
2002 Rhif 3053 (Cy.288)
CYNRYCHIOLAETH Y BOBL, CYMRU
Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Taliadau Swyddogion Canlyniadau) 2002
Wedi'i wneud 10 Rhagfyr 2002
Yn dod i rym 1 Ionawr 2003
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan erthygl 20(1) a (2) o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 1999, ac ar ôl gwneud unrhyw ymgynghori â'r Comisiwn Etholiadol drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol—
Enw a chychwyn
1 
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Taliadau Swyddogion Canlyniadau) 2002 a daw i rym ar 1 Ionawr 2003.
Dehongli
2 
Yn y Gorchymyn hwn, oni bai fod y cyd-destun yn mynnu fel arall—
 ystyr “y Cynulliad” (“the Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru,
 dylid dehongli “etholaeth Cynulliad” (“Assembly constituency”) a “rhanbarth etholiadol Cynulliad” (“Assembly electoral region”) yn unol ag adran 2(2) o, ac Atodlen 1 i, Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998,
 ystyr “etholiad cyffredin” (“ordinary election”) yw cynnal etholiadau etholaeth ac etholiadau rhanbarthol ar gyfer dychwelyd pob aelod Cynulliad,
 ystyr “etholiad Cynulliad” (“Assembly election”) yw etholiad etholaeth neu etholiad rhanbarthol,
 ystyr “etholiad etholaeth” (“constituency election”) yw etholiad i ddychwelyd aelod Cynulliad ar gyfer etholaeth Cynulliad,
 ystyr “etholiad rhanbarthol” (“regional election”) yw etholiad i ddychwelyd aelodau Cynulliad ar gyfer rhanbarth etholaethol Cynulliad,
 ystyr “Gorchymyn 1999” (“the 1999 Order”) yw Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 1999, ac
 ystyr “swyddog canlyniadau etholaeth” (“constituency returning officer”) yw person sy'n swyddog canlyniadau ar gyfer etholiad etholaeth,
 ystyr “swyddog canlyniadau rhanbarthol” (“regional returning officer”) yw person sy'n swyddog canlyniadau ar gyfer etholiad rhanbarthol, acmae unrhyw gyfeiriad at gofrestr etholwyr yn gyfeiriad at y gofrestr (neu gofrestrau) etholwyr a ddefnyddir mewn etholiad Cynulliad ac at y gofrestr (neu gofrestrau) fel y cawsant eu cyhoeddi am y tro cyntaf.
Manylion at ddibenion erthygl 20 o Orchymyn 1999
3 

(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), at ddibenion erthygl 20(1)(a) o Orchymyn 1999, nodir trwy hyn y gwasanaethau neu dreuliau canlynol ar gyfer, neu mewn perthynas, ag etholiad Cynulliad—
(a) gwasanaethau o'r math a ddisgrifir ym mharagraffau 1(1) a 2(1) o'r Atodlen,
(b) treuliau o'r math a ddisgrifir ym mharagraffau 3(1), 4(1), 5(1), a 6(1) o'r Atodlen, ac
(c) treuliau o'r math a ddisgrifir ym mharagraffau 8 i 19 o'r Atodlen.
(2) Pan gynhelir mewn perthynas ag etholaeth Cynulliad etholiad rhanbarthol nas ymleddir (p'un ai mewn etholiad cyffredin ai peidio) ni chaiff y fanyleb o dan baragraff (1) effaith mewn perthynas â—
(a) gwasanaethau o'r math a ddisgrifir ym mharagraffau 1(1) o'r Atodlen, a
(b) treuliau o'r math a ddisgrifir ym mharagraffau 3(1), 4(1) a 7(1) o'r Atodlen,
mewn perthynas â'r etholaeth Cynulliad honno yn yr etholiad rhanbarthol.
(3) Mae paragraffau (4) i (6) o'r erthygl hon yn pennu'r uchafsymiau y gellir eu hadennill at ddibenion erthygl 20(2) o Orchymyn 1999 mewn perthynas â'r gwasanaethau a'r treuliau a bennwyd yn Rhannau I a II o'r Atodlen.
(4) Yn ddarostyngedig i baragraff (5), mewn etholiad Cynulliad a ymleddir pennir drwy hyn yr uchafsymiau y gellir eu hadennill a nodwyd yn yr Atodlen mewn perthynas â'r gwasanaethau a'r treuliau a bennwyd yn Rhannau I a II o'r Atodlen fel yr uchafsymiau y gellir eu hadennill mewn perthynas â'r gwasanaethau a'r treuliau hynny.
