
2002 Rhif 2801 (Cy.269)
CYNLLUNIO GWLAD A THREF, CYMRUTRIBIWNLYSOEDD AC YMCHWILIADAU, CYMRU
Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Costau Ymchwiliadau etc.) (Swm Dyddiol Safonol) (Cymru) 2002
Wedi'u gwneud 12 Tachwedd 2002
Yn dod i rym 1 Ebrill 2003
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 303A(5) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (“y Ddeddf”) ac sydd bellach yn arferadwy, mewn perthynas â Chymru, gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Costau Ymchwiliadau etc.) (Swm Dyddiol Safonol) (Cymru) 2002 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2003.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.
Personau ac ymchwiliadau y mae'r Rheoliadau yn gymwys iddynt
2 
Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw berson sy'n cael ei benodi gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru i gynnal, neu fel un o'r personau sydd i gynnal, ymchwiliad cymwys, yn unol ag ystyr y term hwnnw yn adran 303A(1) o'r Ddeddf, sy'n agor ar neu ar ôl y dyddiad y mae'r Rheoliadau hyn yn dod i rym.
Y swm dyddiol safonol
3 
Y swm dyddiol safonol a ragnodir o dan adran 303A(5) o'r Ddeddf yw:
(a) £520, os yw'r dyddiad y mae'r ymchwiliad cymwys yn agor ar neu ar ôl 1 Ebrill 2003 ond cyn 1 Ebrill 2004;
(b) £618, os yw'r dyddiad y mae'r ymchwiliad cymwys yn agor ar neu ar ôl 1 Ebrill 2004.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
12 Tachwedd 2002