
2002 Rhif 186 (Cy.25)
Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU
Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) (Diwygio) (Cymru) 2002
Wedi'u gwneud 31 Ionawr 2002
Yn dod i rym 1 Chwefror 2002
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 126(4) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977 a pharagraff 2A o Atodlen 12 iddi, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) (Diwygio) (Cymru) 2002 a deuant i rym ar 1 Chwefror 2002.
(2) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “y prif Reoliadau” (“the principal Regulations”) yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) 1997.
(3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.
Diwygio rheoliad 1 o'r prif Reoliadau
2 
Ym mharagraff (2) o Reoliad 1 o'r prif Reoliadau (dehongli), yn y diffiniad o “NHS sight test fee”, yn lle'r swm “£42.85” rhowch “£44.39” ac yn lle'r swm “£15.52” rhowch y swm “£16.08”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
31 Ionawr 2002