
2002 Rhif 1856 (Cy.180)
ADDYSG, CYMRU
Rheoliadau Awdurdodau Addysg Lleol (Dyfarndaliadau Addysg Ôl-orfodol) (Cymru) 2002
Wedi'u gwneud 16 Gorffennaf 2002
Yn dod i rym 1 Awst 2002
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y rheoliadau canlynol, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 518(1)(b) a (2) a 569(4) o Ddeddf Addysg 1996 ac a freiniwyd bellach yn y Cynulliad Cenedlaethol.
Enwi a chychwyn
1 
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Awdurdodau Addysg Lleol (Dyfarndaliadau Addysg Ôl-orfodol) (Cymru) 2002 a deuant i rym ar 1 Awst 2002.
Diddymu, eithrio a darparieth drosiannol
2 

(1) Diddymir Rheoliadau Awdurdodau Addysg Lleol (Dyfarndaliadau Addysg Ôl-orfodol) 1999 mewn perthynas ag awdurdodau addysg lleol yng Nghymru, ond mae'r rheoliadau a ddiddymwyd yn parhau'n gymwys mewn perthynas ag unrhyw ddyfarndaliadau o dan y rheoliadau hynny a wnaed cyn i'r Rheoliadau hyn ddod i rym.
(2) Bernir i unrhyw benderfyniad a wnaed gan awdurdod addysg o dan reoliad 4 o'r rheoliadau a ddiddymwyd mewn perthynas â'r flwyddyn ariannol 2002—2003 gael ei wneud o dan reoliad 5 o'r Rheoliadau hyn.
Dehongli
3 

(1) Yn y Rheoliadau hyn, oni bai fod y cyd-destun yn mynnu fel arall—
 ystyr “awdurdod addysg” (“education authority”) yw awdurdod addysg lleol yng Nghymru;
 ystyr “blwyddyn ariannol” (“financial year”) yw cyfnod o ddeuddeng mis sy'n dod i ben â 31 Mawrth;
 ystyr “cyfleusterau addysgol” (“educational facilities”) mewn perthynas â pherson cymwys yw—
(a) addysg uwchradd a ddarperir mewn ysgol, neu
(b) cwrs llawnamser neu ran-amser o addysg bellach neu addysg uwch mewn sefydliad addysgol neu fel arall, ar wahân i (oni bai fod y dyfarndaliad yn Grant Dysgu'r Cynulliad) gwrs y mae person yn gymwys i gael cymorth ariannol ar ei gyfer ar ffurf grant neu fenthyciad o dan reoliadau a wneir o dan adran 22 o Ddeddf Addysg Uwch 1998;
 ystyr “Cynllun Grant Dysgu'r Cynulliad” (“the Assembly Learning Grant Scheme”) yw'r cynllun a sefydlwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol ac sy'n nodi'r amodau ynghylch gwneud grant gan y Cynulliad Cenedlaethol o dan reoliadau a wneir o dan adran 484 o Ddeddf Addysg 1996 i ad-dalu gwariant gan awdurdodau addysg wrth dalu Grantiau Dysgu'r Cynulliad, sef gwariant a gymeradwyir gan y Cynulliad Cenedlaethol at ddibenion y rheoliadau hynny ar gyfer y flwyddyn ariannol dan sylw;
 ystyr “Cynulliad Cenedlaethol” (“National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;
 ystyr “dyfarndal addysg ôl-orfodol” (“post-compulsory education award”) yw dyfarndal a roddir gan awdurdod addysg o dan reoliad 4;
 ystyr “Grant Dysgu'r Cynulliad” (“Assembly Learning Grant”) yw dyfarndal addysg ôl-orfodol i berson sy'n dilyn cwrs o addysg bellach neu addysg uwch a ddynodwyd at ddibenion Cynllun Grant Dysgu'r Cynulliad os yw'r person hwnnw'n bodloni gofynion cymhwyster y Cynllun hwnnw;
 ystyr “person cymwys” (“eligible person”) yw person dros yr oedran ysgol orfodol;
 ystyr “y rheoliadau a ddiddymwyd” (“the revoked regulations”) yw'r rheoliadau a ddiddymwyd gan reoliad 2.
(2) Yn y Rheoliadau hyn, oni bai fod y cyd-destun yn mynnu fel arall, y mae unrhyw gyfeiriad at reoliad â rhif yn gyfeiriad at y rheoliad sydd â'r rhif hwnnw yn y Rheoliadau hyn ac y mae unrhyw gyfeiriad mewn rheoliad at baragraff yn gyfeiriad at baragraff yn y rheoliad hwnnw.
Pŵer i roi dyfarndaliadau addysg ôl-orfodol
4 

