
2002 Rhif 442 (Cy.57)
GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU
Gorchymyn Diwygio Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Felindre (Sefydlu) 2002
Wedi'u gwneud 28 Chwefror 2002
Yn dod i rym 1 Ebrill 2002
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i Ysgrifennydd Gwladol Cymru gan adran 126(3) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977 , adran 5(1) a (6) o Ddeddf Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990 ac a freiniwyd bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru wedi cwblhau'r ymgynghori a ragnodwyd o dan adran 5(2) o Ddeddf Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990), drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:
Enwi a chychwyn
1 

(1) Enw'r gorchymyn hwn yw Gorchymyn Diwygio Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Felindre (Sefydlu) 2002 a daw i rym ar 1 Ebrill 2002.
(2) Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y prif Orchymyn” (“the principal Order”) yw Gorchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Sefydlu)1993 fel y'i diwygiwyd.
Diwygio erthygl 3 o'r prif Orchymyn
2 
Rhaid diwygio'r prif Orchymyn fel a ganlyn:—
 ar ddiwedd erthygl 3(2)(b) ychwaneger—
(c) to manage and provide to or in relation to the health service in Wales a range of information technology systems and associated support and consultancy services, desktop services, web development, telecommunications services, healthcare information services and services relating to prescribing and dispensing .
Diwygio erthygl 4 o'r prif Orchymyn
3 
Yn erthygl 4 o'r prif Orchymyn (Cyfarwyddwyr yr ymddiriedolaeth), am “4 non-executive directors” amnewidier “6 non-executive directors”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
28 Chwefror 2002