
2002 Rhif 1729 (Cy.163)
LLYWODRAETH LEOL, CYMRU
Gorchymyn Awdurdodau Lleol (Nwyddau a Gwasanaethau) (Cyrff Cyhoeddus) (Cymru) 2002
Wedi'i wneud 4 Gorffennaf 2002
Yn dod i rym 19 Gorffennaf 2002
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 1(5) o Ddeddf Awdurdodau Lleol (Nwyddau a Gwasanaethau) 1970 ac sydd wedi'u breinio bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru i'r graddau y maent yn arferadwy yng Nghymru.
Enw, cychwyn, cymhwyso a dehongli
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Awdurdodau Lleol (Nwyddau a Gwasanaethau) (Cyrff Cyhoeddus) (Cymru) 2002 a daw i rym ar 19 Gorffennaf 2002.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru yn unig.
(3) Yn y Gorchymyn hwn ystyr “Deddf 1970” yw Deddf Awdurdodau Lleol (Nwyddau a Gwasanaethau) 1970.
Dynodi cyrff cyhoeddus
2 
Bydd y personau a bennir yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn, gan eu bod yn bersonau y mae'n ymddangos i Gynulliad Cenedlaethol Cymru eu bod yn arfer swyddogaethau o natur gyhoeddus, yn gyrff cyhoeddus at ddibenion Deddf 1970.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D. Elis-Thomas
Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru
4 Gorffennaf 2002
YR ATODLEN
Cyrff Cyhoeddus
Erthygl 2


 Cynulliad Cenedlaethol Cymru
 Cyngor Gofal Cymru
 Cyngor Cenedlaethol Cymru dros Addysg a Hyfforddiant