(5) Ond pan geir mewn etholiad cyffredin mewn perthynas ag etholaeth Cynulliad bleidleisio ar gyfer etholiad etholaeth ac ar gyfer etholiad rhanbarthol bydd unrhyw uchafswm y gellir ei adennill a bennwyd yn y Gorchymyn hwn yn cael effaith mewn perthynas â'r ddau etholiad mewn perthynas â'r etholaeth Cynulliad honno pan (ar wahân i'r paragraff hwn) y byddai fel arall yn cael effaith mewn perthynas â phob etholiad o'r fath.
(6) Pennir drwy hyn yr uchafsymiau y gellir eu hadennill mewn etholiad Cynulliad nas ymleddir, sef—
(a) £424.00 ar gyfer swyddog canlyniadau etholaeth mewn etholiad etholaeth mewn perthynas â'r gwasanaethau a bennwyd yn Rhan I o'r Atodlen,
(b) £85.00 ar gyfer swyddog canlyniadau rhanbarthol mewn etholiad rhanbarthol mewn perthynas â'r gwasanaethau a bennwyd yn Rhan I o'r Atodlen,
(c) £1,047.00 ar gyfer swyddog canlyniadau etholaeth mewn etholiad etholaeth mewn perthynas â'r treuliau a bennir yn Rhan II o'r Atodlen, ac
(ch) £210.00 ar gyfer swyddog canlyniadau rhanbarthol mewn etholiad rhanbarthol mewn perthynas â'r treuliau a bennwyd yn Rhan II o'r Atodlen.
Diddymu
5 
Diddymir drwy hyn Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Costau Swyddogion Canlyniadau) 1999.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D. Elis-Thomas
Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru
10 Rhagfyr 2002
YR ATODLEN
Gwasanaethau a Threuliau y gall Swyddog Canlyniadau Etholaeth neu Swyddog Canlyniadau Rhanbarthol mewn Etholiad Cynulliad Adennill Taliadau mewn perthynas â hwy.
RHAN I Gwasanaethau Swyddog Canlyniadau Etholaeth neu Swyddog Canlyniadau Rhanbarthol y pennir Uchafsymiau y gellir eu Hadennill mewn perthynas â hwy
Erthygl 3
Gwasanaethau swyddog canlyniadau etholaeth gan gynnwys dyroddi a derbyn papurau pleidleisio drwy'r post
1 

(1) Mae'r paragraff hwn yn gwneud darpariaeth ar gyfer gwasanaethau swyddog canlyniadau etholaeth wrth gynnal etholiad Cynulliad a chyflawni dyletswyddau'r person hwnnw mewn cysylltiad â hynny (gan gynnwys dyroddi a derbyn papurau pleidleisio i bersonau sydd â hawl i bleidleisio drwy'r post).
(2) Yn ddarostyngedig i baragraffau (3) i (5), yr uchafswm y gellir ei adennill mewn etholiad Cynulliad ar gyfer y gwasanaethau a bennwyd yn is-baragraff (1) yw £2,077.00.
(3) Mewn etholiad cyffredin mae'r swm a grybwyllir yn is-baragraff (2) yn cael ei gynyddu ag £1,082.00 pan geir etholiad mewn perthynas ag etholaeth Cynulliad ar gyfer etholiad etholaeth ac etholiad rhanbarthol.
(4) Mae'r swm sydd wedi'i grybwyll yn is-baragraff (2) yn cael ei gynyddu â £312.00 pan gaiff y pleidleisio mewn etholiad Cynulliad ei gyfuno â'r pleidleisio mewn etholiad llywodraeth leol o dan erthygl 14(1) neu (2) o Orchymyn 1999.
(5) Pan mewn etholiad cyffredin bod person yn swyddog canlyniadau mewn mwy na thri etholiad etholaeth caiff y swm a grybwyllir yn is-baragraff (2) ei ostwng â £260.00 ar gyfer bob etholiad o'r fath sy'n fwy na thri.
Gwasanaethau swyddog canlyniadau rhanbarthol
2 

(1) Mae'r paragraff hwn yn gwneud darpariaeth ar gyfer gwasanaethau swyddog canlyniadau rhanbarthol wrth gynnal etholiad rhanbarthol a chyflawni dyletswyddau'r person hwnnw mewn perthynas â hynny.
