
2002 Rhif 3182 (Cy.298)
DIOGELU'R AMGYLCHEDD, CYMRU
Rheoliadau Ansawdd Aer (Diwygio) (Cymru) 2002
Wedi'u gwneud 17 Rhagfyr 2002
Yn dod i rym 31 Rhagfyr 2002
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 87(1) a (2) o Ddeddf yr Amgylchedd 1995 ac a freiniwyd bellach yn y Cynulliad Cenedlaethol , ar ôl ymgynghori yn unol ag adran 87(7) o'r Ddeddf honno ag Asiantaeth yr Amgylchedd, unrhyw gyrff neu bersonau y mae'n ymddangos i'r Cynulliad Cenedlaethol eu bod yn cynrychioli buddiannau llywodraeth leol a diwydiant fel y gwêl yn briodol, ac unrhyw gyrff neu bersonau eraill y gwêl yn briodol:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ansawdd Aer (Diwygio) (Cymru) 2002 a deuant i rym ar 31 Rhagfyr 2002.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.
Amcanion ansawdd aer ar gyfer bensen, carbon monocsid a phlwm
2 

(1) Diwygir yr Atodlen i Reoliadau Ansawdd Aer (Cymru) 2000 fel a ganlyn.
(2) Yn y Tabl yn Rhan I o'r Atodlen—
(a) ychwanegwch res arall sy'n ymwneud â bensen, ac
(i) yn y golofn sy'n dwyn y teitl “Sylwedd/ Lefelau Amcanion Ansawdd Aer” rhowch “Bensen: 5 microgram y metr ciwbig neu lai, o'i fynegi fel cymedr blynyddol”;
(ii) yn y golofn sy'n dwyn y teitl “Y dyddiad erbyn pryd mae'n rhaid cyflawni'r amcan” rhowch “31 Rhagfyr 2010”; a
(b) yn y rhes sy'n ymwneud â charbon monocsid, a'r golofn sy'n dwyn y teitl “Sylwedd/ Lefelau Amcanion Ansawdd Aer” rhowch “10” yn lle “11.6” a rhowch “dyddiol uchaf” ar ôl “cymedr 8 awr cyfredol”.
(3) Yn Rhan II (Dehongli) o'r Atodlen—
(a) yn lle paragraff 2 (sy'n ymwneud â chyfrifo cymedr 8 awr cyfredol) rhowch—“
2 

(1) Cymedr a gyfrifir ar sail ddyddiol yw cymedr 8 awr cyfredol dyddiol uchaf. Yr uchaf o'r cymedrau 8 awr cyfredol sy'n dod i ben yn ystod y diwrnod hwnnw yw'r cymedr 8 awr cyfredol dyddiol uchaf ar gyfer sylwedd penodol mewn lleoliad penodol ar gyfer diwrnod penodol.
(2) At ddibenion is-baragraff (1), cymedr a gyfrifir yn ôl yr awr, gan ildio un cymedr 8 awr cyfredol yr awr, yw “cymedr 8 awr cyfredol”. Y cymedr 8 awr cyfredol ar gyfer y sylwedd perthnasol yn y lleoliad perthnasol ar gyfer awr benodol yw cymedr y cymedrau yn ôl yr awr ar gyfer y sylwedd yn y lleoliad ar gyfer yr awr honno a'r 7 awr flaenorol.”
(b) ym mharagraff 3 (sy'n ymwneud â chyfrifo cymedr blynyddol yn achos plwm etc.)—
(i) dilëwch “ac” yn is-baragraff (1)(b);
(ii) ar ôl “honno” yn is-baragraff (1)(c) rhowch—“
 ; ac
(ch) o ran bensen, naill ai cymedr y lefelau dyddiol ar gyfer y flwyddyn honno neu gymedr y cymedrau yn ôl yr awr ar gyfer y flwyddyn honno”; a
(iii) yn lle is-baragraff (4) rhowch—“
(4) At ddibenion unrhyw gyfrifiad o'r cymedr blynyddol ar gyfer bensen ar sail cymedr y lefelau dyddiol, y lefel ddyddiol ar gyfer bensen mewn lleoliad penodol ar ddiwrnod penodol yw'r lefel lle cofnodir bod bensen yn bresennol yn yr aer yn y lleoliad hwnnw yn ystod y pythefnos y digwydd y diwrnod ar sail sampl barhaus o'r aer a gymerir drwy gydol y pythefnos hwnnw (gan briodoli'r un lefel ddyddiol felly i bob diwrnod yn y pythefnos).”
(c) ym mharagraff 4 (sy'n ymwneud â chyfrifo cymedr yn ôl yr awr), yn lle'r ail frawddeg rhowch—“
 Y cymedr yn ôl yr awr ar gyfer sylwedd penodol mewn lleoliad penodol ar gyfer awr benodol yw cymedr y lefelau a gofnodir ar gyfer y sylwedd hwnnw yn y lleoliad hwnnw:
(a) yn achos bensen, ar fynychder o nid llai nag unwaith yn ystod yr awr; a
(b) yn achos carbon monocsid, nitrogen deuocsid a sylffwr deuocsid, ar fynychder o nid llai nag unwaith bob 10 eiliad yn ystod yr awr.”
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
17 Rhagfyr 2002