
2002 Rhif 3159 (Cy.294)
AMAETHYDDIAETH, CYMRUY POLISI AMAETHYDDOL CYFFREDIN
Rheoliadau Cynhyrchion Organig (Cymru) 2002
Wedi'u gwneud 17 Rhagfyr 2002
Yn dod i rym 31 Rhagfyr 2002
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ei fod wedi'i ddynodi at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan yr adran 2(2) a enwyd, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynhyrchion Organig (Cymru) 2002; deuant i rym ar 31 Rhagfyr 2002 ac maent yn gymwys mewn perthynas â Chymru.
Dehongli
2 

(1) Yn y Rheoliadau hyn, ac eithrio pan fydd y cyd-destun yn mynnu fel arall—
 ystyr “arolygu” (“inspection”) yw cymryd mesur rhagofalu neu fesur arolygu a ddisgrifir yn Atodlen III i Reoliad y Cyngor;
 ystyr “awdurdod lleol”(“local authority”) ar gyfer pob sir a bwrdeistref sirol, yw cyngor y sir neu'r fwrdeistref sirol honno;
 mae “busnes” (“business”) yn cynnwys ymgymryd â chantîn, clwb, ysgol, ysbyty neu sefydliad, p'un a yw'n cael ei gynnal i wneud elw neu beidio, ac unrhyw ymgymeriad neu weithgaredd a gyflawnir gan awdurdod cyhoeddus neu leol;
 ystyr “corff arolygu”(“inspection body”), heblaw yn yr ymadrodd “corff arolygu preifat”, yw corff arolygu preifat (“private inspection body”) sy'n dal cymeradwyaeth gyfredol gan y Cynulliad Cenedlaethol o dan Erthygl 9 o Reoliad y Cyngor;
 ystyr “cynhyrchion organig”(“organic products”) yw'r cynhyrchion y cyfeirir atynt yn Erthygl 1(1) o Reoliad y Cyngor;
 ystyr “y Cynulliad Cenedlaethol”(“the National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;
 mae i “dadansoddydd cyhoeddus” (“public analyst”) yr un ystyr â “public analyst” yn Neddf Diogelwch Bwyd 1990;
 ystyr “darpariaethau Cymunedol penodedig” (“specified Community provisions”) yw'r darpariaethau hynny yn Rheoliad y Cyngor a bennir yng ngholofn 1 o Atodlen 3 i'r Rheoliadau hyn, fel y'u darllenir ynghyd ag
(a) unrhyw ddarpariaethau atodol a bennir yng ngholofn 2 ohoni;
(b) Erthygl 3 o Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1804/1999 sy'n cydategu Rheoliad (EEC) Rhif 2092/91 er mwyn cynnwys cynhyrchu da byw; ac
(c) unrhyw ddarpariaethau ychwanegol iddynt a gynhwysir yn Safonau Da Byw UKROFS;
 ystyr “hysbysiad”(“notification”) yw hysbysiad yngly n â'r wybodaeth a bennir yn Atodlen IV i Reoliad y Cyngor ac a roddir gan weithredydd o dan Erthygl 8(1)(a) o'r Rheoliad hwnnw;
 ystyr “Rheoliad y Cyngor” (“the Council Regulation”) yw Rheoliad y Cyngor (EEC) rhif 2092/91 ar gynhyrchu cynhyrchion amaethyddol yn organig a mynegiadau sy'n cyfeirio at hynny ar gynhyrchion amaethyddol a bwydydd, fel y'i darllenir yn unol ag Atodlen 2 i'r Rheoliadau hyn;
 ystyr “Rheoliadau'r Comisiwn” (“the Commission Regulations”) yw Rheoliadau'r Comisiwn a restrir yn Atodlen 1 i'r Rheoliadau hyn;
 ystyr “Safonau Da Byw UKROFS” (“UKROFS Livestock Standards”) yw'r safonau ar gyfer da byw organig a'r cynhyrchion da byw sydd wedi'u cynnwys yn Safonau UKROFS ar gyfer cynhyrchu Bwyd Organig, Argraffiad Chwefror 2002, a gyhoeddwyd gan y Weinyddiaeth Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd;
 ystyr “swyddog awdurdodedig” (“authorised officer”) yw person (p'un ai yw'n swyddog awdurdod lleol neu beidio) y mae awdurdod lleol wedi'i awdurdodi'n ysgrifenedig, naill ai'n gyffredinol neu'n arbennig, i weithredu mewn materion sy'n codi o dan y Rheoliadau hyn;
 ystyr “UKROFS” yw Cofrestr Safonau Bwyd Organig y Deyrnas Unedig.
(2) Mae i ymadroddion eraill a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn, lle maent yn ymddangos hefyd yn Rheoliad y Cyngor a Rheoliadau'r Comisiwn, yr un ystyron ag yn y Rheoliadau hynny.
Dynodi awdurdod ar gyfer derbyn hysbysiadau a gweithredu system arolygu, a gwybodaeth i'r awdurdodau lleol
3 

