
2002 Rhif 651 (Cy.68)
LLYWODRAETH LEOL, CYMRU
Gorchymyn Blaenau Gwent a Chaerffili (Tredegar a Rhymni) 2002
Wedi'i wneud 5 Mawrth 2002
Yn dod i rym yn unol ag Erthygl 1(2)

Mae Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol Cymru wedi cyflwyno adroddiad i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol ag adran 54(1) a 58(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 sef adroddiad dyddiedig Chwefror 2001 ynghylch ei adolygiad ar ran o ardaloedd Cynghorau Bwrdeistref Blaenau Gwent a Chaerffili yng nghymunedau Tredegar a Rhymni yn ardal Tafarnau-bach ynghyd â'r cynigion y maent wedi'u llunio yn eu cylch;
a chan fod Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi penderfynu rhoi eu heffaith i'r cynigion hynny heb eu haddasu;
a chan fod mwy na chwe wythnos wedi mynd heibio ers i'r cynigion hynny gael eu gwneud;

yn awr mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 58(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 sydd bellach wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru i'r graddau y maent yn arferadwy yng Nghymru yn rhinwedd Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 yn gwneud y Gorchymyn canlynol:
Enwi a chychwyn
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Blaenau Gwent a Chaerffili (Tredegar a Rhymni) 2002.
(2) Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 6 Ebrill 2002, sef y diwrnod penodedig at ddibenion y Rheoliadau, ond at ddibenion pob achos sy'n arwain at etholiad neu'n ymwneud ag etholiad sydd i'w gynnal ar neu ar ôl y dyddiad hwnnw daw'r Gorchymyn hwn i rym ar y diwrnod ar ôl y diwrnod y caiff ei wneud.
Dehongli
2 
Yn y Gorchymyn hwn—
 ystyr “Blaenau Gwent” (“Blaenau Gwent”) yw Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent;
 ystyr “Caerffili” (“Caerphilly”) yw Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili;
 ystyr “y map ffiniau” (“the boundary map”) yw'r map a baratowyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ac a farciwyd “Map o Orchymyn Blaenau Gwent a Chaerffili (Tredegar a Rhymni) 2002” a sydd wedi'i hadneuo yn unol a Rheoliadau 5 o'r Rheoliadau;
 ystyr “y Rheoliadau” (“the Regulations”) yw Rheoliadau Newidiadau Ardaloedd Llywodraeth Leol 1976 fel y'u diwygiwyd .
Newid Ardaloedd Cymunedau
3 
Caiff y rhan honno o gymuned Rhymni sydd yng Nghaerffili ac a ddangosir â llinellau du ar y map ffiniau ei gwahanu oddi wrth y fwrdeistref sirol a'r gymuned honno a bydd yn ffurfio rhan o gymuned Tredegar ym Mlaenau Gwent.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Edwina Hart
Y Gweinidog dros Lywodraeth Leol, Cyllid a Chymunedau
5 Mawrth 2002

