
2002 Rhif 1358 (Cy.134)
ANIFEILIAID, CYMRUIECHYD ANIFEILIAID
Gorchymyn Crynoadau Anifeiliaid (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Diwygio) 2002
Wedi'i wneud 14 Mai 2002
Yn dod i rym 15 Mai 2002
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru a'r Ysgrifennydd Gwladol, drwy arfer ar y cyd y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 1, 7 a 8 o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981  yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Enwi, cymhwyso a chychwyn
1 
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Crynoadau Anifeiliaid (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Diwygio) 2002; mae'n gymwys i Gymru yn unig ac mae'n dod i rym ar 15 Mai 2002.
Dehongli
2 
Yn y Gorchymyn hwn—
(a)  ystyr “y prif Orchymyn” (“the principal Order”) yw Gorchymyn Crynoadau Anifeiliaid (Mesurau Dros Dro) (Cymru) 2002; a
(b) mae “cyfarpar” (“equipment”) yn cynnwys corlannau a chlwydi.
Diwygio erthygl 2
3 

(1) Bydd erthygl 2 y prif Orchymyn yn cael ei diwygio yn unol â darpariaethau'r erthygl hon.
(2) Dilëwch y geiriau “, oni bai fod y cyd-destun yn mynnu fel arall”.
(3) Ym mharagraff (d), dilëwch y geiriau “yn achos gwartheg stôr,”.
Diwygio Paragraff 2 o'r Atodlen
4 
Rhowch y paragraff dilynol yn lle paragraff 2 o'r Atodlen —“
2 
Pan fydd yr anifail olaf mewn crynhoad anifeiliaid wedi ymadael y tir a'r adeiliadau, ni chaiff neb
(a) yn ddarostyngedig i baragraff 3 isod, ganiatáu i anifeiliaid ddod i'r tir a'r adeiladau hynny nes y bydd yr holl waith glanhau halogiad, sy'n weladwy ar y cyfarpar yr oedd gan yr anifeiliaid yn y crynhoad fynediad iddo, wedi'i gwblhau; neu
(b) symud o'r tir a'r adeiladau hynny unrhyw gyfarpar yr oedd gan anifeiliaid yn y crynhoad fynediad iddo, oni bai —
(i) bod gwaith glanhau'r halogiad gweladwy y cyfeirir ato yn is-baragraff (a) uchod oddi ar y cyfarpar sydd i'w symud oddi yno wedi ei gwblhau a bod y cyfnod o 28 diwrnod wedi mynd heibio ers i'r gwaith hwnnw gael ei gwblhau; neu
(ii) bod y cyfarpar sydd wedi cael ei symud oddi yno wedi cael ei ysgubo neu ei grafu'n lân, wedi ei lanhau drwy olchi a bod diheintydd a gymeradwywyd wedi ei daenu yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr.”
Diwygio paragraff 6 o'r Atodlen
5 
Ym mharagraff 6 o'r Atodlen, yn lle'r geiriau “(am reswm nad yw'n ymwneud â phresenoldeb anifeiliaid yno)” rhowch y geiriau a ganlyn —“
 , yn dilyn y tro diwethaf i'r tir a'r adeiladau gael eu glanhau a'u diheintio yn unol â pharagraffau 4 a 5 uchod,”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru
D Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
14 Mai 2002Lord Whitty
Is-ysgrifennydd Seneddol
Adran yr Amgylchedd,
Bwyd a Materion Gwledig
14 Mai 2002