
2002 Rhif 3272 (Cy.310)
LLYWODRAETH LEOL, CYMRU
Gorchymyn Ceredigion a Sir Benfro (Llandudoch) 2002
Wedi'i wneud 6 Rhagfyr 2002
Yn dod i rym yn unol ag Erthygl 1(2)

Mae Comisiwn Ffiniau Llwyodraeth Leol i Gymru wedi cyflwyno adroddiad dyddiedig Rhagfyr 2001 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol ag adrannau 54(1) a 58(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 ar ei adolygiad ar ran o'r ffin rhwng Sir Ceredigion a Sir Benfro yn ardal Cymuned Llandudoch ynghyd â'r cynigion y mae wedi eu llunio amdani;
a chan bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi penderfynu rhoi effaith i'r cynigion hyn gydag addasiadau y mae eu heffaith yn cynnwys trosglwyddo ardal o dir sy'n gyffiniol â'r eiddo “Parc y Ffrier” o Sir Ceredigion i Sir Benfro;
a bod mwy na chwe wythnos wedi mynd heibio ers i'r cynigion hynny gael eu gwneud;

yn awr mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 58(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 ac a freiniwyd yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru i'r graddau y maent yn arferadwy yng Nghymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol:—
Enwi a chychwyn
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ceredigion a Sir Benfro (Llandudoch) 2002.
(2) Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Ebrill 2003, sef y diwrnod penodedig at ddibenion y Rheoliadau, ond at ddibenion pob achos sy'n arwain at etholiad neu'n ymwneud ag etholiad sydd i'w gynnal ar neu ar ôl y dyddiad hwnnw daw'r Gorchymyn hwn i rym ar y diwrnod ar ôl y diwrnod y caiff ei wneud.
Dehongli
2 
Yn y Gorchymyn hwn—
 ystyr “Ceredigion” yw Sir Ceredigion.
 ystyr “map ffiniau A” (“boundary map A”) yw'r map a gafodd ei baratoi gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru a'i farcio “Map A Gorchymyn Ceredigion a Sir Benfro (Llandudoch) 2002” ac a adneuwyd yn unol â Rheoliad 5 o'r Rheoliadau;
 ystyr “map ffiniau B” (“boundary map B”) yw'r map a gafodd ei baratoi gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru a'i farcio “Map B Gorchymyn Ceredigion a Sir Benfro (Llandudoch) 2002” ac a adneuwyd yn unol â Rheoliad 5 o'r Rheoliadau;
 ystyr “y Rheoliadau” (“the Regulations”) yw Rheoliadau Newidiadau i Ardaloedd Llywodraeth Leol 1976 (fel y'i diwygiwyd);
 ystyr “Sir Benfro” (“Pembrokeshire”) yw Sir Benfro.
Newidiadau i Ardaloedd Cymunedau
3 
Bydd y rhannau o Geredigion a farciwyd A ar fap ffiniau A ac a farciwyd B ar fap ffiniau B yn cael eu gwahanu oddi wrth y sir honno a byddant yn ffurfio rhan o Sir Benfro. Gan hynny bydd cymuned Llandudoch yn ffurfio rhan o Sir Benfro.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru
E. Hart
Y Gweinidog dros Gyllid, Llywodraeth Leol a Chymunedau
6 Rhagfyr 2002

