
2002 Rhif 1876 (Cy.185)
CYNLLUNIO GWLAD A THREF, CYMRU
Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Ffioedd ar gyfer Ceisiadau a Cheisiadau Tybiedig) (Diwygio) (Cymru) 2002
Wedi'u gwneud 18 Gorffennaf 2002
Yn dod i rym 1 Awst 2002
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 303 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990, ac sydd bellach yn arferadwy gan y Cynulliad Cenedlaethol, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Ffioedd ar gyfer Ceisiadau a Cheisiadau Tybiedig) (Diwygio) (Cymru) 2002 a deuant i rym ar 1 Awst 2002.
(2) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “Rheoliadau 1989” (“the 1989 Regulations”) yw Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Ffioedd ar gyfer Ceisiadau a Cheisiadau Tybiedig) 1989.
(3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.
Ffioedd ar gyfer rhai ceisiadau o dan y Gorchymyn Datblygu Cyffredinol a Ganiateir
2 

(1) Yn rheoliad 11A o Reoliadau 1989, yn lle paragraff (1), rhowch—“
(1) Where an application is made to a local planning authority for their determination as to whether the prior approval of the authority will be required in relation to development under Schedule 2 to the General Permitted Development Order a fee shall be paid to the authority of the following amounts—
(a) for an application under Parts 6, 7 or 31, £35; and
(b) for an application under Part 24, £190”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
John Marek
Dirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol
18 Gorffennaf 2002