(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2) bydd gan awdurdod addysg y pŵer i roi dyfarndal addysg ôl-orfodol, sef—
(a) ysgoloriaeth,
(b) gwobr,
(c) bwrsariaeth, neu
(d) unrhyw lwfans arall
mewn perthynas â pherson cymwys at ddiben galluogi'r person hwnnw i gymryd mantais o unrhyw gyfleusterau addysgol sydd ar gael iddo.
(2) Ac eithrio pan fydd y dyfarndal yn Grant Dysgu'r Cynulliad—
(a) ni cheir arfer y pŵer yn is-adran (1) mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn ariannol os yw'r awdurdod addysg wedi penderfynu o dan reoliad 5 na ddylai gael ei arfer mewn perthynas â'r flwyddyn ariannol honno, a
(b) pan fydd yr awdurdod addysg, mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn ariannol, wedi penderfynu o dan reoliad 5 na cheir arfer y pŵer ond o ran personau cymwys a all fodloni meini prawf penodol, caiff yr awdurdod arfer y pŵer o dan is-adran (1) i roi dyfarndal addysg ôl-orfodol ond mewn perthynas â pherson cymwys sy'n bodloni'r meini prawf hynny.
Awdurdod addysg yn penderfynu
5 

(1) Rhaid i awdurdod addysg benderfynu mewn perthynas â phob blwyddyn ariannol, a ddylai arfer y pŵer yn rheoliad 4(1) mewn perthynas â dyfarndaliadau addysg ôl-orfodol ac os penderfyna wneud felly yn y flwyddyn honno a ddylai wneud hynny—
(a) yn gyffredinol, neu
(b) dim ond yn achos personau cymwys sy'n bodloni'r meini prawf y caiff yr awdurdod benderfynu arnynt.
(2) Rhaid i awdurdod addysg benderfynu o dan baragraff (1)—
(a) mewn perthynas â'r flwyddyn ariannol 2002–2003, o fewn tri mis i'r Rheoliadau hyn ddod i rym (oni bai i'r awdurdod hwnnw benderfynu'n barod mewn perthynas â'r flwyddyn ariannol honno o dan reoliad 4 o'r rheoliadau a ddiddymwyd); a
(b) mewn perthynas â phob blwyddyn ariannol ganlynol, yn y cyfnod o ddeuddeng mis sy'n dod i ben â diwrnod cyntaf y flwyddyn honNo. 
(3) Ni fydd unrhyw benderfyniad o dan baragraff (1) mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn ariannol yn effeithio ar rwymedigaeth barhaus yr awdurdod addysg i wneud taliadau o dan ddyfarndal addysg ôl-orfodol ac a roddir mewn perthynas â pherson cymwys cyn y dyddiad y bydd y penderfyniad yn cymryd effaith.
(4) Yn union wedi i awdurdod addysg benderfynu o dan baragraff (1) mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn ariannol, rhaid iddo gymryd y camau y barna eu bod yn rhesymol i'w cymryd er mwyn dod ag effaith y penderfyniad at sylw'r personau hynny y mae'n debygol y bydd yn effeithio arnynt.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
16 Gorffennaf 2002