
2002 Rhif 1039 (Cy.111)
ANIFEILIAID, CYMRUIECHYD ANIFEILIAID
Rheoliadau Anifeiliaid a Chynhyrchion Anifeiliaid (Mewnforio ac Allforio) (Lloegr a Chymru) (Diwygio) (Cymru) (Rhif 2) 2002
Wedi'u gwneud am 10.20 ar 10 Ebrill 2002
Yn dod i rym am 12.00 ar 10 Ebrill 2002
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ei fod wedi'i ddynodi at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 mewn perthynas â Pholisi Amaethyddol Cyffredin y Gymuned Ewropeaidd, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan yr adran honno, a phob pŵer arall sy'n ei alluogi yn y cyswllt hwnnw, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Enw, cymhwyso a chychwyn
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Anifeiliaid a Chynhyrchion Anifeiliaid (Mewnforio ac Allforio) (Lloegr a Chymru) (Diwygio) (Cymru) (Rhif 2) 2002.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru, a deuant i rym am 12.00 ar 10 Ebrill 2002.
Diwygio Rheoliadau Anifeiliaid a Chynhyrchion Anifeiliaid (Mewnforio ac Allforio) (Lloegr a Chymru) 2000
2 

(1) Diwygir Rheoliadau Anifeiliaid a Chynhyrchion Anifeiliaid (Mewnforio ac Allforio) (Lloegr a Chymru) 2000 mewn perthynas â Chymru yn unol â darpariaethu canlynol y rheoliad hwn.
(2) Yn Atodlen 3, Rhan I—
(a) ym mharagraff 9, yn lle'r geiriau “and 2002/153/EC (OJ No. L50, 21.2.2002, p.98);” rhoddir y geiriau—“, 2002/153/EC (OJ No. L50, 21.2.2002, p.98) and 2002/242/EC (OJ No. L82, 26.3.2002, p.18);”; a
(b) ym mharagraff 16 yn lle'r geiriau “and 2002/153/EC (OJ No. L50, 21.2.2002, p.98).” rhoddir y geiriau—“, 2002/153/EC (OJ No. L50, 21.2.2002, p.98) and 2002/242/EC (OJ No. L82, 26.3.2002, p.18).”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
Jane Hutt
Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.
10.20 am ar 10 Ebrill 2002