
2001 Rhif 890 (Cy. 41)
ADDYSG, CYMRU
Rheoliadau Addysg (Cyraeddiadau Disgyblion Unigol) (Gwybodaeth) (Cymru) (Diwygio) 2001
Wedi'u gwneud 8 Mawrth 2001
Yn dod i rym 1 Ebrill 2001
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan nad oes neb yr oedd yn ymddangos iddo y byddai'n ddymunol ymgynghori â hwy, yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 408 a 569(4) a (5) o Ddeddf Addysg 1996 ac sydd bellach wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru.
Enwi a chychwyn
1 
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Cyraeddiadau Disgyblion Unigol) (Gwybodaeth) (Cymru) (Diwygio) 2001 a deuant i rym ar 1 Ebril1 2001.
Diwygio Rheoliadau
2 

(1) Mae Rheoliadau Addysg (Cyraeddiadau Disgyblion Unigol) (Gwybodaeth) (Cymru) 1997 yn cael eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 3(10), hepgorwch is-baragraff (c).
(3) Yn rheoliad 6(2), hepgorwch “(other than art, music and physical education)” yn is-baragraff (a) a'r cyfan o is-baragraff (b).
(4) Ym mharagraff 3 o Atodlen 1, hepgorwch “(other than art, music and physical education)” yn is-baragraff (1) a'r cyfan o is-baragraff (2).
(5) Ym mharagraff 3 o Atodlen 2, hepgorwch “(other than art, music and physical education)” yn is-baragraff (2).
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998)
D.Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
8 Mawrth 2001