
2002 Rhif 1886 (Cy.195)
BWYD, CYMRU
Rheoliadau Halogion mewn Bwyd (Cymru) 2002
Wedi'u gwneud 18 Gorffennaf 2002
Yn dod i rym 2 Awst 2002
Drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 16(1)(a) ac (f), 17(2), 26(1)(a) a 26(3) a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990, sydd bellach wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ac yntau wedi ystyried yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno, gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd, ac ar ôl ymgynghori fel sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod prif egwyddorion a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu yr Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewropeaidd ac sy'n gosod gweithdrefnau mewn perthynas â diogelwch bwyd ac yn unol ag adran 48(4) a 4(B) o'r Ddeddf honno, yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Halogion mewn Bwyd (Cymru) 2002, deuant i rym ar 2 Awst 2002 a byddant yn ymestyn i Gymru yn unig.
Dehongli
2 

(1) Yn y Rheoliadau hyn—
 nid yw “awdurdod bwyd” (“food authority”) yn cynnwys awdurdod iechyd porthladd;
 ystyr “awdurdod iechyd porthladd” (“port health authority”) yw awdurdod iechyd porthladd ar gyfer ardal iechyd porthladd a gyfansoddwyd o dan adran 2(4) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Afiechydon) 1984 ac, mewn perthynas ag awdurdod iechyd porthladd ystyr “swyddog awdurdodedig” (“authorised officer”) yw unrhyw berson (p'un a ydyw yn swyddog yn yr awdurdod ai peidio) sydd wedi cael ei awdurdodi'n ysgrifenedig gan yr awdurdod i weithredu mewn materion sy'n deillio o dan y Rheoliadau hyn;
 ystyr “Cyfarwyddeb 85/591/EEC” (“Directive 85/591/EEC”) yw Cyfarwyddeb y Cyngor 85/591/EEC sy'n ymwneud â chyflwyno dulliau'r Gymuned o samplo a dadansoddi ar gyfer monitro bwydydd a fwriadwyd i bobl eu bwyta;
 ystyr “Cyfarwyddeb 93/99/EEC” (“Directive 93/99/EEC”) yw Cyfarwyddeb y Cyngor 93/99/EEC ar y math o fesurau ychwanegol sy'n ymwneud â rheolaeth swyddogol bwydydd;
 ystyr “Cyfarwyddeb 98/53/EC” (“Directive 98/53/EC”) yw Cyfarwyddeb y Comisiwn 98/53/EC sy'n gosod y dulliau samplo a'r dulliau dadansoddi ar gyfer rheolaeth swyddogol y lefelau ar gyfer halogion penodedig mewn bwydydd) fel y'i diwygiwyd gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 2002/27/EC;
 ystyr “Cyfarwyddeb 2001/22/EEC” (“Directive 2001/22/EC”) yw Cyfarwyddeb y Comisiwn 2001/22/EC sy'n gosod y dulliau samplo a'r dulliau dadansoddi ar gyfer rheolaeth swyddogol lefelau plwm, cadmiwm, mercwri a 3-MPCD mewn bwydydd), fel y cawsant eu cywiro gan Benderfyniad y Comisiwn 2001/873/EC;
 ystyr “Cyfarwyddeb 2002/26/EC” (“Directive 2002/26/EC”) yw Cyfarwyddeb y Comisiwn 2002/26/EC sy'n gosod y dulliau samplo a'r dulliau dadansoddi ar gyfer rheolaeth swyddogol y lefelau o Ochratoxin A mewn bwydydd;
 ystyr “Cytundeb Ardal Economaidd Ewropeaidd” (“European Economic Area Agreement”) yw Cytundeb ar yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a lofnodwyd yn Oporto ar 2 Mai 1992 fel y cafodd ei addasu gan y Protocol a lofnodwyd ym Mrwsel ar 17 Mawrth 1993;
 ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Diogelwch Bwyd 1990;
 ystyr “Rheoliad y Comisiwn” (“the Commission Regulation”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 466/2001 sy'n nodi'r lefelau uchaf ar gyfer halogion penodedig mewn bwydydd fel y'i diwygiwyd gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 221/2002, Erthygl 2 o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 257/2002, Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 472/2002) fel y cafodd ei gywiro gan gywiriad a gyhoeddwyd ar 23 Mawrth 2002 a Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 563/2002) Fel y'i Cywiriwyd gan gorigendum a gyhoeddwyd ar 14 Mehefin 2002;
 ystyr “Rheoliad 2375/2001/EC” (“Regulation 2375/2001/EC”) yw Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 2375/2001 sy'n diwygio Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 466/2001 sy'n nodi'r lefelau uchaf ar gyfer rhai halogion penodol mewn bwydydd; ac
 ystyr “Talaith Ardal Economaidd Ewropeaidd” (“European Economic Area State”) yw Talaith sy'n Gytundebwr i Gytundeb Ardal Economaidd Ewropeaidd;
(2) Mae i ymadroddion eraill a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn yr un ystyr ag sydd iddynt yn Rheoliad y Comisiwn.
