“
(5) Os yw'n ymddangos i swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig fod y ddyfais olrhain loerennol ar gwch pysgota Prydeinig perthnasol neu gwch pysgota o'r Alban wedi methu â gweithredu, pan nad oedd y cwch yn y porthladd, yn unol ag erthygl 3(5) o'r Gorchymyn hwn, gall y swyddog hwnnw, yn ddarostyngedig i baragraff (7), unrhyw bryd y mae'r cwch mewn porthladd, gyflwyno i'r capten neu'r perchennog hysbysiad o dan baragraff (6).
(6) Mae'r hysbysiad y cyfeirir ato ym mharagraff (5) yn hysbysiad—
(a) sy'n ei gwneud yn ofynnol i'r cwch gael ei gadw yn y porthladd o adeg cyflwyno'r hysbysiad hyd nes i'r cyfnod monitro penodedig ddod i ben; a
(b) sy'n ei gwneud yn ofynnol i'r ddyfais gael ei gosod (mor agos ag y mae ei chyflwr yn caniatáu) fel ei bod yn trosglwyddo'r wybodaeth a fynnwyd i Ganolfan Monitro Pysgodfeydd y Deyrnas Unedig—
(i) yn achos dyfais sydd wedi'i dylunio i allu cael ei pholio, o leiaf bob dwy awr; a
(ii) yn achos dyfais nad yw wedi'i dylunio felly, o leiaf bob awr.
(7) Rhaid peidio â chyflwyno hysbysiad o dan baragraff (6) yn ddiweddarach na 30 diwrnod ar ôl y diwrnod diwethaf y methodd y ddyfais olrhain loerennol â gweithredu yn unol ag erthygl 3(5) o'r Gorchymyn hwn ym marn y swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig.
(8) Yn yr erthygl hon—
(a) ym mharagraffau (5) a (7) mae'r cyfeiriad at erthygl 3(5) o'r Gorchymyn hwn yn cynnwys darpariaeth i'r un perwyl a wnaed drwy orchymyn sy'n gymwys i ddyfroedd y tu hwnt i'r môr tiriogaethol cyfagos â Chymru;
(b) ym mharagraff (6) ystyr “y cyfnod monitro penodedig” yw cyfnod o 24 awr sy'n cael ei bennu yn yr hysbysiad (a rhaid i'r cyfnod hwnnw beidio â dechrau yn hwyrach na 9.00 a.m. ar y diwrnod o'r wythnos ar ôl y diwrnod y mae'r hysbysiad yn cael ei gyflwyno).”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
12 Mawrth 2002