
2002 Rhif 107 (Cy.12)
ADDYSG, CYMRU
Rheoliadau Addysg (Y Diwrnod Ysgol a'r Flwyddyn Ysgol) (Cymru) (Diwygio) 2002
Wedi'u gwneud 22 Ionawr 2002
Yn dod i rym 18 Chwefror 2002
Drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 551 a 569(4) a (5) o Ddeddf Addysg 1996 ac sydd wedi'u breinio bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Y Diwrnod Ysgol a'r Flwyddyn Ysgol) (Diwygio) (Cymru) 2002 a deuant i rym ar 18 Chwefror 2002.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.
Diwygio Rheoliadau Addysg (Y Diwrnod Ysgol a'r Flwyddyn Ysgol) (Cymru) 2000
2 

(1) Diwygir Rheoliadau Addysg (Y Diwrnod Ysgol a'r Flwyddyn Ysgol) (Cymru) 2000 yn unol â'r darpariaethau canlynol yn y Rheoliadau hyn.
3 
Ar ddiwedd rheoliad 3 ychwanegir y paragraff canlynol—“
(6) Mewn perthynas â'r flwyddyn ysgol 2001 — 2002 cymerir y cyfeiriad ym mharagraff (2) at 380 o sesiynau fel cyfeiriad at 378 o sesiynau.”
4 
Ychwanegir y rheoliad canlynol ar ôl rheoliad 4—“
5 

(1) Pan fydd sesiwn ysgol yn y flwyddyn ysgol 2002—2003 wedi'i neilltuo'n llwyr neu yn bennaf i ddarparu hyfforddiant y mae'r paragraff hwn yn gymwys iddo ar gyfer athrawon a gyflogir yn yr ysgol honno, ymdrinnir â'r sesiwn honno at ddibenion rheoliad 3 fel pe bai'n sesiwn pan gyfarfu'r ysgol.
(2) Ni chaiff paragraff (1) effaith mewn perthynas â mwy na dwy sesiwn ysgol.
(3) Mae paragraff (1) yn gymwys i hyfforddiant sy'n ymwneud ag addysgu disgyblion yn yr ysgol sydd yn yr ail gyfnod allweddol neu'r trydydd cyfnod allweddol.”
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
22 Ionawr 2002