(1) Dynodir y Cynulliad Cenedlaethol fel—
(a) yr awdurdod sy'n gyfrifol am dderbyn hysbysiadau o dan Erthygl 8(1) o Reoliad y Cyngor a threfnu bod y rhestr wedi'i diweddaru y cyfeirir ati yn Erthygl 8(3) o'r Rheoliad hwnnw ar gael i bartïon â diddordeb;
(b) yr awdurdod arolygu sy'n gyfrifol am weithredu'r system arolygu y cyfeirir ati yn Erthygl 9(1) o Reoliad y Cyngor;
(c) yr awdurdod sy'n gyfrifol am gymeradwyo a goruchwylio cyrff arolygu preifat, yn unol ag Erthyglau 9(4) i (9), (11) a (12) a 10(3) o Reoliad y Cyngor, ac
(ch) yr awdurdod cymwys at ddibenion Erthyglau 9(9)(b), 10(3)(b) ac 11(6) o Reoliad y Cyngor.
(2) Yn dilyn ymgais i arfer swyddogaeth o dan Erthygl 9(9) neu 10(3) o Reoliad y Cyngor gan y Cynulliad Cenedlaethol neu gorff arolygu, os oes gan y Cynulliad Cenedlaethol neu'r corff, yn ôl fel y digwydd, sail dros gredu bod unrhyw berson yn defnyddio mewn unrhyw ardal awdurdod lleol unrhyw fynegiad y mae'n ofynnol o dan yr Erthygl honno i'r Cynulliad Cenedlaethol a'r corff arolygu ei atal rhag ei ddefnyddio—
(a) rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol neu'r corff arolygu, fel y bo'n briodol, hysbysu'r defnydd hwnnw yn ysgrifenedig i awdurdod lleol yr ardal honno;
(b) os yw'r hysbysiad y cyfeirir ato yn is-baragraff (a) uchod yn cael ei roi gan gorff arolygu, rhaid iddo yntau hysbysu'r defnydd hwnnw hefyd yn ysgrifenedig i'r Cynulliad Cenedlaethol, ac
(c) rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol neu'r corff arolygu, yn ôl fel y digwydd, sy'n rhoi'r hysbysiad hwnnw roi i'r awdurdod lleol unrhyw wybodaeth y gall yr awdurdod lleol ofyn yn rhesymol amdani at ddibenion gorfodi o dan reoliad 6 isod mewn perthynas â defnyddio'r mynegiad hwnnw.
Gofyniad ychwanegol ynglŷn â labelu cynhyrchion organig
4 
At ddibenion Erthygl 5(1)(d), (3)(g), (5)(e) a (5a)(h) o Reoliad y Cyngor, rhaid i'r gweithredydd o dan sylw gynnwys ar y label gyfeiriad at rif cod yr awdurdod neu'r corff arolygu y mae'r gweithredydd yn ddarostyngedig iddo.
Y system arolygu
5 

