
2001 Rhif 832 (Cy. 37)
ADDYSG, CYMRU
Rheoliadau Addysg (Cofnodion Disgyblion) (Cymru) 2001
Wedi'u gwneud 8th Mawrth 2001
Yn dod i rym 16 Ebrill 2001
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 563 a 569(4) a (5) o Ddeddf Addysg 1996 ac sydd wedi'u breinio bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru.
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Cofnodion Disgyblion) (Cymru) 2001 a deuant i rym ar 16 Ebrill 2001.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas ag ysgolion yng Nghymru yn unig.
Dehongli
2 

(1) Yn y Rheoliadau hyn —
 ystyr “cofnod cwricwlaidd” (“curricular record”) yw cofnod ffurfiol o gyraeddiadau academaidd disgybl, medrau a galluoedd eraill y disgybl a chynnydd y disgybl yn yr ysgol;
 ystyr “person cyfrifol” (“responsible person”) yw —
(a) pennaeth ysgol annibynnol; neu
(b) corff llywodraethu unrhyw ysgol arall; neu
(c) y person sy'n gyfrifol am arwain unrhyw sefydliad addysg bellach neu addysg uwch neu le addysg neu le hyfforddiant arall y mae disgybl yn trosglwyddo iddo neu y gallai drosglwyddo iddo;ystyr “diwrnod ysgol” (“school day”) yw unrhyw ddiwrnod y mae sesiwn ysgol yn digwydd yn yr ysgol;
 ystyr “sefydliad addysg bellach neu addysg uwch” (“institution of further or higher education”) yw unrhyw sefydliad o fewn is-adran (10) o adran 218 o Ddeddf Diwygio Addysg 1988.
(2) Yn y Rheoliadau hyn, mae unrhyw gyfeiriad at reoliad â rhif yn gyfeiriad at y rheoliad sy'n dwyn y rhif hwnnw yn y Rheoliadau hyn ac mae unrhyw gyfeiriad mewn rheoliad at baragraff â rhif yn gyfeiriad at y paragraff yn y rheoliad hwnnw sy'n dwyn y rhif hwnnw.
Ystyr cofnodion addysgol
3 

(1) Yn y Rheoliadau hyn ystyr “cofnod addysgol” (“educational record”) yw unrhyw gofnod o wybodaeth —
(a) a brosesir gan neu ar ran corff llywodraethu unrhyw ysgol a bennir ym mharagraff (2), neu gan neu ar ran athro yn yr ysgol honno;
(b) sy'n ymwneud ag unrhyw berson sy'n ddisgybl neu sydd wedi bod yn ddisgybl yn yr ysgol; ac
(c) a ddaeth oddi wrth neu a roddwyd gan neu ar ran unrhyw un o'r personau a bennir ym mharagraff (3),
heblaw gwybodaeth a brosesir gan athro at ddefnydd yr athro yn unig.
(2) Dyma'r ysgolion y cyfeirir atynt ym mharagraff (1)(a) —
(a) ysgol a gynhelir gan awdurdod addysg lleol; a
(b) ysgol arbennig nad yw'n cael ei chynnal felly.
(3) Dyma'r personau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1)(c) —
(a) gweithiwr a gyflogir gan yr awdurdod addysg lleol sy'n cynnal yr ysgol;
(b) yn achos —
(i) ysgol wirfoddol a gynorthwyir, ysgol sefydledig neu ysgol arbennig sefydledig; neu
(ii) ysgol arbennig nad yw'n cael ei chynnal gan awdurdod addysg lleol,
athro neu weithiwr cyflogedig arall yn yr ysgol (gan gynnwys seicolegydd addysgol a gymerir ymlaen gan y corff llywodraethu o dan gontract am wasanaethau);
(c) y disgybl y mae'r cofnod yn berthnasol iddo; ac
(ch) rhiant i'r disgybl hwnnw.
Dyletswyddau pennaeth - cofnodion cwricwlaidd
4 
Rhaid i bennaeth pob ysgol a gynhelir gan awdurdod addysg lleol, ac eithrio ysgol feithrin, a phob ysgol arbennig nad yw'n cael ei chynnal felly, gadw cofnod cwricwlaidd, a ddiweddarir o leiaf unwaith y flwyddyn, mewn perthynas â phob disgybl cofrestredig yn yr ysgol.
Dyletswyddau pennaeth - cofnodion addysgol
5 

(1) Ar ôl cael cais ysgrifenedig gan riant i ddatgelu cofnod addysgol disgybl, rhaid i bennaeth ysgol a gynhelir gan awdurdod addysg lleol, ac eithrio ysgol feithrin, a phennaeth ysgol arbennig nad yw'n cael ei chynnal felly, o fewn pymtheng niwrnod ysgol, drefnu ei fod ar gael i'w archwilio, yn rhad ac am ddim, i'r rhiant.
(2) Ar ôl cael cais ysgrifenedig gan riant am gopi o gofnod addysgol disgybl, rhaid i bennaeth ysgol o'r fath, o fewn pymtheng niwrnod ysgol, roi copi ohono i'r rhiant pan delir ffi (nad yw'n fwy na chost ei gyflenwi), os oes ffi, fel y caiff y corff llywodraethu ei ragnodi.
(3) Ym mhob achos lle'r ydys yn ystyried derbyn y disgybl i ysgol arall (gan gynnwys ysgol annibynnol) neu i sefydliad addysg bellach neu addysg uwch neu i unrhyw le addysg neu le hyfforddiant arall, rhaid i'r pennaeth drosglwyddo cofnod cwricwlaidd y disgybl i'r person cyfrifol, yn rhad ac am ddim, os yw'r person yn gwneud y cais hwnnw, cyn pen pymtheng niwrnod ysgol ar ôl cael y cais.
(4) Ni fydd y cofnod a roddir o dan baragraff (3) yn cynnwys canlyniadau unrhyw asesiad o gyraeddiadau'r disgybl.
(5) Wrth gydymffurfio ag unrhyw gais i ddatgelu neu i gael copi o gofnod addysgol disgybl o dan baragraff (1) neu (2) o'r rheoliad hwn, rhaid i'r pennaeth beidio â datgelu unrhyw ddogfennau sy'n destun unrhyw orchymyn o dan adran 30(2) o Ddeddf Diogelu Data 1998.
Cyfieithu
6 

(1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i unrhyw ddogfen y mae'n ofynnol trefnu ei bod ar gael i'w harchwilio neu ei rhoi o dan reoliad 5(1), (2) neu (3).
(2) Os yw'n ymddangos i bennaeth yr ysgol ei bod yn ofynnol cyfieithu unrhyw ddogfen o'r fath i Gymraeg neu Saesneg, rhaid i'r pennaeth drefnu ei chyfieithu ac yn ddarostyngedig i baragraff (4), bydd rheoliad 5 yn gymwys i'r ddogfen a gyfieithwyd fel ag y mae'n gymwys i'r ddogfen wreiddiol.
(3) Os yw'n ymddangos i bennaeth yr ysgol ei bod yn ofynnol cyfieithu unrhyw ddogfen o'r fath i iaith heblaw Cymraeg neu Saesneg, rhaid i'r pennaeth drefnu ei chyfieithu ac yn ddarostyngedig i baragraff (4), bydd rheoliad 5 yn gymwys i'r ddogfen a gyfieithwyd fel ag y mae'n gymwys i'r ddogfen wreiddiol.
(4) Pan godir tâl am gopi o'r ddogfen wreiddiol, rhaid peidio â chodi tâl uwch am gopi o'r ddogfen a gyfieithwyd fel hyn.
Diddymu
7 
Mae Rheoliadau Addysg (Cofnodion Ysgol) 1989 wedi'u diddymu.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
Dafydd Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
8 Mawrth 2001