
2002 Rhif 2171 (Cy.218)
GOFAL CYMDEITHASOL, CYMRUPLANT A PHERSONAU IFANC, CYMRU
Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) (Diwygio) 2002
Wedi'u gwneud am 11:45 a.m. ar 22 Gorffennaf 2002
Yn dod i rym am 12.00 canol dydd ar 22 Gorffennaf 2002
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pŵer a roddwyd iddo gan adrannau 79C, 79E a 104(4) o Ddeddf Plant 1989, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) (Diwygio) 2002 a deuant i rym am 12.00 canol dydd ar 22 Gorffennaf 2002.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.
Diwygiadau
2 

(1) At ddibenion y Rheoliad hwn ystyr “cynllun chwarae haf” yw darpariaeth gofal dydd sy'n cynnwys plant o dan wyth oed am fwy na dwy awr y dydd, a honno'n ddarpariaeth sy'n gweithredu'n unig am y cyfan neu ran o'r cyfnod rhwng dyddiad dod i rym Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) (Diwygio) 2002 a 13 Medi 2002.
(2) Diwygir rheoliad 4 o Reoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2002 fel a ganlyn
(a) yn is-baragraff (c)(i) o baragraff (3) mewnosodir ar ôl “paragraff (4)” y geiriau “neu (4A)”;
(b) yn dilyn is-baragraff (c) (ii) o baragraff (3) mewnosodir“
(iii) os yw paragraff (4A) yn gymwys,(A) mewn perthynas â phob un o'r materion a bennir ym mharagraffau 1, 4, 6 a 7 o Atodlen 2;(B) o leiaf un geirda ysgrifenedig neu eirda dros y ffôn;(C) tystysgrif cofnod troseddol a roddwyd o'r blaen o dan adran 113 o Ddeddf yr Heddlu 1997; ac(CH) canlyniad ysgrifenedig gwiriad a wnaed o'r rhestrau sy'n cael eu cadw yn unol ag adran 1 o Ddeddf Amddiffyn Plant 1999 a Rheoliadau a wnaed o dan adran 218 o Ddeddf Diwygio Addysg 1988.”
(c) Ar ôl paragraff (4) mewnosodir—“
(4A) Mae'r paragraff hwn yn gymwys os oes cais wedi'i wneud am y dystysgrif neu am wybodaeth am unrhyw fater a bennir ym mharagraff 2 o Atodlen 2 ond nad yw ar gael eto i unigolyn sy'n dymuno darparu cynllun chwarae haf.”
(3) Diwygir rheoliad 16 o Reoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2002 fel a ganlyn—
(a) Ym mharagraff (5) mewnosodir ar y dechrau“Yn ddarostyngedig i baragraff (7),”
(b) Ar ôl paragraff (6) mewnosodir—
“(7) Pan fydd yr amodau canlynol yn gymwys, gall y person cofrestredig ganiatáu i berson ddechrau gweithio yn y safle perthnasol er gwaethaf paragraff (4)(b)—
(a) bod y person yn dymuno gweithio mewn cynllun chwarae haf;
(b) bod y person cofrestredig wedi cymryd pob cam rhesymol i gael gwybodaeth lawn mewn perthynas â phob un o'r materion a restrir yn Atodlen 2 mewn perthynas â'r person hwnnw;
(c) bod gwybodaeth lawn a boddhaol mewn perthynas â'r person hwnnw wedi'i sicrhau ynghylch y materion a bennir ym mharagraffau 1, 4 a 6 o Atodlen 2;
(ch) o leiaf un geirda ysgrifenedig neu eirda dros y ffôn;
(d) bod y person wedi darparu
(i) datganiad ysgrifenedig nad yw'r person wedi'i gollfarnu na'i rybuddio am unrhyw dramgwydd troseddol, neu
(ii) manylion ysgrifenedig unrhyw dramgwyddau troseddol y mae'r person wedi'i gollfarnu ohonynt, gan gynnwys manylion unrhyw gollfarnau sydd wedi darfod o fewn ystyr “spent” yn adran 1 o Ddeddf Adsefydlu Tramgwyddwyr 1974 ac y caniateir eu datgelu yn rhinwedd Gorchymyn Deddf Adsefydlu Tramgwyddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 neu y mae'r person wedi'i rybuddio amdanynt gan swyddog heddlu ac wedi'u cyfaddef adeg cael y rhybudd; a
(dd) bod y person cofrestredig, wrth ddisgwyl am unrhyw wybodaeth sydd heb ddod i law, a chyn iddo fodloni'i hun mewn perthynas â'r wybodaeth honno, yn sicrhau bod y person yn cael ei oruchwylio'n briodol wrth iddo gyflawni ei ddyletswyddau.
(4) Diwygir Rheoliadau Cofrestru Gofal Cymdeithasol a Gofal Iechyd Annibynnol (Cymru) 2002 fel a ganlyn—
(a) Yn Atodlen 8, yn dilyn paragraff 9 mewnosodir—“
9A Notwithstanding paragraph 4 where the applicant intends to provide a summer playscheme,—
(a) a statement confirming that the documents specified in paragraph 4 have been applied for and the applicant, or where the applicant is an organisation, the responsible individual, will advise the National Assembly on receipt that the documents so applied for are available for inspection; and
(b) a criminal record certificate previously issued under section 113 of the Police Act 1997; and
(c) a written result of a check carried out of the lists maintained pursuant to section 1 of the Protection of Children Act 1999 and Regulations made under section 218 of the Education Reform Act 1988.”
(b) Yn Atodlen 8, mewnosodir ar ôl paragraff 10(2)—“
(3) Notwithstanding sub-paragraph (1), where the person works or intends to work in a summer playscheme, a statement confirming that the documents specified in sub-paragraph (2) have been applied for and the applicant, or where the applicant is an organisation, the responsible individual will advise the National Assembly on receipt that the documents so applied for are available for inspection.”
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
Jane.E.Hutt
Y Gweinidog Dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
11:45 a.m. ar 22 Gorffennaf 2002