Tramgwyddau a chosbau
3 

(1) Yn ddarostyngedig i reoliadau 8 a 9, bydd person yn euog o dramgwydd ac yn agored ar gollfarn ddiannod i ddirwy nad yw'n fwy na lefel 5 ar y raddfa safonol os—
(a) cyn 1 Medi 2002—
(i) ei fod yn rhoi ar y farchnad unrhyw fwyd (heblaw am sbigoglys awdurdodedig neu letys awdurdodedig) sy'n cael ei gwmpasu gan, ond nad yw'n bodloni gofynion Erthygl 1.1, 2.1, 2.2 neu 4.1 o Reoliad y Comisiwn, fel y cânt eu darllen gydag Erthyglau 1.2 a 4.3 o'r Rheoliad hwnnw, neu
(ii) ei fod yn torri Erthygl 2.3 neu 4.2 o'r Rheoliad hwnnw;
(b) ar neu ar ôl 1 Medi 2002 ond cyn 1 Ionawr 2005—
(i) ei fod yn rhoi ar y farchand unrhyw fwyd (heblaw am sbigoglys awdurdodedig neu letys awdurdodedig) sy'n cael ei gwmpasu gan, ond nad yw'n bodloni gofynion, Erthygl 1.1, 2.1, 2.2 neu 4.1 o Reoliad y Comisiwn fel y'i diwygiwyd gan Reoliad 2375/2001/EC, fel y caiff ei ddarllen gydag Erthyglau 1.2 a 4.3 o Reoliad y Comisiwn fel y'i diwygiwyd, neu
(ii) ei fod yn torri Erthygl 2.3, 4.2 neu 4a o'r Rheoliad hwnnw fel y'i diwygiwyd felly; neu
(c) ar neu ar ôl 1 Ionawr 2005—
(i) ei fod yn rhoi ar y farchand unrhyw fwyd (heblaw am sbigoglys awdurdodedig) sy'n cael ei gwmpasu gan, ond nad yw'n bodloni gofynion, Erthygl 1.1, 2.1, 2.2 neu 4.1 o Reoliad y Comisiwn, fel y'i diwygiwyd gan Reoliad 2375/2001/EC, fel y caiff ei ddarllen gydag Erthyglau 1.2 a 4.3 o Reoliad y Comisiwn fel y'i diwygiwyd, neu
(ii) ei fod yn torri Erthygl 2.3, 4.2 neu 4a o Reoliad y Comisiwn fel y'i diwygiwyd; neu
(ch) ei fod yn torri gan wybod hynny neu'n methu â chydymffurfio â gofynion hysbysiad sy'n cael ei roi o dan adran 9(3)(a) o'r Ddeddf fel y caiff ei chymhwyso at ddibenion y Rheoliadau hyn gan reoliad 7.
(2) At ddibenion y rheoliad hwn—
(a) ystyr “sbigoglys neu letys awdurdodedig” (“authorised spinach or lettuce”) yw sbigoglys o'r math a nodir ym mhwynt 1.1 o adran 1 o Atodlen I i Reoliad y Comisiwn, a dyfir yn y Deyrnas Unedig yn unol â'r amod i Erthygl 3.1 o'r Rheoliad hwnnw gyda'r bwriad o gael ei fwyta gan bobl yno; a
(b) ystyr “letys awdurdodedig” (“authorised lettuce”) yw letys o'r math a nodir ym mhwynt 1.3 neu ym mhwynt 1.4 o adran 1 o Atodlen I i Reoliad y Comisiwn, a dyfir yn y Deyrnas Unedig yn unol â'r amod i Erthygl 3.1 o'r Rheoliad hwnnw gyda'r bwriad o gael ei fwyta gan bobl yNo. 
