
2002 Rhif 431 (Cy.53)
ANIFEILIAID, CYMRUIECHYD ANIFEILIAID
Rheoliadau Cyfyngiadau Mewnforio ac Allforio (Clwy'r Traed a'r Genau) (Cymru) (Rhif 2) (Diddymu) 2002
Wedi'u gwneud 26 Chwefror 2002
Yn dod i rym 27 Chwefror 2002
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ei fod wedi'i ddynodi at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan yr adran honno, a phob pŵer arall sy'n ei alluogi yn y cyswllt hwnnw, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:—
Enw, cymhwyso a chychwyn
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyfyngiadau Mewnforio ac Allforio (Clwy'r Traed a'r Genau) (Cymru) (Rhif 2) (Diddymu) 2002 ac maent yn gymwys i Gymru.
(2) Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 27 Chwefror 2002.
Diddymu Rheoliadau Cyfyngiadau Mewnforio ac Allforio (Clwy'r Traed a'r Genau) (Cymru) (Rhif 2) 2002
2 
Diddymir Rheoliadau Cyfyngiadau Mewnforio ac Allforio (Clwy'r Traed a'r Genau) (Cymru) (Rhif 2) 2002.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
Dyddiad 26 Chwefror 2002