
2002 Rhif 1885 (Cy.194)
PYSGODFEYDD MÔR, CYMRUPYSGOD CREGYN
Rheoliadau Pysgod Cregyn (Dynodi Cramenogion) (Cymru) 2002
Wedi'u gwneud 18 Gorffennaf 2002
Yn dod i rym 5 Awst 2002
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 1(1) o Ddeddf Pysgodfeydd Môr (Pysgod Cregyn) 1967 a phob pŵer arall sy'n ei alluogi yn hynny o beth, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Pysgod Cregyn (Dynodi Cramenogion) (Cymru) 2002 a deuant i rym ar 5 Awst 2002.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru ac i'r môr gerllaw Cymru hyd at ffin forol y môr tiriogaethol.
Dynodi cramenogion
2 
Pennir drwy hyn grancod at ddibenion adran 1(1) o Ddeddf Pysgodfeydd Môr (Pysgod Cregyn) 1967.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru
John Marek
Dirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol
18 Gorffennaf 2002