
2002 Rhif 331 (Cy.44)
ARDRETHU A PHRISIO, CYMRU
Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Ardrethi Gwledig) (Cymru) 2002
Wedi'i wneud 13 Chwefror 2002
Yn dod i rym 1 Ebrill 2002
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 43(6B)(b) a (c)(ii) a 47(3A)(b) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 sydd bellach wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru i'r graddau y maent yn arferadwy yng Nghymru .
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Ardrethi Gwledig) (Cymru) 2002 a daw i rym ar 1 Ebrill 2002.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru yn unig.
Dehongli
2 
Yn y Gorchymyn hwn—
 ystyr “Deddf 1949” (“1949 Act”) yw Deddf Telegraffiaeth Ddiwifr 1949;
 ystyr “Deddf 1984” (“1984 Act”) yw Deddf Telathrebu 1984);
 ystyr “Deddf 1988” (“1988 Act”) yw Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988;
 ystyr “gorsaf betrol” (“petrol filling station”) yw safle lle mae petrol neu danwyddau eraill ar gyfer moduron yn cael eu hadwerthu i'r cyhoedd yn gyffredinol, yn danwydd ar gyfer cerbydau modur sydd wedi'u bwriadu neu wedi'u haddasu i'w defnyddio ar ffyrdd;
 mae “offer telathrebu” (“telecommunications apparatus”) yn cynnwys—
(a) offer telathrebu o fewn yr ystyr a roddir i “telecommunications apparatus” gan Atodlen 2 i Ddeddf 1984 sy'n cael ei ddefnyddio, neu sydd wedi'i ddylunio i gael ei ddefnyddio, ar gyfer
(i) telegraffiaeth ddiwifr o fewn yr ystyr a roddir i “wireless telegraphy” gan adran 19 o Ddeddf 1949, neu
(ii) darlledu; a
(b) strwythurau ar lun cytiau neu adeiladau eraill (gan gynnwys strwythurau sy'n ffurfio rhan yn unig o adeilad) sy'n cael eu defnyddio, neu sydd wedi'u dylunio i gael eu defnyddio dim ond i gynnwys offer sy'n dod o fewn y disgrifiad ym mharagraff (a);ynghyd ag unrhyw offer atodol a feddiennir dim ond at ddibenion person sydd wedi'i drwyddedu i redeg system delathrebu o dan adran 1 o Ddeddf 1949 neu adran 7 o Ddeddf 1984;
 ystyr “peiriant arian awtomatig” (“automatic teller machine”) yw cyfleuster awtomataidd sy'n cynnig cyswllt hunan-wasanaeth ag amrediad o wasanaethau banc;
 ystyr “siop gyffredinol” (“general store”) yw safle lle rhedir masnach neu fusnes sy'n cynnwys yn bennaf adwerthu bwyd i bobl ei fwyta (heblaw melysion) a nwyddau ty cyffredinol;
 ystyr “swyddfa bost” (“post office”) yw safle a ddefnyddir at ddibenion darparydd gwasanaethau cyffredinol o fewn yr ystyr a roddir i “universal service provider” gan Ddeddf Gwasanaethau Post 2000 ac mewn cysylltiad â darparu gwasanaeth post cyffredinol o fewn yr ystyr a roddir i “universal postal service” gan y Ddeddf honno; ac
 ystyr “tafarn” (“public house”) yw safle y mae angen mewndrwydded ynadon ar ei gyfer o fewn yr ystyr a roddir i “justices' on-licence” gan Ddeddf Trwyddedu 1964 (heblaw trwydded Rhan IV o fewn yr ystyr a roddir i “Part IV licence” gan y Ddeddf honno).
Terfyn gwerth trethiannol
3 
Mewn perthynas â hereditament a ddangosir yn rhestr ardrethu annomestig awdurdod bilio yng Nghymru—
(a) y swm a ragnodir at ddibenion adran 43(6B)(b) o Ddeddf 1988 yw—
(i) yn achos tafarn neu orsaf betrol, £9,000; a
(ii) mewn unrhyw achos arall, £6,000; a
(b) y swm a ragnodir at ddibenion adran 47(3A)(b) o Ddeddf 1988 yw £12,000.
Amodau ar gyfer rhyddhad
4 
Yr amodau a ragnodir at ddibenion adran 43(6B)(c)(ii) o Ddeddf 1988 yw nad yw'r hereditament—
(a) yn cael ei ddefnyddio at y canlynol yn unig—
(i) arddangos hysbysebion, neu
(ii) parcio cerbydau modur, neu
(iii) offer telathrebu, neu
(iv) peiriant arian awtomatig;
(b) yn cael ei ddefnyddio yn gyfan gwbl neu'n rhannol fel siop gyffredinol neu swyddfa bost; ac
(c) yn eiddo i'r Goron.
Diddymu
5 
Mae Erthygl 3 o Orchymyn Ardrethu Annomestig (Aneddiadau Gwledig) (Cymru) 1998 wedi'i ddiddymu.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
John Marek
Dirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol
13 Chwefror 2002