
2002 Rhif 273 (Cy.29)
ANIFEILIAID, CYMRUIECHYD ANIFEILIAID
Rheoliadau Gwartheg (Adnabod Anifeiliaid Hŷn) (Cymru) (Diwygio) 2002
Wedi'u gwneud 8 Chwefror 2002
Yn dod i rym 11 Chwefror 2002
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ei fod wedi'i ddynodi at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 mewn perthynas â pholisi amaethyddiaeth cyffredin y Gymuned Ewropeaidd, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan yr adran honno, a phob pŵ er arall sy'n ei alluogi yn y cyswllt hwnnw, yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Enwi, cymhwyso a chychwyn
1 
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwartheg (Adnabod Anifeiliaid Hyn) (Cymru) (Diwygio) 2002; maent yn gymwys i Gymru a deuant i rym ar 11 Chwefror 2002.
Diwygio Rheoliadau Gwartheg (Adnabod Anifeiliad Hŷn) 2000
2 
Mae Rheoliadau Gwartheg (Adnabod Anifeiliaid Hŷn) (Cymru) 2000 yn cael eu diwygio drwy osod y gair “tri” yn rheoliad 7(2)(e) yn lle'r gair “saith”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
Carwyn Jones
Ysgrifennydd Cynulliad
8 Chwefror 2002