(1) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol a phob corff arolygu godi tâl am unrhyw arolygiad y mae'n ei gyflawni, sef swm nad yw'n fwy na'r treuliau a dynnir yn rhesymol mewn cysylltiad â'r arolygiad, a bydd unrhyw dâl o'r fath yn adenilladwy gan y Cynulliad Cenedlaethol neu'r corff arolygu yn ôl fel y digwydd.
(2) Os nad yw gweithredydd wedi llwyddo i ddod i gytundeb gyda chorff arolygu ar gyfer cyflawni arolygiad, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol, os gofynnir iddo wneud hynny gan y gweithredydd, gymryd unrhyw gamau sy'n angenrheidiol i sicrhau bod arolygiad yn cael ei gyflawni gan unrhyw gorff arolygu arall sy'n cytuno i wneud hynny.
(3) At ddibenion y rheoliad hwn bydd i “gweithredydd” yr ystyr ag y sydd i “operator” yn Erthygl 9(2) o Reoliad y Cyngor.
Gorfodi, tramgwyddo a chosbi
6 

(1) Rhaid i bob awdurdod lleol orfodi'r darpariaethau Cymunedol penodedig a rheoliad 4 uchod a'u gweithredu o fewn ei ardal.
(2) Bydd unrhyw berson sy'n torri unrhyw un o'r darpariaethau Cymunedol penodedig neu reoliad 4 uchod neu'n methu â chydymffurfio â hwy yn euog o dramgwydd ac o'i gollfarnu'n ddiannod yn agored i ddirwy heb fod yn fwy na lefel 5 ar y raddfa safonol.
(3) Er mwyn gorfodi a gweithredu'r darpariaethau Cymunedol penodedig a rheoliad 4 uchod, bernir bod cyflenwi, wrth gynnal busnes, gynhyrchion organig heblaw drwy eu gwerthu yn gyfystyr â gwerthu'r cynhyrchion hynny ac at y dibenion hynny bydd gwerthu yn cynnwys eu meddiannu i'w gwerthu, neu eu cynnig neu eu harddangos i'w gwerthu.
(4) Er mwyn gorfodi a gweithredu'r darpariaethau Cymunedol penodedig a rheoliad 4 uchod mewn perthynas â chynhyrchion a fwriadwyd i bobl eu bwyta o fewn ystyr Erthygl 1(1)(b) o Reoliad y Cyngor, rhagdybir y bydd unrhyw gynnyrch o'r fath a ddefnyddir yn gyffredin i bobl ei fwyta, os caiff ei werthu neu ei gynnig, ei arddangos neu ei gadw i'w werthu, nes y profir i'r gwrthwyneb, wedi'i werthu neu, yn ôl fel y digwydd, wedi'ifwriadu neu yn cael ei fwriadu i'w werthu i bobl ei fwyta.
Caffael samplau
7 
Er mwyn darganfod a oes unrhyw dramgwydd wedi'i gyflawni o dan y Rheoliadau hyn, caiff swyddog awdurdodedig brynu neu gymryd samplau o unrhyw gynnyrch organig.
Dadansoddi, profi ac archwilio
8 

