
2002 Rhif 46 (Cy.5)
ADDYSG, CYMRU
Rheoliadau Addysg (Cyraeddiadau Disgyblion Unigol) (Gwybodaeth) (Cymru) (Diwygio) 2002
Wedi'u gwneud 14 Ionawr 2002
Yn dod i rym 4 Chwefror 2002
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan nad oes neb yr oedd yn ymddangos iddo y byddai'n ddymunol ymgynghori â hwy, yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 408 a 569(4) a (5) o Ddeddf Addysg 1996 ac sydd bellach wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru.
Enwi a chychwyn
1 
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Cyraeddiadau Disgyblion Unigol) (Gwybodaeth) (Cymru) (Diwygio) 2002 a deuant i rym ar 4 Chwefror 2002.
Diwygio Rheoliadau
2 

(1) Mae Rheoliadau Addysg (Cyraeddiadau Disgyblion Unigol) (Gwybodaeth) (Cymru) 1997 yn cael eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2(1), yn lle diffiniadau “NC tests” (yn y ddau le) ac “NC tasks” rhowch—“
 “NC tests” and “NC tasks” mean, respectively, National Curriculum tests and National Curriculum tasks administered to pupils in accordance with the statutory arrangements;”.
(3) Yn rheoliad 3(11) hepgorwch “first”.
(4) Yn rheoliad 7(2)(a)(ii) hepgorwch “grant-maintained school, a grant-maintained special school or a”.
(5) Yn Atodlen 1, yn lle is-baragraff (2) o baragraff 1 rhowch—“
 The results of teacher assessment of the pupil’s level in the attainment targets in English entitled ‘Speaking and Listening’, ‘Reading’ and ‘Writing’, and in the attainment targets in Welsh entitled ‘Oral (Speaking, Viewing and Listening)’, ‘Reading’ and ‘Writing’.”.
(6) Yn Atodlen 2, yn is-baragraff (2) o baragraff 1 hepgorwch y geiriau o “and by NC tests” i ddiwedd yr is-baragraff hwnnw, a hepgorwch y cyfan o is-baragraff (5) o'r paragraff hwnnw.
(7) Yn Atodlen 3, yn is-baragraff (1) o baragraff 1 yn lle “Welsh Office” rhowch “National Assembly for Wales”.
(8) Yn Atodlen 3, yn is-baragraff (2) o baragraff 1 yn lle “shown (in every case) both as determined by teacher assessment and by NC tests”, rhowch “as determined by teacher assessment”, a hepgorwch is-baragraff (5) o'r paragraff hwnnw.
Llofndowyd ar ran Cynulliad Cenedlethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
Rhodri Morgan
Prif Ysgrifennydd y Cynulliad Cenedlaethol
14 Ionawr 2002