
2002 Rhif 3184 (Cy.300)
ADDYSG, CYMRU
Rheoliadau Deddf Addysg 2002 (Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2002
Wedi'u gwneud 18 Rhagfyr 2002
Yn dod i rym 19 Rhagfyr 2002
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 214 o Ddeddf Addysg 2002.
Enw, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Addysg 2002 (Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2002 a deuant i rym ar 19 Rhagfyr 2002.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.
Dehongli
2 

(1) Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “Deddf 1996” (“the 1996 Act”) yw Deddf Arolygiadau Ysgolion 1996;
 ystyr “Deddf 1998” (“the 1998 Act”) yw Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998;
 ystyr “Deddf 2002” (“the 2002 Act”) yw Deddf Addysg 2002;
 ystyr “adroddiad arolygydd” (“an inspector’s report”) yw adroddiad a wneir o dan adran 5(2)(b), adran 13 neu adran 14 o Ddeddf 1996.
(2) Yn y rheoliadau hyn mae cyfeiriadau at adrannau ac Atodlenni yn gyfeiriadau at adrannau o Ddeddf 2002 a'r Atodlenni iddi.
Addasiadau sy'n ymwneud ag ysgolion sy'n peri pryder
3 
Os bydd adroddiad arolygydd wedi cael ei wneud cyn 19 Rhagfyr 2002:
(a) bydd adran 15(4) a (6) o Ddeddf 1998 yn effeithiol fel pe na bai'r diwygiadau a wneir gan adran 55 wedi dod i rym;
(b) caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru arfer unrhyw bwerau a roddwyd iddo gan adrannau 18(1) neu 19(1) o Ddeddf 1998 fel pe bai'r adroddiad wedi'i baratoi ar ôl y dyddiad hwnnw a bod hysbysiad wedi'i roi o dan adran 16A(2) o Ddeddf 1996;
(c) caiff awdurdod addysg lleol arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 14(2)(a) neu (b), 16 neu 17 o Ddeddf 1998 fel pe bai'r adroddiad wedi'i baratoi ar ôl y dyddiad hwnnw a bod hysbysiad wedi'i roi o dan adran 16A(2) o Ddeddf 1996.
Addasu darpariaeth sy'n ymwneud ag ariannu ysgolion
4 
Bydd adran 41(2) yn effeithiol fel pe bai'r geiriau “subsection (1)” wedi'u hamnewid gan y geiriau “subsection (2)”.
Addasu darpariaethau sy'n ymwneud â'r Cwricwlwm
5 

(1) Yn y rheoliad hwn mae cyfeiriadau at gyfnod yr addasiad yn gyfeiriadau at y cyfnod sy'n dechrau ar 19 Rhagfyr 2002 ac yn diweddu ar y dyddiad pan ddaw adrannau 102, 104 a 108(2) i rym.
(2) Yn ystod cyfnod yr addasiad bydd adrannau 99(1), 100(1)(a), (2)(a) a (3), 111(1), 114(1) a (5) a 115(4)(a) yn effeithiol fel pe bai'r geiriau “or maintained nursery school” wedi'u hepgor, a bydd adran 111(3) yn effeithiol fel pe bai'r geiriau “or a maintained nursery school” wedi'u hepgor.
(3) Yn ystod cyfnod yr addasiad bydd adran 100 yn effeithiol fel pe bai paragraff (4)(b) wedi'i amnewid gan—“
(b) functions relating to religious education and religious worship.”.
(4) Yn ystod cyfnod yr addasiad bydd adran 101 yn effeithiol fel pe bai paragraff (1)(b) wedi'i amnewid gan—“
(b) a curriculum for all registered pupils at the school of compulsory school age (known as “the National Curriculum for Wales”),”.
(5) Yn ystod cyfnod yr addasiad bydd adran 108 yn effeithiol fel pe bai'r canlynol wedi'u hepgor—
(a) yn is-adran (1)(b), y geiriau “the foundation stage and”;
(b) yn is-adran (4), “(2) or”, “the foundation stage or”, “educational programme or” a “(or the timetables of any person providing funded nursery education)”;
(c) yn is-adran (5) “(2) or”;
(ch) yn is-adran (8) “(2)(b) (iii) or” ;
(d) yn is-adran (10) “(6) or” ac “or, as the case may be, premises on which the funded nursery education is being provided”; a
(dd) yn is-adran (11) “(2)(b)(iii) or” a “(6) or”.
(6) Bydd paragraff 6(1) o Atodlen 1 i Ddeddf Addysg 1996 yn effeithiol fel pe bai'r geiriau “section 351(1)” wedi'u hamnewid gan y geiriau “section 78(1) or 99(1) of the Education Act 2002”.
Addasu darpariaethau sy'n ymwneud ag athrawon
6 

(1) Yn ystod y cyfnod sy'n dechrau ar 19 Rhagfyr 2002 ac yn diweddu ar y dyddiad pan ddaw'r rheoliadau o dan adran 132 i rym, bydd yr adran honno'n effeithiol fel pe bai is-adran (1) wedi'i hamnewid gan—“
 A reference in the Education Acts to a “qualified teacher” is to a qualified teacher within the meaning of section 218(2) of the Education Reform Act 1988.”
(2) Yn ystod y cyfnod sy'n dechrau ar y dyddiad y daw adran 122(3)(d) i rym ac yn diweddu ar y diwrnod pan ddaw'r rheoliadau o dan adran 133 i rym, ni fydd adran 122(3)(d) yn gymwys.
7 

(1) Yn ystod y cyfnod sy'n dechrau ar 31 Mawrth 2003 ac yn diweddu ar y diwrnod y daw paragraff 3(3) o Atodlen 12 i rym bydd adran 134(1) yn effeithiol fel pe bai'r geiriau “with full registration” wedi'u hepgor.
(2) Yn ystod y cyfnod sy'n dechrau ar 31 Mawrth 2003 ac yn diweddu ar y diwrnod pan ddaw'r rheoliadau o dan adran 134(1) i rym, bydd yr adran 12(2)(b) newydd o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 a amnewidir gan baragraff 81(a) o Atodlen 21 yn effeithiol fel pe amnewidiwyd y canlynol ar ei chyfer—“
(b) required as a consequence of their employment to be so registered by virtue of section 218(1)(aa)) of the Education Reform Act 1988.”.
Addasiad o ddarpariaeth yn ymwneud â gofal plant
8 
Bydd paragraff (c) o adran 113(3E) o Ddeddf yr Heddlu 1997 yn effeithiol fel pe bai'r geiriau o “for child minding” hyd at “that Act” wedi'u hamnewid gan y geiriau “for child minding or providing day care under section 71 of the Children Act 1989”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D. Elis-Thomas
Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru
18 Rhagfyr 2002