
2002 Rhif 2199 (Cy.219)
Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU
Gorchymyn Diwygio Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Felindre (Sefydlu) (Rhif 2) 2002
Wedi'i wneud 21 Awst 2002
Yn dod i rym 1 Hydref 2002
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i Ysgrifennydd Gwladol Cymru gan adran 126(3) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977, adran 5(1) a (6) o Ddeddf Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990 a phob pwer arall sy'n ei alluogi yn y cyswllt hwnnw, ac a freiniwyd bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru wedi cwblhau'r ymgynghori a ragnodwyd o dan adran 5(2) o Ddeddf Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990), drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:
Enwi a chychwyn
1 

(1) sEnw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Diwygio Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Felindre (Sefydlu) (Rhif 2) 2002 a daw i rym ar 1 Hydref 2002.
(2) Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y prif Orchymyn” (“the principal Order”) yw Gorchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Felindre (Sefydlu) 1993 fel y'i diwygiwyd .
Diwygio erthygl 3 o'r prif Orchymyn
2 
Rhaid diwygio'r prif Orchymyn drwy fewnosod y canlynol ar ôl erthygl 3(2):—“
(d) to manage and provide to or in relation to the health service in Wales a range of public health, health protection and health advisory services, child protection services, microbiological laboratory services and services relating to the surveillance, prevention and control of communicable diseases.”.
Diwygio erthygl 4 o'r prif Orchymyn
3 
Yn erthygl 4 o'r prif Orchymyn (Cyfarwyddwyr yr ymddiriedolaeth), am “4 executive directors” amnewidier “5 executive directors.”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
Jane Davidson
Y Gweinidog dros Addysg a Dysgu Gydol Oes
21 Awst 2002