
2002 Rhif 1432 (Cy.143)
LLYWODRAETH LEOL, CYMRUNEWIDIADAU I ARDALOEDD LLYWODRAETH LEOL
Gorchymyn Pen-y-bont ar Ogwr (Cymunedau Cynffig, Corneli a'r Pîl) (Newidiadau Etholiadol) (Diwygio) 2002
Wedi'i wneud 29 Ebrill 2002
Yn dod i rym 1 Mai 2002

Gan fod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 58(2) a 67(4) a (5) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, ac a freiniwyd bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru i'r graddau y maent yn arferadwy yng Nghymru, wedi gwneud Gorchymyn Pen-y-bont ar Ogwr (Cymunedau Cynffig, Corneli a'r Pîl) (Newidiadau Etholiadol) 2002;

mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn awr yn gwneud y Gorchymyn canlynol er mwyn gwneud newidiadau i ddarpariaethau penodol yn y gorchymyn blaenorol hwnnw ynglŷn â dyddiad dileu cymuned Cynffig a dyddiad cynnal etholiadau ar gyfer cynghorau cymuned newydd Corneli a'r Pîl.
Enwi a chychwyn
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Pen-y-bont ar Ogwr (Cymunedau Cynffig, Corneli a'r Pîl) (Newidiadau Etholiadol) (Diwygio) 2002.
(2) Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Mai 2002.
Diwygio Gorchymyn Pen-y-bont ar Ogwr (Cymunedau Cynffig, Corneli a'r Pîl) (Newidiadau Etholiadol) 2002
2 

(1) Diwygir Gorchymyn Pen-y-bont ar Ogwr (Cymunedau Cynffig, Corneli a'r Pîl) (Newidiadau Etholiadol) 2002 fel a ganlyn.
(2) Yn erthygl 2, yn lle “2 Mai” rhowch “20 Mehefin”.
(3) Ym mharagraff (1) o Erthygl 4, yn lle “6 Mai” rhowch “24 Mehefin”.
Llofnodwyd
E. Hart
Y Gweinidog dros Gyllid, Llywodraeth Leol a Chymunedau
29 Ebrill 2002