
2002 Rhif 654 (Cy.70)
LLYWODRAETH LEOL, CYMRU
Gorchymyn Rhondda Cynon Taf a Bro Morgannwg (Llanhari, Pont-y-clun, Penllyn, Llanddunwyd a Phendeulwyn) 2002
Wedi'u gwneud 5 Mawrth 2002
Yn dod i rym yn unol ag erthygl 1(2)

Mae Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol Cymru wedi cyflwyno adroddiad i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol ag adran 54(1) a 58(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 sef adroddiad dyddiedig Mawrth 2001 ynghylch ei adolygiad ar ran o ardaloedd Cynghorau Bwrdeistref Rhondda Cynon Taf a Bro Morgannwg yng nghymunedau Llanhari, Pont-y-clun, Penllyn, Llanddunwyd a Phendeulwyn ynghyd â'r cynigion y maent wedi'u llunio yn eu cylch;
a chan fod Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi penderfynu rhoi eu heffaith i'r cynigion hynny heb eu haddasu;
a chan fod mwy na chwe wythnos wedi mynd heibio ers i'r cynigion hynny gael eu gwneud;

yn awr mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 58(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 sydd bellach wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru i'r graddau y maent yn arferadwy yng Nghymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol:
Enwi a chychwyn
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Rhondda Cynon Taf a Bro Morgannwg (Llanhari, Pont-y-clun, Penllyn, Llanddunwyd a Phendeulwyn) 2002.
(2) Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 6 Ebrill 2002, sef y diwrnod penodedig at ddibenion y Rheoliadau, ond at ddibenion pob achos sy'n arwain at etholiad neu'n ymwneud ag etholiad sydd i'w gynnal ar neu ar ôl y dyddiad hwnnw daw'r Gorchymyn hwn i rym ar y diwrnod ar ôl y diwrnod y caiff ei wneud.
Dehongli
2 
Yn y Gorchymyn hwn—
 ystyr “Bro Morgannwg” (“the Vale of Glamorgan”) yw Cyngor Bwrdeistref Sirol Bro Morgannwg;
 ystyr “y map ffiniau” (“the boundary map”) yw'r map a baratowyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ac a farciwyd “Map o Orchymyn Rhondda Cynon Taf a Bro Morgannwg (Llanhari, Pont-y-clun, Penllyn, Llanddunwyd a Phendeulwyn) 2002” a sydd wedi'I hadneuo yn unol a Rheoliad 5 o'r Rheoliadau;
 ystyr “y Rheoliadau” (“the Regulations”) yw Rheoliadau Newidiadau Ardaloedd Llywodraeth Leol 1976 fel y'u diwygiwyd;
 ystyr “Rhondda Cynon Taf” (“Rhondda Cynon Taff”) yw Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf.
Newid Ardaloedd Cymunedau
3 
Caiff y rhan honno o Rondda Cynon Taf sydd yng nghymuned Llanhari ac a ddangosir â llinellau croes du ar y map ffiniau ei gwahanu oddi wrth y fwrdeistref sirol a'r gymuned honno a bydd yn ffurfio rhan o gymuned Penllyn ym Mro Morgannwg.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Edwina Hart
Y Gweinidog dros Gyllid, Lywodraeth Leol a Chymunedau
5 Mawrth 2002

