
2002 Rhif 1354 (Cy.131)
ANIFEILIAID, CYMRUIECHYD ANIFEILIAID
Rheoliadau Adnabod a Symud Defaid a Geifr (Mesurau Dros Dro) (Diddymu) (Cymru) 2002
Wedi'u gwneud 14 Mai 2002
Yn dod i rym 15 Mai 2002
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ei fod wedi'i ddynodi  at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972  mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 2(2), yn gwneud y rheoliadau canlynol—
Enwi, cymhwyso a chychwyn
1 
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Adnabod a Symud Defaid a Geifr (Mesurau Dros Dro) (Diddymu) (Cymru) 2002; maent yn gymwys i Gymru a deuant i rym ar 15 Mai 2002.
Diddymu
2 
Mae Rheoliadau Adnabod a Symud Defaid a Geifr (Mesurau Dros Dro) (Cymru) 2002  a Gorchymyn Adnabod a Symud Defaid a Geifr (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Diwygio) 2002 ) yn cael eu diddymu.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
14 Mai 2002