
2002 Rhif 1804 (Cy.174)
Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU
Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) (Diwygio) (Rhif 3) (Cymru) 2002
Wedi'u gwneud 11 Gorffennaf 2002
Yn dod i rym 1 Awst 2002
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 29 a 126(4) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977 drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) (Diwygio) (Rhif 3) (Cymru) 2002 a deuant i rym ar 1 Awst 2002.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.
Diwygio Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) 1992
2 

(1) Diwygir Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) 1992 yn unol â pharagraff canlynol y Rheoliad hwn.
(2) Yn Atodlen 10 (cyffuriau a sylweddau eraill nad ydynt i'w rhagnodi i'w cyflenwi o dan wasanaethau fferyllol):—
(a) mewnosodwch y cofnodion canlynol yn y fath fannau priodol a fydd yn sicrhau bod yr holl gofnodion yn ôl trefn yr wyddor—“Boots Glucomsamine Capsules 400 mgGlucosamine Sulphate Tablets 600mgHealth Aid Glucosamine Sulphate Tablets 500mgSolgar Glucosamine Sulphate TabletsVega Glucosamine Capsules 400 mg” a
(b) hepgorwch y cofnodion canlynol—“Cow and Gate Nutriprem 2Farley’s Premcare”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
11 Gorffennaf 2002