Gorfodi
4 

(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), bydd yn ddyletswydd ar bob awdurdod iechyd porthladd i weithredu a gorfodi'r Gorchymyn hwn o fewn ei ardal.
(2) Mewn perthynas ag unrhyw le nad yw wedi'i leoli mewn ardal awdurdod iechyd porthladd, caiff y Rheoliadau hyn eu gweithredu a'u gorfodi gan yr awdurdod bwyd ar gyfer yr ardal y mae'r lle hwnnw wedi'i leoli ynddo.
Samplo, dadansoddi ac addasu adran 29 o'r Ddeddf
5 

(1) Wrth gymhwyso ar gyfer cymryd sampl o unrhyw fwyd a nodwyd yn adran 1 i 4 o Atodlen I i Reoliad y Comisiwn, caiff adran 29 o'r Ddeddf ei haddasu er mwyn cyfyngu ar y pŵer i gymryd samplau o dan is-adran (b) a (d) o'r adran honno ar gyfer cymryd samplau yn unol â'r dulliau o gymryd samplau a ddisgrifir neu y cyfeirir atynt yn—
(a) (yn ddarostyngedig i'r gofynion a nodir ym mharagraff (2)) yr Atodlen i Gyfarwyddeb y Comisiwn 79/700/EEC sy'n sefydlu dulliau'r Gymuned o samplo ar gyfer rheolaeth swyddogol gweddillion plaladdwyr mewn ac ar ffrwythau a llysiau pan fo'r bwyd dan sylw yn ateb y disgrifiad a nodwyd yn adran 1 o Atodlen I i Reoliad y Comisiwn ar gyfer ei samplo y mae'r Gyfarwyddeb honno yn gymwys yn unol ag Erthygl 1.3 o'r Rheoliad hwnnw;
(b) Atodlen I i Gyfarwyddeb 98/53/EC pan fo'r bwyd dan sylw yn ateb y disgrifiad a nodwyd yn adran 2 o Atodlen I i Reoliad y Comisiwn y mae'r Gyfarwyddeb honno yn gymwys ar gyfer ei samplo yn unol â'r Erthygl honno;
(c) Atodlen I i Gyfarwyddeb 2002/26/EC pan fo'r bwyd dan sylw yn ateb y disgrifiad a nodwyd yn yr adran honno y mae'r Gyfarwyddeb honno yn ymwneud â'i samplo yn unol â'r Erthygl honno;
(ch) Atodlen I i Gyfarwyddeb 2001/22/EC pan fo'r bwyd dan sylw yn ateb y disgrifiad a nodwyd yn adran 3 neu 4 o Atodlen I i Reoliad y Comisiwn y mae'r Gyfarwyddeb honno yn ymwneud â'i gymwys ar gyfer ei samplo yn unol â'r Erthygl honNo. 
(2) Y gofyniad y cyfeirir ato yn is-baragraff (a) o baragraff (1) yw, yn achos letys o'r math a nodir ym mhwynt 1.3 neu 1.4 o Adran 1 o Atodlen I i Reoliad y Comisiwn, isafswm nifer yr unedau sydd eu hangen ar gyfer pob sampl labordy fydd deg.
(3) Pan, yn unol ag adran 29(b) neu (d) o'r Ddeddf fel y cafodd ei haddasu gan baragraff (1), bod swyddog awdurdodedig wedi cymryd sampl o fwyd sy'n cyfateb i ddisgrifiad y mae is-baragraff (b) o'r paragraff hwnnw yn gymwys, bydd yn sicrhau bod—
(a) y sampl yn cael ei baratoi yn unol â—
(i) paragraffau 1.1, 2 a 3 o Atodlen II i Gyfarwyddeb 98/53/EC, a
(ii) yn achos cnau cyflawn, paragraff 1.2 o'r Atodlen honno;
(b) unrhyw ddadansoddiad o'r sampl yn cael ei gynnal yn unol â'r dulliau dadansoddi sydd—
(i) i'r graddau y bo hynny'n ymarferol, yn cydymffurfio â pharagraffau 1 a 2 o'r Atodlen i Gyfarwyddeb 85/591/EEC, a
(ii) yn bodloni'r meini prawf a nodwyd ym mharagraff 4.3 o Atodlen II i Gyfarwyddeb 98/53/EC fel y caiff ei ddarllen gyda'r nodiadau i'r paragraff hwnw;
(c) bod unrhyw ddadansoddiad yn cael ei wneud gan labordy sy'n cydymffurfio â Chyfarwyddeb 93/99/EEC; ac
(ch) bod adrodd ar ganlyniadau y dadansoddiad o'r sampl hwnnw—
(i) yn defnyddio'r diffiniadau ym mharagraff 4.1 o Atodlen II i Gyfarwyddeb 98/53/EC, a
(ii) ei fod yn unol â pharagraff 4.4 o'r Atodlen honNo. 
