
2002 Rhif 2024 (Cy.208) (C.65)
TRAFNIDIAETH, CYMRU
Gorchymyn Deddf Trafnidiaeth 2000 (Cychwyn Rhif 2) (Cymru) 2002
Wedi'i wneud 31 Gorffennaf 2002
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 275(2) o Ddeddf Trafnidiaeth 2000 drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:
Enwi a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Trafnidiaeth 2000 (Cychwyn Rhif 2) (Cymru) 2002.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru.
Darpariaethau sy'n dod i rym ar 14 Awst 2002
2 
Mae'r darpariaethau canlynol o Ddeddf Trafnidiaeth 2000 yn dod i rym ar 14 Awst 2002 mewn perthynas â Chymru, sef—
(a) adran 154(6)
(b) adran 274 i'r graddau y mae'n ymwneud â'r darpariaethau yn Rhan II o Atodlen 31 (Diddymiadau a dirymiadau).
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
31 Gorffennaf 2002