(2) Yr uchafswm y gellir ei adennill mewn etholiad rhanbarthol ar gyfer y gwasanaethau a bennwyd yn is-baragraff (1) yw £1,082.00.
RHAN II Treuliau Swyddog Canlyniadau Etholaethol neu Swyddog Canlyniadau Rhanbarthol y Pennir Uchafsymiau y gellir eu hadennill ar eu cyfer
Talu swyddogion llywyddu mewn gorsafoedd pleidleisio
3 

(1) Mae'r paragraff hwn yn gwneud darpariaeth ar gyfer treuliau swyddog canlyniadau etholaeth mewn etholiad Cynulliad mewn perthynas â thalu swyddogion llywyddu mewn gorsafoedd pleidleisio.
(2) Yn ddarostyngedig i is-baragraffau (3) i (6), yr uchafswm y gellir ei adennill mewn etholiad Cynulliad ar gyfer y treuliau a bennwyd yn is-baragraff (1) (gan gynnwys treuliau a dynnwyd mewn perthynas â pherson sy'n ysgwyddo dyletswyddau swyddog llywyddu ar y diwrnod pleidleisio o ganlyniad i analluogrwydd y swyddog llywyddu a benodwyd eisoes) mewn perthynas â'r swyddog llywyddu ym mhob gorsaf bleidleisio yw £141.00.
(3) Mewn unrhyw etholiad cyffredin caiff y swm a grybwyllwyd yn is-baragraff (2) ei gynyddu ag £37.00 pan geir mewn perthynas ag etholaeth Cynulliad bleidlais mewn etholiad etholaeth ac etholiad rhanbarthol.
(4) Pan geir mewn lle pleidleisio mwy nag un orsaf bleidleisio caiff y swm a grybwyllir yn is-baragraff (2) ei gynyddu ag £8.00 mewn perthynas ag un swyddog llywyddu yn unig yn y gorsafoedd pleidleisio yn y lle pleidleisio hwnnw.
(5) Mewn perthynas â swyddog llywyddu y mae is-baragraff (4) yn gymwys caiff y swm sydd wedi'i grybwyll yn is-baragraff (2) ei gynyddu ag £8.00 pan fo is-baragraff (3) hefyd yn gymwys.
(6) Caiff y swm a grybwyllwyd yn is-baragraff (2) ei gynyddu â £37.00 pan gaiff pleidleisio mewn etholiad Cynulliad ei gyfuno â'r pleidleisio mewn etholiad llywodraeth leol o dan erthygl 14(1) neu (2) o Orchymyn 1999.
Talu clerciaid pleidleisio mewn gorsafoedd pleidleisio
4 

(1) Mae'r paragraff hwn yn gwneud darpariaeth ar gyfer treuliau swyddog canlyniadau etholaeth mewn etholiad Cynulliad mewn perthynas â thalu clerciaid pleidleisio mewn gorsafoedd pleidleisio.
(2) Yn ddarostyngedig i is-baragraffau (3) a (4), yr uchafswm y gellir ei adennill mewn etholiad Cynulliad ar gyfer y treuliau a bennwyd yn is-baragraff (1) mewn perthynas â phob clerc pleidleisio yw £84.00.
(3) Mewn etholiad cyffredin caiff y swm a grybwyllir yn is-baragraff (2) ei gynyddu ag £21.00 pan geir mewn perthynas ag etholaeth Cynulliad bleidleisio mewn etholiad etholaeth ac mewn etholiad rhanbarthol.
(4) Caiff y swm a grybwyllir yn is-baragraff (2) ei gynyddu ag £21.00 pan fo'r pleidleisio mewn etholiad Cynulliad yn cael ei gyfuno â phleidleisio mewn etholiad llywodraeth leol o dan erthygl 14(1) neu (2) o Orchymyn 1999.
Talu personau mewn cysylltiad â dyroddi a derbyn papurau pleidleisio drwy'r post a.y.y.b
5 

(1)  Mae'r paragraff hwn yn gwneud darpariaeth ar gyfer treuliau swyddog canlyniadau mewn etholiad Cynulliad mewn perthynas â thalu personau sydd wedi'u cyflogi mewn cysylltiad â dyroddi a derbyn papurau pleidleisio drwy'r post a'r cyfrif ac unrhyw gymorth clerigol neu gymorth arall at ddibenion yr etholiad.
