
2002 Rhif 3186 (Cy.302)
ARDRETHU A PHRISIO, CYMRU
Gorchymyn y Rhestrau Ardrethu (Dyddiad Prisio) (Cymru) 2002
Wedi'i wneud 18 Rhagfyr 2002
Yn dod i rym 1 Mawrth 2003
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pŵer a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan baragraff 2(3)(b) o Atodlen 6 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 sydd wedi'i freinio bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru i'r graddau y mae'n arferadwy yng Nghymru.
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn y Rhestrau Ardrethu (Dyddiad Prisio) (Cymru) 2002 a daw i rym ar 1 Mawrth 2003.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru yn unig.
Dyddiad prisio
2 
1 Ebrill 2003 yw'r diwrnod a bennir o dan baragraff 2(3)(b) o Atodlen 6 (Prisio ar gyfer ardrethu annomestig) i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 fel y diwrnod y mae'n rhaid cyfeirio ato i benderfynu gwerthoedd ardrethol hereditamentau annomestig at ddibenion rhestrau ardrethol annomestig lleol a chanolog sydd i'w llunio ar gyfer Cymru ar 1 Ebrill 2005.
Dirymu
3 
Dirymir Gorchymyn y Rhestrau Ardrethu (Dyddiad Prisio) 1998 i'r graddau y mae'n berthnasol i Gymru.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
18 Rhagfyr 2002