(1) Os bydd swyddog awdurdodedig sydd wedi caffael sampl o unrhyw gynnyrch organig o'r farn y dylid ei dadansoddi, ei harchwilio neu ei phrofi, rhaid i'r swyddog gyflwyno'r sampl honno er mwyn iddi gael ei dadansoddi, ei harchwilio neu ei phrofi, yn ôl fel y digwydd, gan y dadansoddydd cyhoeddus ar gyfer yr ardal lle cafwyd gafael arni, neu, os bydd swydd y dadansoddydd cyhoeddus ar gyfer yr ardal yn wag, ei chyflwyno i'r dadansoddydd cyhoeddus ar gyfer rhyw ardal arall.
(2) Rhaid i'r dadansoddydd cyhoeddus ddadansoddi, archwilio neu brofi unrhyw sampl a gyflwynir iddo yn unol â'r rheoliad hwn, neu drefnu iddi gael ei dadansoddi, ei harchwilio neu ei phrofi, cyn gynted ag y bo'n ymarferol.
(3) Rhaid i ddadansoddydd cyhoeddus sydd wedi dadansoddi, archwilio neu brofi sampl roi tystysgrif i'r person y cyflwynwyd y sampl ganddo yn nodi canlyniad y dadansoddiad, yr archwiliad neu'r prawf.
(4) Rhaid i unrhyw dystysgrif o ganlyniadau dadansoddiad, archwiliad neu brawf a roddir gan ddadansoddydd cyhoeddus yn unol â'r rheoliad hwn gael ei llofnodi gan y dadansoddydd cyhoeddus, ond gall y dadansoddiad, yr archwiliad neu'r prawf gael ei gynnal gan unrhyw berson sy'n gweithredu o dan gyfarwyddyd y dadansoddydd.
(5) Mewn unrhyw achos o dan y Rheoliadau hyn, os bydd un o'r partïon yn darparu'r canlynol—
(a) dogfen sy'n ymhonni ei bod yn dystysgrif o dan baragraff (3) uchod, neu
(b) dogfen a gyflwynwyd i'r parti hwnnw gan y parti arall fel copi o dystysgrif o'r fath,
bydd hynny'n dystiolaeth ddigonol o'r ffeithiau sydd wedi'u datgan ynddi oni bai, mewn sefyllfa sy'n dod o dan is-baragraff (a) uchod, fod y parti arall yn ei gwneud yn ofynnol i'r dadansoddydd gael ei alw fel tyst.
(6) Mewn unrhyw achos o'r fath, os bydd person a gyhuddwyd yn bwriadu cyflwyno tystysgrif dadansoddydd cyhoeddus, neu os bydd yn ei gwneud yn ofynnol o dan baragraff (5) uchod i'r dadansoddydd cyhoeddus gael ei alw fel tyst, rhaid i hysbysiad o'r bwriad hwnnw, ynghyd â chopi o'r dystysgrif, yn y sefyllfa gyntaf uchod, gael ei roi i'r parti arall o leiaf dri diwrnod clir cyn y gwrandawiad neu'r treial, ac, os na chydymffurfir â'r gofyniad hwn, gall y llys, os gwêl yn dda, ohirio'r gwrandawiad neu'r treial yn unol ag unrhyw delerau sy'n briodol ym marn y llys.
Dadansoddiad gan Gemegydd y Llywodraeth
9 

(1) Os bydd yn credu ei bod yn briodol at ddibenion yr achos, gall y llys y mae unrhyw achos yn cael ei ddwyn ger ei fron o dan y Rheoliadau hyn beri bod unrhyw gynnyrch—
(a) sy'n destun yr achos, a
(b) y gellir ei ddadansoddi, ei archwilio neu ei brofi ymhellach, os yw eisoes wedi'i ddadansoddi, ei archwilio neu ei brofi,
yn cael ei anfon at Gemegydd y Llywodraeth, y mae'n rhaid iddo gynnal unrhyw ddadansoddiad, archwiliad neu brawf sy'n briodol a throsglwyddo i'r llys dystysgrif o'r canlyniad; a rhaid i gostau'r dadansoddiad, yr archwiliad neu'r prawf gael eu talu gan yr erlynydd neu'r person a gyhuddwyd, yn unol â gorchymyn y llys.
(2) Pan fydd apêl yn cael ei dwyn, os na fydd unrhyw gamau wedi'u cymryd o dan baragraff (1) uchod, bydd darpariaethau'r paragraff hwnnw yn gymwys hefyd mewn perthynas â'r llys lle mae'r apêl yn cael ei gwrando.
(3) Rhaid i unrhyw dystysgrif o ganlyniadau dadansoddiad, archwiliad neu brawf a drosglwyddir gan Gemegydd y Llywodraeth o dan y rheoliad hwn gael ei llofnodi gan neu ar ran Cemegydd y Llywodraeth, ond gall y dadansoddiad, yr archwiliad neu'r prawf gael ei gynnal gan unrhyw berson o dan gyfarwyddyd y person y llofnodwyd y dystysgrif ganddo; a bydd unrhyw dystysgrif a drosglwyddir felly gan Gemegydd y Llywodraeth yn dystiolaeth o'r ffeithiau sydd wedi'u datgan ynddi oni bai bod unrhyw barti i'r achos yn ei gwneud yn ofynnol i'r person y cafodd ei llofnodi ganddo gael ei alw fel tyst.
Pwerau Mynediad
10 

