
2002 Rhif 1880 (Cy.189)
ADDYSG, CYMRU
Rheoliadau Addysg (Lleoedd a Gynorthwyir) (Mân Dreuliau) (Diwygio) (Cymru) 2002
Wedi'u gwneud 18 Gorffennaf 2002
Yn dod i rym 1 Medi 2002
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 3(3), (4), (5) a (9) o Ddeddf Addysg (Ysgolion) 1997 ac sydd bellach wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru.
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Lleoedd a Gynorthwyir) (Mân Dreuliau) (Diwygio) (Cymru) 2001 a deuant i rym ar 1 Medi 2002.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.
(3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn ysgol sy'n dechrau ar 1 Medi 2002 neu wedyn.
Diwygio Rheoliadau Addysg (Lleoedd a Gynorthwyir) (Mân Dreuliau) 1997
2 

(1) Diwygir Rheoliadau Addysg (Lleoedd a Gynorthwyir) (Mân Dreuliau) 1997 fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2(2), yn lle “£11,952” rhoddir “£12,227”.
(3) Yn lle rheoliad 2(3)(a) a (b) rhoddir—“
(a) £75 where the relevant income does not exceed £11,368; and
(b) £39 where that income exceeds £11,368 but does not exceed £12,227.”
(4) Yn rheoliad 4—
(a) ym mharagraff (3), yn lle “£11,129” rhoddir “£11,381”; a
(b) ym mharagraff (4)—
(i) yn lle “£11,129” rhoddir “£11,381”, a
(ii) yn lle “£10,950” rhoddir “£11,202”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
John Marek
Dirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol
18 Gorffennaf 2002