
2002 Rhif 3146 (Cy.292)
Y GYFRAITH GYFANSODDIADOL, CYMRU
Gorchymyn Ombwdsmon Gweinyddiaeth Cymru (Awdurdodaeth) 2002
Wedi'i wneud 17 Rhagfyr 2002
Yn dod i rym 31 Rhagfyr 2002
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan baragraffau 14(3) a 15(2) o Atodlen 9 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998:
1 
Enw'r gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ombwdsmon Gweinyddiaeth Cymru (Awdurdodaeth) 2002 a daw i rym ar 31 Rhagfyr 2002.
2 
Bydd gan Atodlen 9 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 effaith yn ddarostyngedig i'r diwygiadau canlynol:
(a) Ym mharagraff 14(2) o'r Atodlen a enwyd ar ôl “the Forestry Commissioners,” mewnosodir—“
(da) the Higher Education Funding Council for Wales,
(db) the National Council for Education and Training for Wales,”,
(b) Ym mharagraff 15(1) o'r Atodlen a enwyd, ar ôl nodyn 2 ychwanegir—“
2A 
In the case of the National Council for Education and Training for Wales no investigation may be conducted by the Welsh Administration Ombudsman in respect of action taken by virtue of paragraph 11 or 12 of Schedule 10 to the Learning and Skills Act 2000.”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
17 Rhagfyr 2002