(1) Bydd gan swyddog awdurdodedig, ar ôl cyflwyno rhyw ddogfen sydd wedi'i dilysu'n briodol ac sy'n dangos ei awdurdod, os gofynnir iddo wneud hynny, hawl ar bob adeg resymol i fynd i mewn i unrhyw safle er mwyn darganfod a yw darpariaethau Cymunedol penodedig neu reoliad 4 uchod yn cael neu wedi cael eu torri neu a fethwyd â chydymffurfio â hwy.
(2) Os bydd ynad heddwch, ar ôl cael hysbysiaeth ysgrifenedig ar lw, wedi'i fodloni bod yna sail resymol dros fynd i mewn i unrhyw safle at unrhyw ddiben a grybwyllir ym mharagraff (1) uchod a naill ai—
(a) bod mynediad i'r safle wedi'i wrthod, neu y rhagwelir y caiff ei wrthod, a bod hysbysiad o'r bwriad i wneud cais am warant wedi'i roi i'r meddiannydd; neu
(b) y byddai cais am gael mynediad, neu roi hysbysiad o'r fath, yn rhwystro bwriad y mynediad, neu fod yr achos yn fater o frys, neu fod y safle'n wag neu fod y meddiannydd yn absennol dros dro,
fe gaiff yr ynad lofnodi warant i awdurdodi'r swyddog awdurdodedig i fynd i mewn i'r safle, drwy ddefnyddio grym rhesymol os oes ei angen.
(3) Bydd pob gwarant a roddir o dan y rheoliad hwn yn parhau mewn grym am gyfnod o fis.
(4) Caiff swyddog awdurdodedig sy'n mynd i mewn i unrhyw safle yn rhinwedd y rheoliad hwn, neu yn rhinwedd gwarant a roddir odano, fynd ag unrhyw bersonau eraill y mae'n credu eu bod yn angenrheidiol, ac wrth ymadael ag unrhyw safle gwag y mae'r swyddog wedi mynd iddo yn rhinwedd y warant honno rhaid gadael y safle wedi'i ddiogelu yr un mor effeithiol rhag mynediad diawdurdod â phan gyrhaeddodd y swyddog.
(5) Caiff swyddog awdurdodedig sy'n mynd i mewn i'r safle yn rhinwedd y rheoliad hwn, neu yn rhinwedd gwarant a roddir odano, arolygu unrhyw gofnodion (ar ba ffurf bynnag y maent yn cael eu dal) ynglŷn â busnes sy'n delio ag unrhyw gynnyrch organig ac, os oes unrhyw gofnodion o'r fath yn cael eu cadw drwy gyfrwng cyfrifiadur—
(a) caiff fynd at unrhyw gyfrifiadur ac unrhyw offer neu ddeunydd cysylltiedig sy'n cael eu defnyddio mewn cysylltiad â'r cofnodion neu a ddefnyddiwyd mewn cysylltiad â hwy a'u harolygu ac edrych ar sut maent yn gweithio; a
(b) caiff ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson sy'n gofalu am y cyfrifiadur, yr offer neu'r deunydd, neu sy'n ymwneud â'u gweithrediad roi unrhyw gymorth y gall y swyddog awdurdodedig ofyn yn rhesymol amdaNo. 
(6) Caiff unrhyw swyddog sy'n arfer unrhyw bŵ er a roddir gan baragraff (5) uchod—
(a) cipio a chadw unrhyw gofnodion y mae gan y swyddog sail dros gredu y gallai fod angen amdanynt fel tystiolaeth mewn unrhyw achos o dan y Rheoliadau hyn; a
(b) os yw'r cofnodion yn cael eu cadw drwy gyfrwng cyfrifiadur, caiff ei gwneud yn ofynnol i'r cofnodion gael eu darparu ar ffurf addas i fynd â hwy oddi yNo. 
(7) Os bydd unrhyw berson sy'n mynd i mewn i unrhyw safle yn rhinwedd y rheoliad hwn, neu yn rhinwedd gwarant a roddir odano, yn datgelu i unrhyw berson unrhyw wybodaeth a gafwyd yn y safle mewn perthynas ag unrhyw gyfrinach fasnachol, bydd yn euog o dramgwydd, oni bai ei fod wedi'i datgelu wrth gyflawni ei ddyletswydd.
(8) Ni fydd dim yn y rheoliad hwn yn awdurdodi unrhyw berson, ac eithrio gyda chaniatâd yr awdurdod lleol o dan Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981, i fynd i unrhyw safle—
(a) lle mae anifail neu aderyn, y mae unrhyw glefyd y mae'r Ddeddf honno yn gymwys iddo wedi effeithio arno yn cael ei gadw; a
(b) sydd wedi'i leoli mewn man y datganwyd ei fod wedi'i heintio â chlefyd o'r fath o dan y Ddeddf honNo. 
(9) Yn y rheoliad hwn mae “safle” yn cynnwys unrhyw gerbyd, stondin neu strwythur y gellir ei symud, ond nid yw'n cynnwys unrhyw safle sy'n cael ei ddefnyddio fel annedd yn unig.
Tramgwyddau oherwydd bai person arall ac amddiffyniad o ofal dyladwy
11 

