
2002 Rhif 1400 (Cy.139)
ADDYSG, CYMRU
Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth Ysgolion) (Cymru) (Diwygio) 2002
Wedi'u gwneud 21 Mai 2002
Yn dod i rym 31 Mai 2002
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 537 a 569(4) a (5) o Ddeddf Addysg 1996 ac sydd bellach wedi'u breinio yn y Cynulliad Cenedlaethol.
Enwi a chychwyn
1 
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth Ysgolion) (Cymru) (Diwygio) 2002 a deuant i rym ar 31 Mai 2002.
Diwygio Rheoliadau
2 

(1) Diwygir Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth Ysgolion) (Cymru) 1999 fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 3(1), ar gyfer y diffiniadau o “NC tests” (yn y ddau le) a “NC tasks” amnewidiwch—“
 “NC tests” and “NC tasks” means, respectively, National Curriculum tests and National Curriculum tasks administered to pupils in accordance with the statutory arrangements;”.
(3) Yn Atodlen 3, hepgorwch—
(a) ym mharagraff 18, yn is-baragraff (3) y geiriau “Subject to sub-paragraph (8)” a'r geiriau “and specifying the percentage of pupils who were absent from the NC tests”;
(b) ym mharagraff 18, yn is-baragraff (5) y geiriau “Subject to sub-paragraph (8)”; ac
(c) ym mharagraff 18, is-baragraff (8).
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
21 Mai 2002