(4) Pan, yn unol ag adran 29(b) neu (d) o'r Ddeddf fel y cafodd ei haddasu gan baragraff (1), bod swyddog awdurdodedig wedi cymryd sampl o fwyd sy'n ateb y disgrifiad y mae is-baragraff (c) o'r paragraff hwnnw yn gymwys, bydd yn sicrhau—
(a) bod y sampl yn cael ei baratoi yn unol â pharagraffau 1 i 3 o Atodlen II i Gyfarwyddeb 2002/26/EC;
(b) bod unrhyw ddadansoddiad o'r sampl yn cael ei gyflawni yn unol â dulliau dadansoddi sy'n—
(i) cydymffurfio â pharagraffau 1 a 2 o'r Atodlen i Gyfarwyddeb y Cyngor 85/591/EEC, a
(ii) bodloni'r meini prawf a nodwyd ym mharagraff 4.3 o Atodlen II i Gyfarwyddeb 2002/26/EC fel y caiff ei ddarllen gyda'r nodiadau i'r paragraff hwnnw;
(c) bod unrhyw ddadansoddiad yn cael ei gynnal gan labordy sy'n cydymffurfio â Chyfarwyddeb 93/99/EEC; ac
(ch) bod adrodd ar ganlyniadau'r dadansoddiad o'r sampl hwnnw—
(i) yn defnyddio'r diffiniadau ym mharagraff 4.1 o Atodlen II i Gyfarwyddeb 2002/26/EC, a
(ii) yn unol â pharagraff 4.4 o'r Atodlen honNo. 
(5) Pan, yn unol ag adran 29(b) neu (d) o'r Ddeddf fel y cafodd ei haddasu gan baragraff (1), bod swyddog awdurdodedig wedi cymryd sampl o fwyd sy'n ateb y disgrifiad y mae is-baragraff (c) o'r paragraff hwnnw yn gymwys, bydd yn sicrhau—
(a) bod y sampl yn cael ei baratoi yn unol â pharagraffau 1 a 2 o Atodlen II i Gyfarwyddeb 2001/22/EC, fel y cânt eu darllen, yn achos paragraff 2, gyda'r nodyn iddynt;
(b) bod unrhyw ddadansoddiad o'r sampl yn cael ei wneud yn unol â'r dulliau dadansoddi sy'n—
(i) cydymffurfio i'r graddau y bo hynny'n ymarferol â pharagraffau 1 a 2 o'r Atodlen i Gyfarwyddeb 85/591/EEC,
(ii) wrth ddadansoddi ar gyfer plwm (heblaw mewn gwin), mercwri neu gadmiwm, yn bodloni'r meini prawf a nodwyd ym mharagraff 3.3.1 o Atodlen II i Gyfarwyddeb 2001/22/EC,
(iii) wrth ddadansoddi ar gyfer plwm mewn gwin, yn cydymffurfio â'r ail is-baragraff o baragraff 3.2 o'r Atodlen honno, a
(iv) wrth ddadansoddi ar gyfer 3-MPCD, yn bodloni'r meini prawf a nodwyd ym mharagraff 3.3.2 o'r Atodlen honno fel y caiff ei darllen gyda'r nodyn i'r paragraff hwnnw;
(c) bod unrhyw ddadansoddiad o'r sampl yn cael ei wneud gan labordy sy'n cydymffurfio â Chyfarwyddeb 93/99/EEC;
(ch) bod unrhyw ddadansoddiad o'r sampl yn cael ei wneud yn y fath fodd fel ei fod yn cydymffurfio ag is-baragraff cyntaf ac ail is-baragraff paragraff 3.4 o Atodlen II i Gyfarwyddeb 2001/22/EC, fel y cânt eu darllen yn achos yr ail is-baragraff gyda'r nodyn iddo; a—
(d) bod adrodd ar ganlyniadau'r dadansoddiad o'r sampl hwnnw—
(i) yn defnyddio'r diffiniadau ym mharagraff 3.1 o Atodlen II i Gyfarwyddeb 2001/22/EC fel y caiff ei ddarllen gyda'r nodiadau iddo,
(ii) a'i fod yn unol â thrydydd is-baragraff paragraff 3.4 a pharagraff 3.6 o'r Atodlen honNo. 