(2) Yn ddarostyngedig i is-baragraffau (3) i (7), yr uchafswm y gellir ei adennill mewn etholiad Cynulliad ar gyfer y treuliau a nodwyd yn is-baragraff (1) yw £10,000.00.
(3) Mewn etholiad cyffredin caiff y swm a grybwyllir yn is-baragraff (2) ei gynyddu â £9,000.00 pan mewn perthynas ag etholaeth Cynulliad y ceir pleidleisio mewn etholiad cynulliad ac mewn etholiad rhanbarthol.
(4) Caiff y swm a grybwyllwyd yn is-baragraff (2) ei gynyddu am bob 100 pleidleisiwr, neu ffracsiwn o hynny, sydd â hawl i bleidleisio drwy'r post â £46.00 mewn perthynas ag etholiad etholaeth neu etholiad rhanbarthol heblaw am etholiad y mae is-baragraff (5) yn gymwys.
(5) Mewn etholiad cyffredin caiff y swm a grybwyllwyd yn is-baragraff (2) ei gynyddu am bob 75 pleidleisiwr, neu ffracsiwn o hynny, sydd â'r hawl i bleidleisio drwy'r post â £46.00 pan geir mewn perthynas ag etholaeth Cynulliad bleidleisio mewn etholiad etholaeth ac mewn etholiad rhanbarthol.
(6) Caiff y swm a grybwyllir yn is-baragraff (2) ei gynyddu â £468.00 ar gyfer pob ailgyfrif pleidleisiau o dan baragraff 51 neu 52 o Atodlen 5 i Orchymyn 1999.
(7) Caiff y swm a grybwyllir yn is-baragraff (2) ei gynyddu â £1,350.00 pan gaiff pleidleisio mewn etholiad etholaeth ei gyfuno gyda'r pleidleisio mewn etholiad llywodraeth leol o dan erthygl 14(1) neu (2) o Orchymyn 1999.
Talu personau mewn cysylltiad â chymorth clerigol neu gymorth arall at ddibenion etholiad rhanbarthol
6 

(1) Mae'r paragraff hwn yn gwneud darpariaeth ar gyfer treuliau swyddog canlyniadau rhanbarthol mewn etholiad rhanbarthol mewn perthynas â thalu personau sydd wedi'u cyflogi mewn cysylltiad â chymorth clerigol neu gymorth arall at ddibenion yr etholiad.
(2) Yr uchafswm y gellir ei adennill mewn etholiad rhanbarthol ar gyfer y treuliau a nodwyd yn is-baragraff (1) yw £1,082.00.
RHAN III Treuliau Swyddog Canlyniadau Etholaeth neu Swyddog Canlyniadau Rhanbarthol lle na Phennir unrhyw Uchafsymiau y gellir eu Hadennill ar eu cyfer
Cyffredinol
7 
Treuliau swyddog canlyniadau etholaeth neu swyddog canlyniadau rhanbarthol y cyfeirir atynt ym mharagraffau 8 i 19 yw'r treuliau na phennir unrhyw uchafsymiau i'w hadennill.
Treuliau teithio a chynhaliaeth dros nos
8 
Treuliau teithio a chynhaliaeth dros nos mewn etholiad Cynulliad—
(a) swyddog canlyniadau etholaeth neu swyddog canlyniadau rhanbarthol,
(b) unrhyw berson pan fo gwasanaethau'r person hwnnw wedi cael eu rhoi at ddefnydd swyddog canlyniadau etholaeth neu swyddog canlyniadau rhanbarthol o dan erthygl 17 o Orchymyn 1999,
(c) unrhyw swyddog llywyddu neu glerc pleidleisio, ac
(ch) unrhyw gynorthwy-ydd clerigol neu gynorthwy-ydd arall a gyflogir gan y swyddog canlyniadau.
Argraffu a.y.y.b y papurau pleidleisio
9 
Treuliau swyddog canlyniadau etholaeth mewn etholiad Cynulliad am argraffu neu fel arall gynhyrchu'r papurau pleidleisio.
Argraffu a.y.y.b y cardiau pleidleisio a'r dogfennau ategol a'u hanfon
10 
Treuliau swyddog canlyniadau etholaeth mewn etholiad Cynulliad o ganlyniad i argraffu neu fel arall gynhyrchu'r cardiau pleidleisio swyddogol ac unrhyw ddogfennau ategol sy'n berthnasol i'r broses etholiadol ac mewn cysylltiad â hi (nad oes angen eu hargraffu neu fel arall eu cynhyrchu drwy neu o dan Orchymyn 1999) a dosbarthu'r cyfryw gardiau neu ddogfennau i'r pleidleiswyr.
