
2002 Rhif 3276 (Cy.314)
LLYWODRAETH LEOL, CYMRU
Gorchymyn Bwrdeistref Sirol Casnewydd (Newidiadau Etholiadol) 2002
Wedi'i wneud 6 Rhagfyr 2002
Yn dod i rym yn unol ag erthygl 1(2)
Yn unol ag adrannau 58(1) a 64 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, cyflwynodd Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol Cymru gynigion yn Rhagfyr 1999 ar gyfer trefniadau etholiadol y dyfodol ar gyfer Bwrdeistref Sirol Casnewydd. Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ei fod wedi cytuno â'r cynigion, yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 58(2) a 67(4) a (5) o'r Ddeddf:
Enwi, cychwyn a dehongli
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Bwrdeistref Sirol Casnewydd (Newidiadau Etholiadol) 2002.
(2) Daw'r Gorchymyn hwn i rym:
(a) at ddibenion achosion, sy'n arwain at unrhyw etholiad neu'n ymwneud ag unrhyw etholiad sydd i'w gynnal ar 6 Mai 2004, ar 9 Hydref 2003, a
(b) at bob diben arall, ar 6 Mai 2004.
(3) Yn y Gorchymyn hwn—
 ystyr “adran etholiadol” (“electoral division”) yw un o adrannau etholiadol Bwrdeistref Sirol Casnewydd fel y'i sefydlwyd gan Orchymyn Trefniadau Etholiadol Bwrdeistref Sirol Casnewydd 1994;
 ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Llywodraeth Leol 1972.
Adrannau Etholiadol
2 

(1) Diddymir adrannau etholiadol presennol Bwrdeistref Sirol Casnewydd a bennir yn yr Atodlen i Orchymyn Trefniadau Etholiadol Bwrdeistref Sirol Casnewydd 1994.
(2) At ddibenion ethol cynghorwyr ar gyfer Bwrdeistref Sirol Casnewydd, rhennir y Fwrdeistref Sirol honno yn 20 o adrannau etholiadol yn dwyn yr enwau a bennir yng ngholofn (1) o'r Atodlen i'r gorchymyn hwn, a bydd pob adran etholiadol o'r fath yn cynnwys yr ardal a bennir yng ngholofn (2) o'r Atodlen honNo. 
(3) Y nifer a bennir mewn perthynas â'r adran yng ngholofn (3) o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn fydd y nifer o gynghorwyr sydd i'w hethol ar gyfer pob adran etholiadol o'r fath.
Y Gofrestr o Etholwyr Llywodraeth Leol
3 
Rhaid i'r swyddog cofrestru wneud unrhyw ad-drefniadau neu addasiadau i'r gofrestr o etholwyr llywodraeth leol sy'n angenrheidiol am fod y Gorchymyn hwn yn dod i rym.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru
E.Hart
Y Gweinidog dros Lywodraeth Leol, Cyllid a Chymunedau
6 Rhagfyr 2002
YR ATODLEN
Enwau, ardaloedd a'r nifer o gynghorwyr ar gyfer adrannau etholiadol Bwrdeistref Sirol Casnewydd
ERTHYGL 2


(1) (2) (3)
Enw'r Adran Etholiadol Ardal yr Adran tholiadol Y Nifer o Gynghorwyr
Allt-yr-ynn Cymuned Allt-yr-ynn 3
Alway Cymuned Alway 3
Beechwood Cymuned Beechwood 3
Betws Cymuned Betws 3
Caerllion Cymuned Caerllion 3
Y Gaer Cymuned y Gaer 3
Y Graig Cymuned y Graig 2
Langstone Cymunedau Langstone, Llanfaches a Phen-hŵ 2
Liswerry Cymunedau Liswerry a Threfonnen 4
Llan-wern Cymunedau Trefesgob, Allteuryn, Llan-wern a Redwick 1
Malpas Cymuned Malpas 3
Maerun Cymunedau Coedcernyw, Maerun, Llanfihangel-y-fedw a Gwynllwg 2
Pilgwenlli Cymuned Pilgwenlli 2
Ringland Cymuned Ringland 3
Tŷ-du Cymuned Tŷ-du 3
Shaftesbury Cymuned Shaftesbury 2
Sain Silian Cymuned Sain Silian 3
Stow Hill Cymuned Stow Hill 2
Parc Tredegar Cymuned Parc Tredegar 1
Victoria Cymuned Victoria 2