Amddiffyniad mewn perthynas ag allforion
6 
Mewn unrhyw achos am dramgwydd sy'n cynnwys torri rheoliad 3 bydd yn amddiffyniad i'r sawl sy'n cael ei gyhuddo brofi—
(a) bod y bwyd yr honnir bod y tramgwydd wedi'i gyflawni mewn perthynas ag ef wedi ei fwriadu i gael ei allforio i wlad sydd â deddfwriaeth sy'n cyfateb i'r Rheoliadau hyn a'i fod yn cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth honno; a
(b) ar gyfer mewnforio i Wladwriaeth Ardal Economaidd Ewropeaidd, bod y ddeddfwriaeth yn cydymffurfio â Rheoliad y Comisiwn neu, os digwyddodd y mater a arweiniodd at y tramgwydd honedig ar neu ar ôl 1 Medi 2002, Rheoliad y Comisiwn fel y'i diwygiwyd gan Reoliad 2375/2001/EC.
Cymhwyso amrywiol adrannau y Ddeddf
7 

(1) Bydd darpariaethau canlynol y Ddeddf yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn ac oni bai fod y cyd-destun yn mynnu fel arall dylid dehongli unrhyw gyfeiriad yn y darpariaethau hynny ynddynt at y Ddeddf neu Ran ohoni fel cyfeiriad at y Rheoliadau hyn—
(a) adran 3 (rhagdybiaeth fod bwyd wedi'i fwriadu i'w fwyta gan bobl);
(b) adran 20 (tramgwyddau o ganlyniad i fai person arall);
(c) adran 21 (amddiffyniad o ofal a sylw dyladwy), fel y mae'n gymwys at ddibenion adran 8, 14 neu 15;
(ch) adran 30(8) (sy'n ymwneud â thystiolaeth ddogfennol);
(d) adran 33(1) (rhwystro a.y.y.b. swyddogion);
(dd) adran 33(2) gyda'r addasiad bod y cyfeiriad at “unrhyw ofyniad sy'n cael ei grybwyll yn is-adran (1)(b) uchod” yn cael ei ddehongli fel cyfeiriad at unrhyw ofyniad o'r fath sy'n cael ei grybwyll yn adran 33(1)(b) fel y caiff ei gymhwyso gan is-baragraff (e);
(e) adran 35(1) (cosbi am dramgwyddau) i'r graddau y bo'n ymwneud â swyddogion o dan adran 33(1) fel y caiff ei chymhwyso gan y paragraff hwn;
(f) adran 35(2) a (3), i'r graddau y bo'n ymwneud â thramgwyddau o dan adran 33(2) fel y caiff ei chymhwyso gan y paragraff hwn;
(ff) adran 35(2) a (3), i'r graddau y bo'n ymwneud â thramgwyddau o dan adran 33(2) fel y caiff ei chymhwyso gan is-baragraff (e);
(g) adran 36 (tramgwyddau gan gyrff corfforaethol); ac
(ng) adran 44 (amddiffyn swyddogion sy'n ymddwyn yn ddidwyll).
