
2002 Rhif 652 (Cy.69)
LLYWODRAETH LEOL, CYMRU
Gorchymyn Castell-nedd Port Talbot ac Abertawe (Trebannws a Chlydach) 2002
Wedi'u gwneud 5 Mawrth 2002
Yn dod i rym yn unol ag Erthygl 1(2)

Mae Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol Cymru wedi cyflwyno adroddiad i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol ag adran 54(1) a 58(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 sef adroddiad dyddiedig Mawrth 2001 ynghylch ei adolygiad ar ran o ardaloedd Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot a Dinas a Sir Abertawe (yng nghymunedau Pontardawe a Chlydach yn ardal Pontardawe Road) ynghyd â'r cynigion y maent wedi'u llunio yn eu cylch;
a chan fod Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi penderfynu rhoi eu heffaith i'r cynigion hynny heb eu haddasu;
a chan fod mwy na chwe wythnos wedi mynd heibio ers i'r cynigion hynny gael eu gwneud;

yn awr mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 58(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 sydd bellach wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru i'r graddau y maent yn arferadwy yng Nghymru yn rhinwedd Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999  yn gwneud y Gorchymyn canlynol:
Enwi a chychwyn
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Castell-nedd Port Talbot ac Abertawe (Trebannws a Chlydach) 2002.
(2) Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 6 Ebrill 2002, sef y diwrnod penodedig at ddibenion y Rheoliadau, ond at ddibenion pob achos sy'n arwain at etholiad neu'n ymwneud ag etholiad sydd i'w gynnal ar neu ar ôl y dyddiad hwnnw daw'r Gorchymyn hwn i rym ar y diwrnod ar ôl y diwrnod y caiff ei wneud.
Dehongli
2 
Yn y Gorchymyn hwn—
 ystyr “Abertawe” (“Swansea”) yw Cyngor Dinas a Sir Abertawe;
 ystyr “Castell-nedd Port Talbot” (“Neath Port Talbot”) yw Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot;
 ystyr “y map ffiniau” (“the boundary map”) yw'r map a baratowyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ac a farciwyd “Map o Orchymyn Castell-nedd Port Talbot ac Abertawe (Trebannws a Chlydach) 2002” a sydd wedi'i hadneuo yn unol a Rheoliad 5 o'r Rheoliadau;
 ystyr “y Rheoliadau” (“the Regulations”) yw Rheoliadau Newidiadau Ardaloedd Llywodraeth Leol 1976 fel y'u diwygiwyd .
Newid Prif Ardaloedd ac Ardaloedd Cymunedau
3 
Caiff y rhan honno o Gastell-nedd Port Talbot sydd yn ward Trebannws yng nghymuned Pontardawe ac a ddangosir â llinellau du ar y map ffiniau (sy'n cynnwys yr eiddo sy'n dwyn rhifau 162 i 172 Pontardawe Road) ei gwahanu oddi wrth y fwrdeistref sirol a'r gymuned honno a bydd yn ffurfio rhan o ward Clydach yn Abertawe.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Rhodri Morgan
Prif Weinidog
5 Mawrth 2002