(1) Os yw unrhyw berson yn tramgwyddo o dan reoliad 6(2) oherwydd gweithred neu fethiant rhyw berson arall, bydd y person arall hwnnw yn euog o'r tramgwydd; a gall person gael ei gyhuddo o'r tramgwydd a'i gollfarnu yn rhinwedd y paragraff hwn p'un a oes achos yn cael ei ddwyn yn erbyn y person cyntaf ai peidio.
(2) Mewn unrhyw achos am dramgwydd o dan reoliad 6(2) uchod, bydd yn amddiffyniad i'r person a gyhuddwyd, yn ddarostyngedig i baragraff (3) isod, brofi ei fod ef neu ei bod hi wedi cymryd pob cam rhesymol ymlaen llaw ac wedi arfer pob gofal dyladwy er mwyn osgoi tramgwyddo ei hunan neu er mwyn atal person o dan ei reolaeth rhag tramgwyddo.
(3) Os yw'r amddiffyniad a ddarperir gan baragraff (2) uchod mewn unrhyw achos yn ymwneud â'r honiad bod y tramgwydd wedi'i gyflawni oherwydd gweithred neu ddiffyg gweithred person arall, neu oherwydd dibyniaeth ar wybodaeth a roddwyd gan berson arall, ni fydd gan y person a gyhuddir hawl i ddibynnu ar yr amddiffyniad hwnnw heb ganiatâd y llys oni bai—
(a) o leiaf saith diwrnod clir cyn y gwrandawiad, a
(b) os yw wedi ymddangos o'r blaen gerbron llys mewn cysylltiad â'r tramgwydd honedig o fewn un mis ar ôl ymddangos felly am y tro cyntaf,
ei fod wedi cyflwyno i'r erlynydd hysbysiad ysgrifenedig yn rhoi unrhyw wybodaeth a oedd yn ei feddiant ar y pryd sy'n dangos pwy oedd y person arall hwnnw neu sy'n helpu i ddangos pwy ydoedd.
Rhwystro, ayb. swyddogion
12 