(2) Yn ddarostyngedig i baragraffau (3) a (4), bydd adran 9 o'r Ddeddf (archwilio ac atafaelu bwyd amheus) yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn gyda'r addasiadau canlynol—
(a) yn is-adran (1)—
(i) yn dilyn y geiriau “food authority” mewnosodwch y geiriau “or a port health authority”,
(ii) dylid ystyried y cyfeiriad at is-adran (3) i (9) fel cyfeiriad at is-adrannau (3) i (8) fel y cânt eu cymhwyso gan y rheoliad hwn, a
(iii) yn lle'r geiriau “any food fails to comply with food safety requirements” rhowch “the placing on the market of any food (other than authorised spinach or authorised lettuce) contravenes regulation 3(1)(a)(i), (b)(i) or (c)(i) of the Contaminants in Food (Wales) Regulations 2002”;
(b) ni fydd is-adran (2) yn gymwys at ddibenion y rheoliad hwn;
(c) yn is-adran (3)—
(i) yn lle'r geiriau ym mharagraff (a) “not to be removed except to some place specified in the notice” rhoddir y geiriau “to be removed to a place at which there are facilities to carry out the sampling required by Directive 98/53/EC, Directive 2001/22/EC or Directive 2002/26/EC, as appropriate”, a
(ii) ar ôl y geiriau “guilty of an offence” rhoddir y geiriau “and liable on summary conviction to a fine not exceeding level 5 on the standard scale”;
(ch) yn is-adrannau (4) a (6), yn lle'r geiriau “food safety requirements” rhowch “the requirements of regulation 3(1)(a)(i), (b)(i) or (c)(i) of the above Regulations”;
(d) yn y naill a'r llall o is-adrannau (4) a (7), dylid ystyried y cyfeiriad at is-adran (3) fel cyfeiriad at yr is-adran honno fel y caiff ei chymhwyso gan y rheoliad hwn;
(dd) yn is-adran (5)—
(i) dylid ystyried y cyfeiriad at is-adrannau (3) a (4) fel cyfeiriad at yr is-adrannau hynny fel y maent yn cael eu cymhwyso gan y rheoliad hwn, a
(ii) dylid ystyried y cyfeiriad at adran 7 neu 8 fel cyfeiriad at reoliad 3(1)(a)(i), neu (b)(i) neu (c)(i) o'r Rheoliadau uchod”;
(e) yn is-adran (7), ar ôl y geiriau “food authority” mewnosodwch y geiriau “or, as the case may be, port health authority”; ac
(h) yn is-adran (8), dylid ystyried y cyfeiriad at is-adran (7) fel cyfeiriad at yr is-adran honno fel y caiff ei chymhwyso gan y rheoliad hwn.
(3) Bydd yr ymadroddion “authorised officer”, “food authority”, “port health authority”, “human consumption”, “placing on the market”, “authorised spinach”, “authorised lettuce”, “Directive 98/53/EC”, “Directive 2001/22/EC” and “Directive 2002/26/EC”, a ddefnyddir yn adran 9 o'r Ddeddf i'r graddau y mae'n gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn drwy rinwedd paragraff (2), at y dibenion hynny, yn dwyn yr un ystyr ag sydd i'r ymadroddion cyfatebol Cymraeg yn y Rheoliadau hyn.
(4) Bydd adran 2 o'r Ddeddf (ymestyn ystyr “sale” a.y.y.b.) yn gymwys mewn perthynas ag adran 9 o'r Ddeddf i'r graddau y mae'n gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn drwy rinwedd paragraff (2).
Darpariaethau trosiannol
8 
Ni fydd Rheoliad 3(1)(a)(i), (b)(i) ac (c)(i) yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw fwyd sy'n cael ei osod yn gyfreithlon ar y farchnad yn y Gymuned Ewropeaidd cyn 5 Ebrill 2002 sy'n cael ei gwmpasu gan, ond nad yw'n bodloni gofynion, Erthygl 1.1, 2.1 neu 2.2 o Reoliad y Comisiwn, i'r graddau y mae'r diffyg yn bodoli oherwydd bod y bwyd yn cynnwys halogyn a nodwyd yn adran 3 neu 4 o Atodlen I i'r Rheoliad hwnnw ar lefel sy'n uwch na'r hyn a nodwyd yn ail golofn yr adran dan sylw.
9 
Ni fydd rheoliad 3(1)(a)(ii) (b)(ii) ac (c)(ii) yn gymwys mewn perthynas â thorri Erthygl 2.3 o Reoliad y Comisiwn, i'r graddau bod y toramod yn cynnwys yn y defnydd o gynhwysion bwyd, ar gyfer cynhyrchu bwyd cyfansawdd, bwyd a osodwyd yn gyfreithlon ar y farchnad yn y Gymuned Ewropeaidd cyn 5 Ebrill 2002 ac sy'n cynnwys halogyn a nodwyd yn adran 3 neu 4 o Atodlen I i'r Rheoliad hwnnw ar lefel sy'n uwch na'r hyn a nodwyd yn yr ail golofn o'r adran dan sylw.
