
2002 Rhif 1897 (Cy.198)
PYSGODFEYDD MÔR, CYMRUCADWRAETH PYSGOD MÔR
Gorchymyn Crancod Heglog Rhy Fach (Cymru) 2002
Wedi'i wneud 18 Gorffennaf 2002
Yn dod i rym 5 Awst 2002
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 1(1), (4) a (6) a 15(3) o Ddeddf Pysgod Môr (Cadwraeth) 1967 a phob pŵer arall sy'n ei alluogi yn hynny o beth, drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Crancod Heglog Rhy Fach (Cymru) 2002 a daw i rym ar 5 Awst 2002.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru fel y'i diffiniwyd yn adran 155(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998..
Dehongli
2 
—Yn y Gorchymyn hwn—
 ystyr “cranc heglog” (“spider crab”) yw cranc o'r rhywogaeth Maia squinado;
 ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Pysgod Môr (Cadwraeth) 1967;
 ystyr “maint” (“size”) mewn perthynas â chranc heglog, yw hyd y gragen, ar hyd y llinell ganol, o ymyl y gragen rhwng y gylfin hyd at ymyl cefn y gragen a chaiff ei fesur fel y dangosir yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn;
 ystyr “y môr tiriogaethol cyfagos at Gymru” (“the territorial sea adjacent to Wales”) yw'r môr cyfagos at Gymru allan cyn belled â ffin forol y môr tiriogaethol.
Isafswm maint rhagnodedig ar gyfer glanio crancod heglog
3 

(1) At ddibenion adran 1(1) o'r Ddeddf (sy'n gwahardd glanio unrhyw bysgodyn môr o unrhyw ddisgrifiad, sef pysgodyn sy'n llai o ran maint na'r maint y gellir ei ragnodi mewn perthynas â physgod môr o'r disgrifiad hwnnw), rhagnodir drwy hyn mai 130 milimedr yw'r isafswm maint ar gyfer crancod heglog gwryw.
(2) Caiff cychod pysgota tramor eu heithrio o'r gwaharddiad sy'n cael ei osod gan adran 1(1) o'r Ddeddf fel y caiff ei darllen â pharagraff (1) uchod.
Pwerau swyddogion pysgodfeydd môr mewn perthynas â chychod pysgota
4 

(1) At ddibenion gorfodi adran 1(1) o'r Ddeddf fel y caiff ei darllen gyda'r Gorchymyn hwn, gall swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig arfer y pwerau a roddwyd gan baragraffau (2) i (4) isod mewn perthynas ag unrhyw gwch pysgota Prydeinig perthnasol ac unrhyw gwch pysgota Albanaidd yn y môr tiriogaethol cyfagos at Gymru.
(2) Gall y swyddog fynd ar fwrdd y cwch, gyda neu heb bersonau a neilltuwyd i'w gynorwthyo yn ei ddyletswyddau, ac at y diben hwnnw gall fynnu bod y cwch yn stopio ac yn gwneud unrhyw beth arall a fydd yn hwyluso mynd ar fwrdd y cwch.
(3) Gall y swyddog fynnu presenoldeb y meistr ac unrhyw bersonau eraill ar fwrdd y cwch a gall gynnal unrhyw archwiliad neu ymchwiliad y mae'n ymddangos iddo eu bod yn angenrheidiol at y diben a grybwyllir ym mharagraff (1) uchod ac, yn benodol—
(a) gall archwilio unrhyw bysgod ar y cwch a chyfarpar y cwch gan gynnwys yr offer pysgota, a mynnu bod y personau ar fwrdd y cwch yn gwneud unrhyw beth y mae'n ymddangos iddo ef neu hi eu bod yn angenrheidiol i hwyluso'r archwiliad;
(b) gall fynnu bod unrhyw berson ar fwrdd y cwch yn dangos unrhyw ddogfen sy'n ymwneud â'r cwch, ei weithgareddau pysgota neu weithgareddau sy'n ategol i hynny neu i'r personau ar ei bwrdd sydd yn ei warchodaeth neu ei feddiant a gall gymryd copïau o unrhyw ddogfen o'r fath;
(c) at y diben o ganfod a yw meistr, perchennog neu'r sawl sydd wedi siartro'r cwch wedi cyflawni tramgwydd o dan adran 1(1) o'r Ddeddf fel y caiff ei darllen gyda'r Gorchymyn hwn, gall chwilio'r cwch am unrhyw ddogfen o'r fath a gall fynnu bod unrhyw berson ar fwrdd y cwch yn gwneud unrhywbeth y mae'n ymddangos i'r swyddog ei fod yn angenrheidiol er mwyn hwyluso'r chwilio; ac
(ch) pan fo'r cwch yn gwch y mae gan y swyddog reswm dros gredu bod tramgwydd wedi'i gyflawni mewn perthynas ag ef, gall feddiannu a chadw unrhyw ddogfen o'r fath sy'n cael ei dangos neu y deuir ar ei thraws ar ei fwrdd at y diben o sicrhau bod modd i'r ddogfen gael ei defnyddio fel tystiolaeth mewn achos sydd ynghlwm â'r dramgwydd,
ond ni chaiff dim yn is-baragraff (ch) uchod ganiatáu i unrhyw ddogfen y mae'n ofynnol ei chadw ar y cwch yn ôl y gyfraith gael ei dal na'i chadw heblaw pan fo'r cwch yn cael ei gadw mewn porthladd.
(4) Pan ei bod hi'n ymddangos i swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig bod y Gorchymyn hwn wedi'i dramgwyddo ar urhyw adeg o fewn ffiniau pysgodfeydd Prydeinig gall—
(a) fynnu bod meistr y cwch y mae'r dramgwydd wedi'i wneud mewn perthynas ag ef yn mynd â'r cwch, a'i griw, neu gall y swyddog fynd â'r cwch a'i griw i'r porthladd cyfleus agosaf, ym marn y swyddog hwnnw, a
(b) cadw neu fynnu bod y meistr yn cadw'r cwch yn y porthladd;
a phan fo swyddog o'r fath yn cadw neu yn mynnu bod cwch yn cael ei gadw bydd ef neu hi yn cyflwyno rhybudd ysgrifenedig i'r meistr yn datgan y bydd y cwch yn cael, neu ei bod hi'n ofynnol ei fod yn cael ei gadw hyd nes y bydd y rhybudd yn cael ei dynnu yn ôl drwy gyflwyno rhybudd ysgrifenedig pellach i'r meistr gan swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
John Marek
Dirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol
18 Gorffennaf 2002
YR ATODLEN
MESUR MAINT CRANC HEGLOG
Erthygl 2
