
2002 Rhif 1385 (Cy.135)
LLYWODRAETH LEOL, CYMRU
Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithrediaeth) (Penderfyniadau, Dogfennau a Chyfarfodydd) (Cymru) (Diwygio) 2002
Wedi'u gwneud 16 Mai 2002
Yn dod i rym 17 Mai 2002
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 22(6), (7), (8), (9), (10), (11) a (12), 105 a 106 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000:
Enwi, cychwyn, a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithrediaeth) (Penderfyniadau, Dogfennau a Chyfarfodydd) (Cymru) (Diwygio) 2002 a deuant i rym ar 17 Mai 2002.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.
Diwygiad i Reoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithrediaeth) (Penderfyniadau, Dogfennau a Chyfarfodydd) (Cymru)
2 

(1) Diwygir Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithrediaeth) (Penderfyniadau, Dogfennau a Chyfarfodydd) (Cymru) 2001  fel a ganlyn.
(2) Yn lle paragraff (4) o Reoliad 5 rhowch:“
(4) Ni chaiff eitem fusnes ei hystyried mewn cyfarfod oni bai bod—
(a) copi o'r agenda gan gynnwys yr eitem (neu gopi o'r eitem) yn agored i aelodau o'r cyhoedd ei archwilio yn unol â pharagraff (1):
(i) am o leiaf dri diwrnod clir cyn y cyfarfod; neu
(ii) pan fydd y cyfarfod yn cael ei gynnull ar rybudd byrrach, o'r amser y bydd y cyfarfod yn cael ei gynnull; neu
(b) cadeirydd y cyfarfod o'r farn, oherwydd amgylchiadau arbennig, a fydd yn cael eu nodi yn y cofnodion, y dylai'r item gael ei thrafod yn y cyfarfod fel mater o frys.”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66 (1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
J.E. Randerson
Y Gweinidog dros Ddiwylliant, Chwaraeon a'r Gymraeg
16 Mai 2002