(1) Bydd unrhyw berson sydd—
(a) yn fwriadol yn rhwystro unrhyw berson sydd wrthi yn gorfodi neu'n gweithredu Rheoliad y Cyngor neu'r Rheoliadau hyn, neu
(b) yn methu, heb achos rhesymol, â rhoi unrhyw gymorth i unrhyw berson sydd wrthi yn gorfodi neu'n gweithredu Rheoliad y Cyngor neu'r Rheoliadau hyn neu unrhyw wybodaeth y gall y person hwnnw ofyn yn rhesymol amdano neu amdani er mwyn cyflawni ei swyddogaethau o dan Reoliad y Cyngor neu'r Rheoliadau hyn,
yn euog o dramgwydd.
(2) Bydd unrhyw berson sydd, gan ymhonni ei fod yn cydymffurfio ag unrhyw ofyniad a grybwyllir ym mharagraff (1)(b) uchod—
(a) yn darparu gwybodaeth y mae'n gwybod ei bod yn ffug neu'n gamarweiniol mewn manylyn perthnasol, neu
(b) yn ddi-hid yn darparu gwybodaeth sy'n ffug neu'n gamarweiniol mewn manylyn perthnasol,
yn euog o dramgwydd.
(3) Rhaid peidio â dehongli dim ym mharagraff (1)(b) uchod fel gofyniad i unrhyw berson ateb unrhyw gwestiwn na rhoi unrhyw wybodaeth petai gwneud hynny yn gallu taflu'r bai arNo. 
(4) O'i gollfarnu'n ddiannod, bydd person sy'n euog o dramgwydd o dan y rheoliad hwn yn agored i ddirwy heb fod yn fwy na lefel 5 ar y raddfa safonol.
Tramgwyddau gan gyrff corfforedig
13 

(1) Pan fydd corff corfforedig yn euog o dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn, a phan brofir bod y tramgwydd hwnnw wedi'i gyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad y canlynol, neu ei fod i'w briodoli i unrhyw esgeulustod ar eu rhan—
(a) unrhyw gyfarwyddydd, rheolydd, ysgrifennydd neu swyddog cyffelyb arall i'r corff corfforedig, neu
(b) unrhyw berson a oedd yn honni ei fod yn gweithredu mewn unrhyw swyddogaeth o'r fath,
bydd y person hwnnw, yn ogystal â'r corff corfforedig, yn euog o'r tramgwydd a bydd yn agored i achos a chosb yn unol â hynny.
(2) At ddibenion paragraff (1) uchod, ystyr “cyfarwyddydd” mewn perthynas â chorff corfforedig y mae ei faterion yn cael eu rheoli gan ei aelodau, yw aelod o'r corff corfforedig.
Amddiffyn swyddogion sy'n gweithredu'n ddidwyll
14 

(1) Nid yw swyddog nac asiant i'r Cynulliad Cenedlaethol, i unrhyw gorff arolygu neu i unrhyw awdurdod lleol yn atebol yn bersonol mewn perthynas ag unrhyw weithred a gyflawnir ganddo wrth weithredu neu ymhonni gweithredu'r Rheoliadau hyn neu Reoliad y Cyngor o fewn cwmpas ei gyflogaeth, os cyflawnodd y weithred honno gan gredu'n onest fod ei ddyletswydd o dan y Rheoliadau hyn neu Reoliad y Cyngor yn ei gwneud yn ofynnol iddo ei chyflawni neu'n rhoi hawl iddo wneud hynny.
(2) Rhaid peidio â dehongli dim ym mharagraff (1) uchod fel pe bai'n golygu bod y Cynulliad Cenedlaethol neu unrhyw gorff arolygu neu unrhyw awdurdod lleol yn cael eu rhyddhau rhag unrhyw atebolrwydd mewn perthynas â gweithredoedd eu swyddogion.
Diddymiadau a diwygiadau
15 

