
2002 Rhif 1441 (Cy.145)
YR IAITH GYMRAEG
Gorchymyn Cynlluniau Iaith Gymraeg (Cyrff Cyhoeddus) 2002
Wedi'i wneud 28 Mai 2002
Yn dod i rym 25 Mehefin 2002

Gan ei bod yn ymddangos i Gynulliad Cenedlaethol Cymru fod y personau y cyfeirir atynt yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn yn bersonau sy'n arfer swyddogaethau cyhoeddus eu natur;

Yn awr felly, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y swyddogaethau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 6(1) o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993, ac a freiniwyd bellach yn y Cynulliad Cenedlaethol, a phob pwer arall sy'n ei alluogi yn y cyswllt hwnnw, drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:
Enwi a chychwyn
1 
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cynlluniau Iaith Gymraeg (Cyrff Cyhoeddus) 2002 a daw i rym ar 25 Mehefin 2002.
Pennu Cyrff Cyhoeddus
2 
Pennir y personau y cyfeirir atynt yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn at ddibenion Rhan II o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
28 Mai 2002
Yr Atodlen
ENW CYMRAEG NEU GYFIEITHIAD O'R ENW


 Yr Asiantaeth Datblygu Sgiliau Sector
 Awdurdod Gwasanaethau Ariannol
 Awdurdod Strategol y Rheilffyrdd
 Bwrdd Hyfforddi'r Diwydiant Adeiladu
 Bwrdd Hyfforddi'r Diwydiant Adeiladu Peiriannol
 Comisiynydd Plant Cymru
 Cyngor Deintyddol Cyffredinol
 Cyngor Defnyddwyr Gwasanaethau Post
 Cyngor Defnyddwyr Nwy a Thrydan
 Cyngor Gofal Cymru
 Cyngor Gweithwyr Iechyd Proffesiynol
 Cyngor Meddygol Cyffredinol
 Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth
 Cyngor Teithwyr Rheilffyrdd
 Gwasanaeth Cynghori a Chynorthwyo Llys i Blant a Theuluoedd yng Nghymru a Lloegr
 Pwyllgor Teithwyr Rheilffyrdd - Cymru
 Tribiwnlysoedd Prisio Cymru a sefydlwyd o dan Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988
