
2002 Rhif 3270 (Cy.308)
LLYWODRAETH LEOL, CYMRU
Gorchymyn Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro (Clynderwen, Cilymaenllwyd a Henllanfallteg) 2002
Wedi'i wneud 6 Rhagfyr 2002
Yn dod i rym yn unol ag Erthygl 1(2)

Mae Comisiwn Ffiniau Llwyodraeth Leol Cymru wedi cyflwyno adroddiad dyddiedig Rhagfyr 2001 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol ag adran 54(1) a 58(1) o Deddf Llywodraeth Leol 1972 ar ei adolygiad ar y rhan o'r ffin rhwng Siroedd Caerfyrddin a Phenfro yn ardal cymunedau Clynderwen a Gorllewin Llandysilio ynghyd â'r cynigion y mae wedi eu llunio amdani;
a chan fod Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi penderfynu rhoi eu heffaith i'r cynigion hyn gydag addasiadau ac effaith yr addasiadau yw cynnwys trosglwyddo'r tir a'r eiddo a elwir “Troed y Rhiw”;
a bod mwy na chwe wythnos wedi mynd heibio ers i'r cynigion hynny gael eu gwneud;

yn awr mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 58(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 ac a freiniwyd yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru i'r graddau y maent yn arferadwy yng Nghymru drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:—
Enwi a chychwyn
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro (Clynderwen, Cilymaenllwyd a Henllanfallteg) 2002.
(2) Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Ebrill 2003 sef y diwrnod penodedig at ddibenion y Rheoliadau hyn, ac eithrio'r ffaith y bydd y Gorchymyn hwn at ddibenion pob achos rhagarweiniol neu achos sy'n ymwneud ag etholiad sydd i'w gynnal ar neu ar ôl y dyddiad hwnnw yn dod i rym drannoeth y diwrnod y caiff ei wneud.
Dehongli
2 
Yn y Gorchymyn hwn —
 ystyr “map ffiniau A” (“boundary map A”) yw'r map a gafodd ei baratoi gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru a'i farcio “Map A Gorchymyn Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro (Clynderwen, Cilymaenllwyd a Henllanfallteg) 2002” ac a adneuwyd yn unol â Rheoliad 5 o'r Rheoliadau;
 ystyr “map ffiniau B” (“boundary map B”) yw'r map a gafodd ei baratoi gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru a'i farcio “Map B Gorchymyn Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro (Clynderwen, Cilymaenllwyd a Henllanfallteg) 2002” ac a adneuwyd yn unol â Rheoliad 5 o'r Rheoliadau;
 ystyr “map ffiniau C” (“boundary map C”) yw'r map a gafodd ei baratoi gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru a'i farcio “Map C Gorchymyn Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro (Clynderwen, Cilymaenllwyd a Henllanfallteg) 2002” ac a adneuwyd yn unol â Rheoliad 5 o'r Rheoliadau;
 ystyr “map ffiniau Ch” (“boundary map D”) yw'r map a gafodd ei baratoi gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru a'i farcio “Map Ch Gorchymyn Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro (Clynderwen, Cilymaenllwyd a Henllanfallteg) 2002” ac a adneuwyd yn unol â Rheoliad 5 o'r Rheoliadau;
 ystyr “map ffiniau D” (“boundary map E”) yw'r map a gafodd ei baratoi gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru a'i farcio “Map D Gorchymyn Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro (Clynderwen, Cilymaenllwyd a Henllanfallteg) 2002” ac a adneuwyd yn unol â Rheoliad 5 o'r Rheoliadau;
 ystyr “y Rheoliadau” (“the Regulations”) yw Rheoliadau Newidiadau i Ardaloedd Llywodraeth Leol 1976 (fel y'i diwygiwyd);
 ystyr “Sir Benfro” (“Pembrokeshire”) yw Sir Benfro;
 ystyr “Sir Gaerfyrddin” (“Carmarthenshire”) yw Sir Gaerfyrddin.
Newidiadau i Ardaloedd Cymunedau
3 

(1) Mae cymuned Clynderwen a ddangosir â llinellau du ar fap ffiniau A yn cael ei gwahanu oddi wrth Sir Gaerfyrddin a bydd yn dod yn rhan o Sir Benfro.
(2) Mae'r rhan o gymuned Cilymaenllwyd yn Sir Gaerfyrddin a ddangosir â llinellau du ar fap ffiniau B yn cael ei gwahanu oddi wrth y gymuned honno ac yn ffurfio rhan o gymuned Clynderwen yn Sir Benfro;
(3) Mae'r rhan o gymuned Clynderwen a ddangosir â llinellau du ar fap ffiniau C yn cael ei gwahanu oddi wrth y gymuned honno ac yn ffurfio rhan o gymuned Cilymaenllwyd yn Sir Gaerfyrddin.
(4) Mae'r rhan o gymuned Henllanfallteg yn Sir Gaerfyrddin a ddangosir â llinellau du ar fap ffiniau Ch yn cael ei gwahanu oddi wrth y gymuned honno ac yn ffurfio rhan o gymuned Clynderwen.
(5) Mae'r rhan o gymuned Clynderwen yn Sir Benfro a ddangosir â llinellau du ar fap ffiniau D yn cael ei gwahanu oddi wrth y gymuned honno ac yn ffurfio rhan o gymuned Henllanfallteg yn Sir Gaerfyrddin.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru
E.Hart
Y Gweinidog dros Gyllid, Llywodraeth Leol a Chymunedau
6 Rhagfyr 2002