(1) Diddymir drwy hyn y Rheoliadau a bennir yn Atodlen 4 i'r Rheoliadau hyn i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru.
(2) Yn Rheoliadau Ffermio Organig (Cymorth) 1994, i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru, yn rheoliad 2(1), yn y diffiniad o “inspection authority” yn lle'r geiriau “Organic Products Regulations 1992”, rhoddir y geiriau “Organic Products (Wales) Regulations 2002”.
(3) Yn y Rheoliadau Taliadau Arwynebedd Tir År 1996 i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru, yn rheoliad 2(1), yn is-baragraff (b) o'r diffiniad o “accepted organic farmer” yn lle'r geiriau “notified the relevant competent authority (as defined by regulation 2(1) of the Organic Products Regulations 1992)”, rhoddir y geiriau “and regulation 3(1) of the Organic Products (Wales) Regulations 2002 notified the National Assembly”.
(4) Yn Rheoliadau'r Cynllun Ffermio Organig (Cymru) 2001, yn rheoliad 2(1), yn is-baragraff (a) o'r diffiniad o “inspection authority” yn lle'r geiriau “Organic Products Regulations 1992” rhoddir y geiriau “Organic Products (Wales) Regulations 2002”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998).
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
17 Rhagfyr 2002
ATODLEN 1
RHEOLIADAU'R COMISIWN
Rheoliad 2(1)
1 
Rheoliad y Comisiwn (EEC) Rhif 94/92 sy'n pennu rheolau manwl ar gyfer gweithredu'r trefniadau ar gyfer mewnforio o drydydd gwledydd y darperir ar eu cyfer yn Rheoliad (EEC) Rhif 2092/91, fel y'i diwygiwyd gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 522/96, Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 314/97, Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1367/98), Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 548/2000, Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1566/2000), Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1616/2000, Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2426/2000, Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 349/2001) a Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2589/2001.
2 
Rheoliad y Comisiwn (EEC) Rhif 3457/92) sy'n pennu rheolau manwl ynghylch y dystysgrif arolygu ar gyfer mewnforion o drydydd gwledydd i'r Gymuned y darperir ar ei chyfer yn Rheoliad y Cyngor (EEC) Rhif 2092/91, fel y'i darllenir gyda Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 529/95.
ATODLEN 2
RHEOLIAD Y CYNGOR
Rheoliad 2(1)


 Mae Rheoliad y Cyngor (EEC) Rhif 2092/91 wedi'i ddiwygio gan y rheoliadau canlynol a rhaid ei ddarllen yn ddarostyngedig iddynt:
 Rheoliad y Comisiwn (EEC) Rhif 1535/92;
 Rheoliad y Cyngor (EEC) Rhif 2083/92;
 Rheoliad y Comisiwn (EEC) Rhif 207/93;
 Rheoliad y Comisiwn (EEC) Rhif 2608/93);
 Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 468/94;
 Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1468/94);
 Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2381/94;
 Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1201/95;
 Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1202/95);
 Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1935/95;
 Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 418/96);
 Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1488/97;
 Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1900/98;
 Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 330/1999;
 Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1804/1999;
 Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 331/2000;
 Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1073/2000);
 Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1437/2000;
 Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2020/2000);
 Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 436/2001;
 Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2491/2001;
 Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 473/2002).

ATODLEN 3
DARPARIAETHAU PENODEDIG CYMUNEDOL
Rheoliad 2(1)


Colofn 1 Colofn 2 Colofn 3
Y ddarpariaeth yn Rheoliad y Cyngor Darpariaethau atodol Y pwnc

1 
Erthygl 5 Erthygl 6a Reoliad y Cyngor Gofynion ynglŷn â labelu a hysbysebu cynhyrchion sy'n dwyn mynegiadau sy'n cyfeirio at ddulliau cynhyrchu organig neu y bwriedir iddynt ddwyn y mynegiadau hynny.

2 
Erthygl 10(1)  Gofynion ar gyfer mynegiad bod cynhyrchion wedi'u cynnwys gan y system arolygu benodol.

3 
Erthygl 10(2)  Gwahardd hawliadau bod y mynegiad “Organic Farming — EC Control System” yn cynnwys gwarant o ansawdd uwch.

4 
Erthygl 11(1) a (3) Rheoliadau'r Comisiwn Cyfyngiadau ar fachnata cynhyrchion organig a fewnforir o drydedd wlad.
ATODLEN 4
DIDDYMIADAU
Rheoliad 15


Y Rheoliadau sy'n cael eu diddymu Cyfeirnodau
Rheoliadau Cynhyrchion Organig 1992 O.S. 1992/2111.
Rheoliadau Cynhyrchion Organig (Diwygio) 1993 O.S. 1993/405.
Rheoliadau Cynhyrchion Organig (Diwygio) 1994 O.S. 1994/2286.
Rheoliadau Cynhyrchion Organig (Diwygio) 1997 O.S. 1997/166.