
2002 Rhif 2780 (Cy.264)
TRIBIWNLYSOEDD AC YMCHWILIADAU, CYMRU
Rheoliadau Ffioedd Ymchwiliadau (Swm Dyddiol Safonol) (Cymru) 2002
Wedi'u gwneud 8 Tachwedd 2002
Yn dod i rym 29 Tachwedd 2002
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 42(4) o Ddeddf Tai a Chynllunio 1986 i unrhyw Weinidog a awdurdodwyd, o dan y darpariaethau statudol hynny a bennir yn adran 42(1) o'r Ddeddf honno neu yn rhinwedd y darpariaethau hynny neu y mae'r adran honno yn cael ei chymhwyso iddynt, i adennill y costau a dynnwyd gan y Gweinidog mewn perthynas ag ymchwiliad, sef pwerau sy'n arferadwy bellach gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru mewn perthynas â Chymru, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ffioedd Ymchwiliadau (Swm Dyddiol Safonol) (Cymru) 2002 a deuant i rym ar 29 Tachwedd 2002.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.
Yr ymchwiliadau y mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys iddynt
2 
Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i ymchwiliadau y mae gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru hawl i adennill ei gostau mewn perthynas â hwy o dan y darpariaethau canlynol neu yn rhinwedd y darpariaethau hynny, sef—
(a) adran 250(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (darpariaethau cyffredinol ynglŷn â chostau ymchwiliadau),
(b) adran 129(1)(d) o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 (costau ymchwiliad o dan y Ddeddf honno),
(c) adran 69(5) o Ddeddf Traenio Tir 1991 (costau ymchwiliad o dan y Ddeddf honno),os yw'r ymchwiliad yn agor ar y dyddiad y mae'r Rheoliadau hyn yn dod i rym neu ar ôl hynny.
Y swm dyddiol safonol
3 
Y swm dyddiol safonol a ragnodir o dan adran 42(4) o Ddeddf Tai a Chynllunio 1986 ar gyfer ymchwiliadau y mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys iddynt yw—
(a) £566, os yw'r ymchwiliad yn agor cyn 1 Ebrill 2003; a
(b) £645, os yw'r ymchwiliad yn agor ar 1 Ebrill 2003 neu ar ôl hynny.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998)
Rhodri Morgan
Prif Weinidog y Cynulliad Cenedlaethol
8 Tachwedd 2002