
2002 Rhif 2814 (Cy.271)
ADDYSG, CYMRU
Rheoliadau Addysg (Cynllun Grant Dysgu'r Cynulliad) (Cymru) (Diwygio) 2002
Wedi'u gwneud 14 Tachwedd 2002
Yn dod i rym 15 Tachwedd 2002
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 484, 489 a 569(4) o Ddeddf Addysg 1996 ac sydd bellach wedi'u breinio yn y Cynulliad Cenedlaethol.
Enw, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Cynllun Grant Dysgu'r Cynulliad) (Cymru) (Diwygio) 2002 a deuant i rym ar 15 Tachwedd 2002.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas ag awdurdodau addysg lleol yng Nghymru.
Diwygio Rheoliadau
2 
Yn Rheoliadau Addysg (Cynllun Grant Dysgu'r Cynulliad) (Cymru) 2002, yn lle'r Atodlen rhodder—“
YR ATODLEN
Y DIBEN Y MAE GRANT YN DALADWY AR EI GYFER NEU MEWN CYSYLLTIAD AG EF
Rheoliadau 2, 3 a 7
1 
Gwneud dyfarndaliadau addysg ôl-orfodol o'r enw Grantiau Dysgu'r Cynulliad o dan Reoliadau Awdurdodau Addysg Lleol (Dyfarndaliadau Addysg Ôl-orfodol) (Cymru) 2002 i bersonau—
(a) nad yw eu hadnoddau ariannol, fel y'u hasesir hwy yn unol â darpariaethau Cynllun Grant Dysgu'r Cynulliad, yn uwch na lefel yr adnoddau ariannol a bennir yn yr amodau cymhwyster ar gyfer y Cynllun hwnnw; a
(b) sy'n bodloni amodau cymhwyster eraill (os oes rhai) ar gyfer y Cynllun hwnnw,at y diben y cyfeirir ato ym mharagraff 2.
2 
Y diben hwnnw yw i alluogi personau i fynd ar gyrsiau addysg bellach neu addysg uwch a ddynodwyd at ddibenion y Cynllun hwnnw drwy ddarparu cymorth ariannol i neu tuag at gwrdd â chost llyfrau, cyfarpar, teithio, neu ofal plant yr eir iddo fel canlyniad o fynychu cwrs o'r fath.”
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 14 Tachwedd 2002
John Marek
Dirprwy Lywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru
