
2001 Rhif 607 (Cy.30)
TAI, CYMRU
Gorchymyn Personau Digartref (Angen Blaenoriaethol) (Cymru) 2001
Wedi'i wneud 27 Chwefror2001
Yn dod i rym Dydd Gwyl Dewi 1af Mawrth 2001
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pŵ er a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 189(2) o Ddeddf Tai 1996 sydd bellach yn arferadwy gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru mewn perthynas â Chymru; ar ôl ymgynghori ag unrhyw gymdeithasau sy'n cynrychioli'r awdurdodau perthnasol ac unrhyw bersonau eraill sy'n briodol ym marn Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol ag adran 189(3) :
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Personau Digartref (Angen Blaenoriaethol) (Cymru) 2001 a daw i rym ar Ddydd Gwyl Dewi, Mawrth 1af 2001.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru yn unig.
Personau y mae arnynt angen blaenoriaethol i gael llety
2 
Mae ar y disgrifiadau o berson a bennir yn erthyglau 3 i 7 angen blaenoriaethol i gael llety o dan adran 189 o Ddeddf Tai 1996.
Person sy'n ymadael â gofal neu berson sydd mewn perygl neilltuol o ecsbloetio rhywiol neu ariannol, ac sy'n 18 oed neu drosodd ond o dan 21 oed
3 

(1) Person Sydd
(a) yn 18 oed neu'n hyn ond o dan 21 oed; a
(b) a oedd ar unrhyw adeg pan oedd yn dal yn blentyn, ond nad yw bellach, yn derbyn gofal, yn cael ei letya neu'n cael ei faethu; neu
(c) sydd mewn perygl neilltuol o ecsbloetio rhywiol neu ariannol.
(2) Ym mharagraff (1)(b) uchod, ystyr “yn derbyn gofal, yn cael ei letya neu'n cael ei faethu” yw:
(a) yn derbyn gofal gan awdurdod lleol;
(b) yn cael ei letya gan gorff gwirfoddol neu ar ei ran;
(c) yn cael ei letya mewn cartref preifat i blant;(ch) yn cael ei letya am gyfnod di-dor o dri mis o leiaf—
(i) gan unrhyw awdurdod iechyd, awdurdod iechyd arbennig neu awdurdod addysg lleol, neu
(ii) mewn unrhyw gartref gofal preswyl, cartref nyrsio neu gartref nyrsio meddwl neu mewn unrhyw lety a ddarperir gan un o Ymddiriedolaethau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol; neu
(d) yn cael ei faethu'n breifat.
Person 16 neu 17 oed
4 
Person sy'n 16 neu'n 17 oed.
Person sy'n ffoi rhag trais yn y cartref neu rhag bygythiad trais yn y cartref
5 
Person heb blant dibynnol sydd wedi bod yn destun trais yn y cartref neu sydd mewn perygl trais o'r fath, neu a fydd mewn perygl trais yn y cartref os bydd ef neu hi'n dychwelyd yno.
Person sydd heb lety ar ôl ymadael â'r lluoedd arfog
6 

(1) Person sydd yn y gorffennol wedi gwasanaethu yn lluoedd arfog rheolaidd y Goron sydd wedi bod yn ddigartref ers ymadael â'r lluoedd hynny.
(2) Ym mharagraff (1) uchod, mae i'r ymadrodd “lluoedd arfog rheolaidd y Goron” yr ystyr a roddir i “regular armed forces of the Crown” yn adran 199(4) o Ddeddf Tai 1996.
Cyn-garcharor sydd heb lety ar ôl cael ei ryddhau o'r ddalfa
7 

(1) Cyn-garcharor sydd wedi bod yn ddigartref ers ymadael â'r ddalfa ac sydd â chysylltiad lleol gydag ardal yr awdurdod tai lleol.
(2) Ystyr “carcharor” yw unrhyw berson sydd am y tro yn cael ei gadw yn y ddalfa yn gyfreithlon o ganlyniad i ofyniad a osodwyd gan lys iddo ef gael ei gadw neu iddi hi gael ei chadw.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
D. Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
27 Chwefror 2001