
2002 Rhif 430 (Cy.52)
ANIFEILIAID, CYMRUIECHYD ANIFEILIAID
Rheoliadau Anifeiliaid a Chynhyrchion Anifeiliaid (Mewnforio ac Allforio) (Lloegr a Chymru) (Diwygio) (Cymru) 2002
Wedi'u gwneud 26 Chwefror 2002
Yn dod i rym 27 Chwefror 2002
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ei fod wedi'i ddynodi at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan yr adran honno, a phob pŵer arall sy'n ei alluogi yn y cyswllt hwnnw, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol—
Enw, cymhwyso a chychwyn
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Anifeiliaid a Chynhyrchion Anifeiliaid (Mewnforio ac Allforio) (Lloegr a Chymru) (Diwygio) (Cymru) 2002.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.
(3) Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 27 Chwefror 2002.
Diwygio Rheoliadau Anifeiliaid a Chynhyrchion Anifeiliaid (Mewnforio ac Allforio) (Lloegr a Chymru) 2000
2 

(1) Diwygir Rheoliadau Anifeiliaid a Chynhyrchion Anifeiliaid (Mewnforio ac Allforio) (Lloegr a Chymru) 2000 mewn perthynas â Chymru yn unol â darpariaethu canlynol y rheoliad hwn.
(2) Yn rheoliad 12—
(a) ym mharagraff (2) wedi'r geiriau “Council Directive 64/432/EEC” ychwaneger y geiriau “and is satisfied that the operator of the assembly centre has agreed to comply with the requirements for the operation of the centre which an inspector has specified in an operational agreement as being the requirements the inspector believes are necessary to ensure the centre is capable of being operated in accordance with the second indent of paragraph 3(2) of Council Directive 90/425/EEC”; a
(b) ym mharagraff (3) wedi'r geiriau “cattle or pigs” mewnosoder y geiriau “or sheep or goats”.
(3) Yn Atodlen 3, Rhan I, paragraff 9, wedi'r geiriau “Commission Decision 97/315/EC (OJ No. L137, 28.5.97, t.20);” mewnosoder y canlynol—“Commission Decision 2001/327/EC (OJ No. L115, 25.4.2001, p. 12), as amended by Decisions 2001/349/EC (OJ No. L123, 04/05/2001, p.26), 2001/378/EC (OJ No. L132, 15/05/2001, p. 31), 2001/394/EC (OJ No. L138, 22/05/2001, p. 36), 2001/416/EC (OJ No. L149, 02/06/2001, p. 40), 2001/448/EC (OJ No. L176, 29/06/2001, p. 75), 2001/709/EC (OJ No. L261, 29/09/2001, p. 69), 2001/904/EC (OJ No. L335, 19.12.2001, p. 21) and 2002/153/EC (OJ No. L50, 21.2.2002, p. 98);”.
(4) Yn Atodlen 3, Rhan I wedi paragraff 15 ychwaneger y paragraff canlynol—“
Animals of species susceptible to foot-and-mouth disease
16 
Commission Decision 2001/327/EC (OJ No. L115, 25.4.2001, p. 12), as amended by Decisions 2001/349/EC (OJ No. L123, 04/05/2001, p.26), 2001/378/EC (OJ No. L132, 15/05/2001, p. 31), 2001/394/EC (OJ No. L138, 22/05/2001, p. 36), 2001/416/EC (OJ No. L149, 02/06/2001, p. 40), 2001/448/EC (OJ No. L176, 29/06/2001, p. 75), 2001/709/EC (OJ No. L261, 29/09/2001, p. 69), 2001/904/EC (OJ No. L335, 19.12.2001, p. 21) and 2002/153/EC (OJ No. L50, 21.2.2002, p. 98).
Relevant provisions: article 2a.”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
26 Chwefror 2002