
2002 Rhif 2615 (Cy.253) (C.82)
CEFN GWLAD, CYMRU
Gorchymyn Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (Cychwyn Rhif 3) (Cymru) 2002
Wedi'i wneud 15 Hydref 2002
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 103(3) a (4) o Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:
Enwi a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (Cychwyn Rhif 3) (Cymru) 2002.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru.
Diwrnod a benodwyd
2 
1 Tachwedd 2002 yw'r diwrnod a benodwyd ar gyfer dod ag adrannau 60 a 61 o Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (cynlluniau gwella hawliau tramwy) i rym mewn perthynas â Chymru.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
15 Hydref 2002