Diwygiadau canlyniadol
10 
Yn Atodlen 1 i Reoliadau Diogelwch Bwyd (Samplo a Chymwysterau) 1990 (darpariaethau nad yw'r Rheoliadau hyn yn gymwys iddynt) yn lle pob cofnod sy'n ymwneud â'r Rheoliadau Halogion mewn Bwyd rhowch y canlynol—“
The Contaminants in Food (Wales) Regulations 2002 (to the extent that a sample falls to be prepared and analysed in accordance with regulation 5 thereof) S.I. 2002/”.
Diddymiadau
11 
Caiff yr offerynnau a nodwyd yng ngholofn 1 o'r Atodlen eu diddymu i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru i'r graddau a nodwyd yng ngholofn 2 o'r Atodlen honNo. 
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
John Marek
Dirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol
18 Gorffennaf 2002
YR ATODLEN
DIDDYMIADAU
Rheoliad 1


Colofn 1 Colofn 2
Offerynnau sy'n cael eu diddymu Hyd a lled y Diddymiad
Rheoliadau Plwm mewn Bwyd 1979 (OS 1979/1254) Y Rheoliadau yn eu cyfanrwydd
Rheoliadau Bwyd (Adolygu Cosbau) 1982 (OS 1982/1727) Y cyfeiriad at Reoliadau Plwm mewn Bwyd 1979 yng ngholofn 2 o Atodlen 1 a'r cofnodion cyfatebol yng ngholofnau 1, 3 a 4 o'r Atodlen honno
Rheoliadau Bwyd (Adolygu Cosbau) 1985 (OS 1985/67) Y cyfeiriad at Reoliadau Plwm mewn Bwyd 1979 yng ngholofn 2 o Ran I o'r Atodlen a'r cofnodion cyfatebol yng ngholofn 1 a 3 o'r Rhan hwnnw
Gorchymyn Deddf Diogelwch Bwyd 1990 (Addasiadau Canlyniadol) (Cymru a Lloegr) 1990 (OS 1990/2486) Erthygl 19(8);Y cyfeiriad at Reoliadau Plwm mewn Bwyd 1979 yng ngholofn 2 o Ran I o Atodlen I a'r cofnodion cyfatebol yng ngholofnau 1 a 3 o'r Rhan hwnnw;Y cyfeiriad at Reoliadau Plwm mewn Bwyd 1979 yng ngholofn 2 o Atodlen 2 a'r cofnod cyfatebol yng ngholofn 1 o'r Atodlen honno;Y cyfeiriad at Reoliadau Plwm mewn Bwyd 1979 yng ngholofn 2 o Ran I o Atodlen 3 a'r cofnod cyfatebol yng ngholofn 1 o'r Rhan hwnnw;Y cyfeiriad at Reoliadau Plwm mewn Bwyd 1979 yng ngholofn 2 o Atodlen 5 a'r cofnodion cyfatebol yng ngholofnau 1 a 3 o'r Atodlen honno;Y cyfeiriad at Reoliadau Plwm mewn Bwyd 1979 yng ngholofn 2 o Atodlen 7 a'r cofnodion cyfatebol yng ngholofnau 1 a 3 o'r Atodlen honno
Rheoliadau Diogelwch Bwyd (Allforion) 1991 (OS 1991/1476) Y cyfeiriad at Reoliadau Plwm mewn Bwyd 1979 yng ngholofn 2 o Ran I o Atodlen I a'r cofnodion cyfatebol yng ngholofnau 1 a 3 o'r Rhan hwnnw
Rheoliadau Cyflasynnau mewn Bwyd 1992 (OS 1992/1971) Rheoliad 11 i'r graddau y mae'n diwygio Rheoliadau Plwm mewn Bwyd 1979
Rheoliadau Lliwiau mewn Bwyd 1995 (OS 1995/3124) Y cyfeiriad at Reoliadau Plwm mewn Bwyd 1979 yng ngholofn 1 o Atodlen 6 a'r cofnodion cyfatebol yng ngholofnau 2 a 3 o'r Atodlen honno
Rheoliadau Bwyd (Diddymiadau a Diwygiadau Amrywiol) 1995 (OS 1995/3267) Y cyfeiriad at Reoliadau Plwm mewn Bwyd 1979 yng ngholofn 1 o'r Atodlen a'r cofnodion cyfatebol yng ngholofnau 2 a 3 ohoni
Rheoliadau Halogion mewn Bwyd 1997 (OS 1997/1499) Y Rheoliadau yn eu cyfanrwydd