
2002 Rhif 1475 (Cy.147) (C.41)
Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU
Gorchymyn Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001 (Cychwyn Rhif 2) (Cymru) 2002
Wedi'i wneud 30 Mai 2002
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 70(2) o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001  drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:—
Enwi, dehongli a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001 (Cychwyn Rhif 2) (Cymru) 2002.
(2) Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001.
(3) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru'n unig.
Y diwrnod penodedig
2 

(1) Pennir drwy hyn 1 Gorffennaf 2002 fel y dyddiad y daw darpariaethau'r Ddeddf a bennir yn Rhan 1 o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn i rym.
(2) Pennir drwy hyn 1 Rhagfyr 2002 fel y dyddiad y daw darpariaethau'r Ddeddf a bennir yn Rhan 2 o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn i rym.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
30 Mai 2002
YR ATODLEN
Erthygl 2
Rhan 1 DARPARIAETHAU'R DDEDDF SY'N DOD I RYM AR 1 GORFFENNAF 2002

Darpariaethau'r Ddeddf Pwnc
Adran 3(1) a (2) Taliadau atodol i GIG
Adran 5 Cynhyrchu Incwm
Adran 19 Tystysgrifau cofnodion troseddol manylach
Adran 20 Rhestrau meddygol, deintyddol, offthalmig a fferyllol etc.
Adran 21 Cynnwys yn amodol ar restrau meddygol, deintyddol, offthalmig a fferyllol
Adran 22 Cofforaethau Deintyddol
Adran 23 Datgan buddiannau ariannol, rhoddion, etc.
Adran 24 Rhestrau ychwanegol
Adran 25 Atal ac anghymhwyso ymarferwyr
Adran 26 Rhestrau GMP a GDP
Adran 28 Cynlluniau Peilot
Adran 29 Gwneud cynlluniau peilot
Adran 30 Dynodi cymdogaethau neu safleoedd blaenoriaethol
Adran 31 Adolygu cynlluniau peilot
Adran 32 Amrywio a therfynu cynlluniau peilot
Adran 33 Contractau GIG
Adran 34 Ariannu gwaith paratoadol
Adran 35 Ffioedd, adfer taliadau a chosbau
Adran 36 Effaith Deddf Gwasanaethau Iechyd Gwladol 1977
Adran 37 Safleodd y gellir darparu cynlluniau peilot ohonynt
Adran 38 Rheoliadau rheoli mynediad
Adran 39 Asesu cynlluniau peilot
Adran 41 Darpariaethau cyfatebol a chymhwyso deddfiadau
Adran 42 Gweinyddu presgripsiynau GIG a darparu gwasanaethau fferyllol
Adran 43 Darparu gwasanaethau fferyllol etc o bell
Adran 67 i'r graddau y mae'n berthnasol i ddarpariaethau Atodlen 5 ac Atodlen 6 a bennir isod:— Mân ddiwygiadau canlyniadol a dirymiadau
Yn Atodlen 5—
 paragraff 1;
 paragraff 2;
 paragraff 3;
 paragraff 4;
 paragraff 5(2),(7)(a)(b) ac (c), ac (8)
 paragraff 6(1)(2) a (3);
 paragraff 7;
 paragraff 8;
 paragraff 9;
 paragraff 10;
 paragraff 11; a
 pharagraff 14. 
Yn Atodlen 6, dirymu i'r graddau y maent yn berthnasol i Gymru:— 
Adran 102(1)(a)(ii) a (2)(a) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977; 
Adran 21(1) o Ddeddf y Gwasanaethau Iechyd 1980; Paragraff 18(1) o Atodlen 9 i Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990; 
Paragraff 29 i Atodlen 1 i Ddeddf yr Awdurdodau Iechyd 1995; 
Adrannau 2(1), 4 i 6 a 14(5) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Diwygio) 1995; a 
Pharagraffau 13 a 76 o Atodlen 2 i Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gofal Sylfaenol) 1997. 
Atodlen 2 Gwasanaethau Peilot
Atodlen 3 Gwasanaethau GFfLl
Rhan 2 DARPARIAETHAU'R DDEDDF SY'N DOD I RYM AR 1 RHAGFYR 2002

Darpariaethau'r Ddeddf Pwnc
Adran 11 Rôl y cyhoedd ac ymgynghori