Treuliau argraffu a.y.y.b dogfennau
11 
Treuliau swyddog canlyniadau etholaeth neu swyddog canlyniadau rhanbarthol mewn etholiad Cynulliad wrth argraffu neu fel arall gynhyrchu a, pan fo hynny'n briodol, gyhoeddi dogfennau a hysbysiadau eraill y mae'n ofynnol eu hargraffu, a gynhyrchir neu a gyhoeddir gan neu o dan Orchymyn 1999.
Treuliau wrth rentu a.y.y.b unrhyw adeilad neu ystafell
12 
Treuliau swyddog canlyniadau etholaeth mewn etholiad Cynulliad o ganlyniad i rentu, gwresogi, goleuo a glanhau unrhyw adeilad neu ystafell.
Treuliau addasu unrhyw adeilad neu ystafell dros dro a.y.y.b
13 

(1) Yn ddarostyngedig i baragraff 14, treuliau swyddog canlyniadau etholaeth mewn etholiad Cynulliad wrth addasu dros dro unrhyw adeilad neu ystafell ac wrth eu hadfer i gyflwr addas at ddefnydd arferol.
(2) Mae treuliau at ddibenion is-baragraff (1) yn cynnwys treuliau swyddog canlyniadau etholaeth mewn etholiad Cynulliad wrth ddarparu bythau pleidleisio mewn gorsafoedd pleidleisio (y gall pleidleiswyr fwrw eu pleidlais wedi eu sgrinio o'r golwg) ac unrhyw ddodrefn arall y gall fod angen amdanynt mewn gorsafoedd o'r fath.
14 
Hanner cant y cant o dreuliau swyddog canlyniadau etholaeth mewn etholiad Cynulliad wrth brynu rampiau dros dro i'w gosod mewn gorsafoedd pleidleisio er mwyn darparu mynediad i'r gorsafoedd pleidleisio hynny i bleidleiswyr â nam symudedd (er hynny gall fod gan y swyddog canlyniadau etholaeth hawl i unrhyw nawdd neu daliad mewn perthynas â phrynu rampiau o'r fath, ac nid yw'r cyfryw nawdd neu daliad i fod yn fwy na hanner cant y cant o gost pob ramp).
Treuliau darparu blychau pleidleisio a.y.y.b
15 
Treuliau swyddog canlyniadau etholaeth mewn etholiad Cynulliad wrth ddarparu blychau pleidleisio ac offerynnau i stampio'r marc swyddogol ar y papurau pleidleisio.
Treuliau cludo blychau pleidleisio a.y.y.b i ac o orsafoedd pleidleisio
16 
Treuliau swyddog canlyniadau etholaeth mewn etholiad Cynulliad wrth gludo i ac o orsaf bleidleisio—
(a) y blychau pleidleisio a phapurau pleidleisio, a
(b) y bythau pleidleisio, unrhyw ddodrefn arall sy'n angenrheidiol ar gyfer gorsafoedd pleidleisio ac offerynnau i stampio'r marc swyddogol ar y papurau pleidleisio.
Treuliau darparu offer ysgrifennu a.y.y.b
17 
Treuliau swyddog canlyniadau etholaeth neu swyddog canlyniadau rhanbarthol mewn etholiad Cynulliad wrth ddarparu offer ysgrifennu a thaliadau postio, ffonio a bancio ac amrywiol eitemau eraill.
Treuliau darparu fersiynau mawr o bapur pleidleisio a.y.y.b
18 
Treuliau swyddog canlyniadau etholaeth mewn etholiad Cynulliad wrth ddarparu fersiynau mawr o bapur pleidleisio mewn gorsafoedd pleidleisio er mwyn cynorthwyo pleidleiswyr sy'n gweld yn rhannol a dyfeisiadau sy'n galluogi pleidleiswyr sydd yn ddall neu'n gweld yn rhannol i bleidleisio heb fod angen cymorth oddi wrth y swyddog llywyddu neu oddi wrth unrhyw gydymaith.
Treuliau mewn perthynas â mesurau diogelwch
19 
Treuliau swyddog canlyniadau mewn etholiad Cynulliad mewn cysylltiad â darparu mesurau diogelwch.